Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD

“Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £55m ar gyfer teithio llesol, sydd, yn ôl a ddeallaf, wedi'i gynllunio i annog awdurdodau lleol i fod yn uchelgeisiol ac annog llwybrau beicio a cherdded i'r gwaith.

A ydych yn credu bod cynllun Sir Gaerfyrddin ar gyfer llwybr beicio rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin yn uchelgeisiol ac yn arloesol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn neu a fydd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth ac AS Lleol, yn creu anhawster arall?” 

 

 

Cofnodion:

“Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £55m ar gyfer teithio llesol, sydd, yn ôl a ddeallaf, wedi'i gynllunio i annog awdurdodau lleol i fod yn uchelgeisiol ac annog llwybrau beicio a cherdded i'r gwaith. A ydych yn credu bod cynllun Sir Gaerfyrddin ar gyfer llwybr beicio rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin yn uchelgeisiol ac yn arloesol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn neu a fydd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth ac AS Lleol, yn creu anhawster arall?” 

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Mae Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn gyfle gwych i arddangos y gorau o Sir Gaerfyrddin. Mae'r prosiect yn uchelgeisiol a bydd yn dod â manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mawr i'r ardal. O safbwynt economaidd mae astudiaethau wedi dangos y byddai'n darparu rhwng £800k a £2.4m y flwyddyn i'r ardal gan greu rhwng 17 a 47 o swyddi ar adeg o angen mawr i'r sector twristiaeth. O safbwynt teithio llesol mae'r llwybr yn cysylltu 5 cymuned â'i gilydd ar hyd Dyffryn Tywi, heb gynnwys Caerfyrddin a Llandeilo, yn ogystal ag â chyflogaeth, ysbytai, addysg a'r sector adwerthu. Bydd yn rhoi dewis amgen diogel a deniadol i gymunedau ac ymwelwyr yn lle cefnffordd yr A4 sydd â nifer fawr o ddamweiniau sy'n achosi anafiadau personol. Mae adolygiad o'r data damweiniau sydd ar gael ar gyfer ardal Dyffryn Tywi yn dangos bod 17 o ddamweiniau wedi'u cofnodi ar hyd yr A40 yn y 5 mlynedd cyn 2018 – roedd hyn yn cynnwys 2 wrthdrawiad angheuol. O safbwynt yr amgylchedd byddai'r llwybr yn darparu cyfle enfawr i bobl deithio'n gynaliadwy a hynny gan fwynhau manteision ein sir wych. Mae'r llwybrau cerdded a beicio yn teithio drwy ardal sydd â digonedd o fioamrywiaeth. Rwyf yn gwerthfawrogi'r angen i ddatgarboneiddio, yr angen i hyrwyddo teithio llesol, yr angen i wella llesiant ein cenedl a'r angen i fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o'r economi ymwelwyr wrth i'r gymdeithas ddod allan o'r pandemig covid. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi annog awdurdodau i fod yn uchelgeisiol. Pwysleisiodd mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf, pe bai rhan o lein reilffordd segur, er enghraifft, yn ei darparu a fyddai'n cysylltu cymunedau, y gallai fod yn gymwys am arian grant. Mae gennym brif gynlluniau teithio llesol ar gyfer pob un o'n prif drefi ac aneddiadau. Rydym hefyd yn cynnwys llwybr Dyffryn Tywi sy'n brosiect rhagorol a fydd yn helpu ein cymunedau i adfer o effeithiau trychinebus y 12 mis diwethaf a sicrhau manteision i bawb gan gynnwys cymorth. Rydym wedi cyflwyno cynnig am grant eto eleni drwy Raglen Grant y Gronfa Drafnidiaeth Leol i gefnogi ein gwaith i gyflawni'r llwybr. Ni allwn ond gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn cefnogi ein huchelgais i weld y prosiect hwn yn cael ei gyflawni ar gyfer ein cymunedau, darparu atyniad o'r radd flaenaf i dwristiaid a chyflawni'r manteision economaidd blynyddol posibl i'r sir, yn enwedig y sectorau twristiaeth a lletygarwch sydd wedi cael y fath ergyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Ein huchelgais yw gweld y llwybr hwn yn cael ei gwblhau.”    

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau