Cofnodion:
Rhoddodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2021-22 sy'n gofyn am gymeradwyo'r ffioedd arfaethedig a oedd yn ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr adran hamdden yn 2021/22. Roedd yr adroddiad yn cynnwys taliadau am y canlynol:-
· Gwasanaethau Diwylliannol (Y Celfyddydau, Amgueddfeydd, Theatrau a'r Gwasanaeth Archifau)
· Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (Canolfannau Hamdden, pyllau nofio, cynnyrch ar-lein Actif a Thaliadau Chwaraeon Cymunedol Actif)
· Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, maes parcio Traeth Pentywyn a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn.
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at effeithiau pandemig Covid-19 ar Wasanaethau Hamdden a chymeradwyodd y datganiad yn 2.2. o'r Crynodeb Gweithredol lle y byddai'r adroddiad codi tâl yn cael ei ddefnyddio fel fframwaith craidd a fyddai'n galluogi rheolwyr i weithio'n unol ag ef, yn enwedig o ran taliadau tymhorol ac aelodaeth. Nodwyd y byddid yn ymgynghori ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn rhan o unrhyw newidiadau sylweddol i'r rhestr gyfraddau arfaethedig a byddai'n rhaid i ddau uwch-swyddog a Phennaeth y Gwasanaeth gytuno ynghylch egwyddor unrhyw newidiadau, a'u cymeradwyo, er mwyn sicrhau y byddai atebolrwydd a hyblygrwydd yn parhau, yn yr un modd â'r blynyddoedd blaenorol.
Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaeth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor wedi ymrwymo i gontract yn 2018 â marina Porth Tywyn i reoli a gweithredu Harbwr Porth Tywyn, a bod y ffioedd angori bellach yn cael eu gosod gan y cwmni hwnnw a chyfran felly'n cael ei thalu i'r Cyngor. Dywedodd fod mater a oedd angen ei gynnwys yn y taliadau hynny yn gysylltiedig â lefel y taliadau parcio a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r sawl sy'n angori. Erbyn hyn daethpwyd i gytundeb â'r cwmni ynghylch tâl parcio o £10 i'r sawl sy'n angori, tra eu bod yn gwneud hynny, ac yna byddai'r cwmni yn ei dalu i'r Cyngor.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Taliadau Hamdden 2021-22 fel y nodir yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: