Agenda item

DIWEDDARIAD WESP

Cofnodion:

[NODER: 

(1) Roedd y Cynghorydd B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach;

(2) Gadawodd y Cynghorydd D. Price, y Cadeirydd, y cyfarfod cyn bod yr eitem hon yn cael ei hystyried a chyn penderfynu ar yr eitem hon gan ei fod wedi datgan buddiant rhagfarnol a phersonol ynddi'n gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran gweithredu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2017-21.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am y datblygiadau disgwyliedig ym maes polisi Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg presennol wedi cael ei ymestyn am flwyddyn, a bydd yn dod i ben ym mis Medi 2022 man hwyraf. Bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf yn gynllun 10 mlynedd hyd at 2031. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu'r templed cynllunio a'r meini prawf gyda'r Awdurdodau Lleol. Mae hyn a datblygiadau ategol arfaethedig yn dangos y bydd rhai newidiadau nodedig sydd â goblygiadau penodol o ran gwneud penderfyniadau yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant sabothol a mewnol a gofynnwyd am ddadansoddiad o faint o staff sy'n cael yr hyfforddiant ac ar ba lefel.   Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod Archwiliad o Sgiliau'r Iaith Gymraeg wedi'i gynnal yn ddiweddar ar gyfer yr holl staff. Roedd tua 758 o geisiadau wedi dod i law (ar 8.3.21) yn gofyn am gael cofrestru ar gyrsiau ieithyddol ar draws pob lefel gallu, gan nodi ar ba lefelau roeddent. Dywedodd Rheolwr Datblygu'r Gymraeg fod angen deall yr addysgeg yn y Cyfnod Sylfaen. Mae yna adnodd cyfannol sy’n edrych nid yn unig ar ddysgu iaith, ond hefyd ar addysgu a dysgu o fewn y Cyfnod Sylfaen yn ogystal â gyda rhieni. Bydd hyn yn cael i gynnig i ysgolion sy’n dymuno gweithio gyda ni wrth symud ar hyd y continwwm. Mae lefelau hyfedredd yn bwysig iawn ymhlith y staff addysgu. Hefyd mae staff yn dysgu ochr yn ochr â phlant bach iawn yn gallu bod yn gyfrwng pwerus mewn dysgu iaith.

·         Gofynnwyd i swyddogion faint o'r £30m fydd ar gael ar gyfer hyfforddiant – dywedodd y Cyfarwyddwr ein bod yn gymwys i wneud cais am y grant cyfalaf o £30m ond ei fod yn deall mai ar gyfer adeiladu'n unig ydyw ac nid hyfforddiant, ond bod trafodaethau'n digwydd gyda Llywodraeth Cymru ynghylch refeniw.

·         Dywedodd Rheolwr Datblygu'r Gymraeg fod yr archwiliad o sgiliau'r iaith Gymraeg  yn rhoi 1 trosolwg ar y Gymraeg ac yn fan cychwyn da ar gyfer cynllunio strategol.

·         Esboniwyd pa gyrsiau oedd wedi'u cynnal a'u cwblhau gan athrawon yn ystod y cyfyngiadau symud ac ar ba lefel maent. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod adborth o'r cyrsiau wedi bod yn gadarnhaol iawn a bod Rheolwr Datblygu'r Gymraeg yn ymgynghori â'r ysgolion.

·         Mynegwyd pryder yngl?n â'r angen i fod yn gliriach ar yr iaith a ddefnyddir a nod yr ymgynghoriad cenedlaethol ar gategorïau.  Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y system newydd yn rhagweld tri phrif gategori (1, 2 a 3) gyda dau gategori trosiannol (T2 a T3) i hwyluso taith ddatblygiadol o un categori i'r llall (gweler y diagram):

·         Gofynnwyd pam yr oedd angen newid y Cwricwlwm yn ystod y cyfnod hwn.  Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod hyn wedi dechrau 7 mlynedd yn ôl a bod cynigion gan Lywodraeth Cymru yn mynd i gael eu llywio gan Fil y Cwricwlwm cenedlaethol y byddai cyflwyno'r Gymraeg yn orfodol o 3 oed, gyda'r Saesneg yn orfodol o 7 oed (a chymryd bod y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol).  Dywedodd y byddai'n cyflwyno awgrymiadau'r cyfarfod hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol y prynhawn yma.

·         Beth yw'r llinell amser y cyfeirir ati ar dudalen 12 – Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod popeth yn cael ei fonitro gennym ni yn ogystal â LlC, ac y byddai ymgynghoriad llawn ddiwedd y flwyddyn ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd cyn ei fabwysiadu.  Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant mai parhad o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg presennol yw bwriad yr un newydd, ac o'r cynnydd a wnaed yn y 4 blynedd diwethaf. Fe'i defnyddir fel llinell sylfaen a chaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru dim hwyrach na diwedd mis Ionawr 2022. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwahanol fecanweithiau yr ydym yn adrodd iddynt ar wahanol gamau gweithredu o ran ein cynlluniau – mae proses fonitro ar waith a defnyddir y wybodaeth a gesglir fel tystiolaeth i adeiladu ar ein strategaeth.

·         Esboniwyd sut y dylai'r holl Lywodraethwyr fod yn ymwybodol o Strategaeth Llywodraeth Cymru a cheisiwyd cadarnhad ynghylch hyfforddiant penodol i Lywodraethwyr o fewn y rhaglen hyfforddi, ac os felly, a fyddai'n orfodol?  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod unrhyw newidiadau polisi ac ati yn cael eu cyflwyno i Lywodraethwyr a Phenaethiaid.  Dywedodd y Cyfarwyddwr y gweithir gydag ysgolion yn rheolaidd a gall gadarnhau bod cynnydd yn cael ei wneud ym mhob ysgol a bod llawer o ysgolion wedi mabwysiadu'r siarter iaith, ethos a defnydd cyffredinol o'r iaith, ac ein bod yn gofyn i bob Corff Llywodraethu gynnwys datganiad ar ei dempled ar yr hyn y mae wedi'i wneud mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i sicrhau eu bod yn gweithio tuag at y continwwm iaith gan sicrhau bod modd gwneud cynnydd.

·         Gofynnwyd i swyddogion a oedd gan y Sir restr gyda dyddiadau penodol yn nodi pryd y dechreuodd trafodaethau gyda'r ysgol a chyda phwy? Cyfarfodydd/trafodaethau dilynol?  Os na, a ellid cyflwyno hynny ac awgrymwyd ei gynnwys ar yr agenda bob tymor i'w drafod yn agored. Cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant â'r pwynt a godwyd a bod cofnod penodol o'r hyn sydd wedi digwydd, gyda phwy a phryd roedd yn cyfarfod nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod wedi bod yn adolygu'r broses i sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chofnodi ynghylch pwy sy'n ymwybodol o'r newidiadau ac ati ar y trafodaethau a gafwyd.

·         Esboniwyd pa gymorth oedd ar gael i ddysgwyr.  Dywedodd Pennaeth y Cwricwlwm a Llesiant fod Canolfannau Iaith wedi'u sefydlu yn y sir e.e. Maes y Gwendraeth / Canolfan Griffith Jones. Ailadroddodd Rheolwr Datblygu'r Gymraeg ei bod yn bwysig i ysgolion gyfathrebu â ni er mwyn hwyluso darpariaeth i hwyrddyfodiaid. Hefyd mae staff y Canolfannau Iaith yn gweithio gyda'r Tîm Derbyn i sicrhau dealltwriaeth dda o’r ddarpariaeth ieithyddol mewn ysgolion.

·         Gofynnwyd sut roedd y fformiwla ariannu disgyblion yn ffafrio'r Gymraeg. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y fformiwla ariannu'n cael ei llywio gan niferoedd disgyblion; fodd bynnag, mae rhai ychwanegion os yw'n ysgol ddwy ffrwd.

·         Gofynnwyd i swyddogion am y broses bresennol ar newidiadau – mae angen iddi fod yn fwy agored a rhoi mwy o rybudd gan gyfathrebu â rhieni, staff, Llywodraethwyr a phawb y mae'r newidiadau'n berthnasol iddynt fel rhan o'r trafodaethau i wella'r system. Dywedodd y Cyfarwyddwr ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth a bod y broses wedi'i hadolygu dros y misoedd diwethaf, a bod y modd y cyfathrebir â'r gymuned, staff, a Llywodraethwyr yn gwella, gan eu gwneud yn ymwybodol o newidiadau, a'n bod yn dilyn cyfeiriad Llywodraeth Cymru.  Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y bydd ymgyngoriadau cyhoeddus gyda’r cyhoedd a phartneriaid statudol fel ESTYN ac Awdurdodau Lleol cyfagos. Bydd hyn am gyfnod o 8 wythnos, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd pawb, er taw yn rhithiol neu ar bapur fyddai hynny.

 

Mae Cymraeg 2050 yn cynnwys targed ar gyfer cynyddu cyfran pob gr?p blwyddyn ysgol sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o 22% (yn seiliedig ar 7,700 o ddysgwyr saith oed yn 2015/16) i 30% erbyn 2031 (tua 10,500 ym mhob gr?p blwyddyn).  Mae pob Awdurdod Lleol wedi cael targedau i'w cyrraedd yng nghyd-destun y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd.  Mae targedau a osodwyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin gan Lywodraeth Cymru yn gosod y Sir yn y categori mwyaf ymestynnol (ynghyd â Chonwy, Sir Ddinbych, Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot). Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gynnydd o 10-14% yng nghanran y plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn seiliedig ar 2019/20.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau