Agenda item

CWESTIWN GAN DR T. LAXTON I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Rwyf wedi cael fy siomi gan y tro pedol yn achos yr ymrwymiad i'r Gronfa Bensiwn ymwahanu oddi wrth fuddsoddi mewn tanwydd ffosil:

 

A allwch ddweud wrthyf faint sydd wedi’i fuddsoddi yn fflyd cerbydau’r Cyngor ers datgan yr Argyfwng Hinsawdd a faint o hwn sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cerbydau trydan neu gerbydau eraill nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil?A allwch chi roi sicrwydd i mi, yn achos cerbydau'r Cyngor o leiaf, fod cynnydd mawr wedi'i wneud ac nad ydym yn cael ein gadael ar ôl fel Cynghorau eraill megis Abertawe, a hefyd, y rhan helaeth o Ewrop.

Cofnodion:

“Rwyf wedi cael fy siomi gan y tro pedol yn achos yr ymrwymiad i'r Gronfa Bensiwn ymwahanu oddi wrth fuddsoddi mewn tanwydd ffosil:

 

A allwch ddweud wrthyf faint sydd wedi’i fuddsoddi yn fflyd cerbydau’r Cyngor ers datgan yr Argyfwng Hinsawdd a faint o hwn sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cerbydau trydan neu gerbydau eraill nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil?A allwch chi roi sicrwydd i mi, yn achos cerbydau'r Cyngor o leiaf, fod cynnydd mawr wedi'i wneud ac nad ydym yn cael ein gadael ar ôl fel Cynghorau eraill megis Abertawe, a hefyd, lawer o Ewrop.”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch Dr Laxton am eich cwestiwn. Nid wyf yn hollol si?r a wyf yn cytuno'n llwyr â'r sylw agoriadol am y tro pedol yn achos ymrwymiad y gronfa bensiwn. Rwyf eisoes wedi rhoi ateb cynhwysfawr ar hynny sy'n dangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir ac wedi cymryd camau breision dros y tair blynedd diwethaf i symud oddi wrth danwydd ffosil. Ond, rwy'n cyfaddef bod tipyn o ffordd i fynd eto.

 

Felly o ran adnewyddu'r fflyd, mae gennym raglen dreigl bum mlynedd, ac erbyn diwedd y mis hwn bydd yr awdurdod wedi prynu pedwar cerbyd ychwanegol ag allyriadau isel iawn, sydd yn geir adrannol trydan yn y bôn. Erbyn diwedd 2021/22 byddwn hefyd yn cwblhau adolygiad o strategaeth Adnewyddu'r Fflyd, a fydd yn cynnwys asesiad o'r farchnad gyflenwi ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cynnwys cam gweithredu yn y cynllun busnes Trafnidiaeth i ddiweddaru Strategaeth Fflyd y Cyngor er mwyn lleihau lefel yr allyriadau Carbon a Nitrogen Deuocsid o'n gweithrediadau trafnidiaeth dros y pum mlynedd nesaf. Y ffordd rydym yn gobeithio cyflawni hyn yw drwy leihau'r defnydd o danwydd ffosil drwy gyflwyno cerbydau ULEV amgen, a hefyd caffael mwy o gerbydau a pheiriannau sy'n defnyddio costau oes gyfan. Mae gennyf restr hir yma y gallaf ychwanegu ati, ond rwy'n ymwybodol o'r amser, felly'r hyn y gallwn ei wneud yw anfon y rhestr gyfan hon atoch o'r Camau Gweithredu yn y Cynllun Busnes Trafnidiaeth rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Felly, gobeithio y gallwn fuddsoddi mwy mewn cerbydau ELV wrth i ni symud ymlaen, a byddwch yn cofio mai ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ceir adrannol trydan yn ôl yn 2012. Fel pwt o wybodaeth ychwanegol, dros y 6 blynedd diwethaf rydym wedi lleihau nifer y milltiroedd a deithiwyd gan ein staff mewn cerbydau preifat dros 1.3 miliwn o filltiroedd y flwyddyn. Felly mae hynny'n dipyn o gamp, ond unwaith eto nid wyf yn hunanfodlon, mae gennym ffordd bell i fynd. Gobeithiaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn.

 

Gofynnodd Dr Laxton y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwy'n hapus iawn i weld bod llawer yn cael ei wneud, ac roeddwn yn falch bod paneli haul wedi'u gosod er enghraifft ar do'r ganolfan hamdden yn Nhre Ioan. Rwy'n si?r eich bod yn ymwybodol nad cerbydau trydan yw'r unig ateb o ran cerbydau, ac a allwch ddweud wrthyf a yw'r Cyngor yn ystyried cerbydau carbon isel eraill fel hydrogen i bweru bysiau a phethau tebyg"

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Ydyn yn bendant yw'r ateb syml i hynny. Mae cerbydau trydan yn dechrau dyddio gan ein bod yn symud ymlaen yn gyflym iawn i gerbydau sy'n cael eu pweru gan hydrogen. Ond yn sicr, yr her i ni yw ein fflyd a natur y cerbydau fflyd sydd gennym. Fe ddefnyddiaf y cerbydau sy'n casglu ein sbwriel yn wythnosol fel esiampl. Yr her i ni yw natur wledig a maint daearyddol Sir Gaerfyrddin. Petaem yn ffitio, er enghraifft, batri i un o'n lorïau sbwriel, byddai hynny'n peri her i ni, yn enwedig os ydym yn mynd allan i gymunedau gwledig i gasglu biniau, o ran pa mor bell y gellir mynd a pha mor hir y gall y batri bara.  Felly, mae angen inni wneud llawer o bethau. Rhaid inni fuddsoddi mewn rhagor o gerbydau sy'n cael eu pweru gan fatris a cherbydau sy'n cael eu pweru gan hydrogen, ond mae angen inni hefyd gynyddu nifer y pwyntiau gwefru fel y gall y lorïau sbwriel hyn fynd allan i gymunedau gwledig, ailwefru eu batris, ac yna symud ymlaen i'r gwaith nesaf. Felly, rydym yn y camau cynnar o ran hyn i gyd. Byddem wedi gwneud mwy fel yr wyf wedi sôn eisoes oni bai am y pandemig. Ond rydym yn gobeithio nawr fod y gwaethaf drosodd o ran hynny ac y gallwn symud ymlaen yn hyderus i edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio ein fflyd a hefyd buddsoddi mewn rhaglenni datgarboneiddio.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau