Agenda item

CWESTIWN GAN MS C. STRANGE I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

A yw'r Cyngor wedi ystyried defnyddio'r "Cynllun Gweithredu Hinsawdd ar gyfer Cynghorau" a gyhoeddwyd gan Gyfeillion y Ddaear fel cymorth i'r rhaglen adfer yn sgil Covid? Nod y canllaw hwn yw creu adferiad gwyrdd a theg gan roi sylw hefyd i Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol. Mae'n cynnwys argymhellion sy'n berthnasol i Gymru.

gweler:- 

 https://climate.friendsoftheearth.uk/sites/files/climate/documents/2020-06/Climate%20Action%20Plan%20for%20councils%20June%202020.pdf

 

 

Cofnodion:

“A yw'r Cyngor wedi ystyried defnyddio'r "Cynllun Gweithredu Hinsawdd ar gyfer Cynghorau" a gyhoeddwyd gan Gyfeillion y Ddaear fel cymorth i'r rhaglen adfer yn sgil Covid? Nod y canllaw hwn yw creu adferiad gwyrdd a theg gan roi sylw hefyd i Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol. Mae'n cynnwys argymhellion sy'n berthnasol i Gymru.

gweler:- 

 https://climate.friendsoftheearth.uk/sites/files/climate/documents/2020-06/Climate%20Action%20Plan%20for%20councils%20June%202020.pdf

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Diolch Celia am eich cwestiwn; rydym yn gwbl ymwybodol o'r ddogfen gan Gyfeillion y Ddaear y cyfeiriwch ati yn eich cwestiwn, ac rydym eisoes yn rhoi ystyriaeth i hyn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn edrych ar ddulliau eraill y mae sylw wedi'i ddwyn atynt mewn dogfennau eraill, yn ein dogfen carbon sero-net ni ein hunain, a'r rhaglen adfer COVID-19 rydym yn gweithio arni ar y funud ac ar fin ei chyhoeddi yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Mae dogfen arall hefyd, ac mae'n si?r eich bod yn ymwybodol ohoni, sef 'Map Llwybr Sector Cyhoeddus Carbon Sero-net' sy'n cael ei lunio ar hyn o bryd gan Banel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol fel fframwaith thematig lefel uchel. Nawr, lle bo'n bosibl, ein bwriad yw defnyddio'r Map Llwybr hwn i helpu i lywio ein dull ni. Dylid nodi bod rhai o'r Targedau yn y Map Llwybr hwn yn arbennig o heriol i ni ac i awdurdodau lleol eraill hefyd, ac mae camau gweithredu priodol yn cael eu trafod ar hyn o bryd gyda'r Swyddogion Arweiniol perthnasol i'w cynnwys yn ein Cynllun Carbon Sero-net.

 

Felly yr hyn sydd gennym yw amrywiaeth o ddogfennau, ac mae gan bob un fapiau llwybr a syniadau gwahanol, a'r hyn rydym yn gobeithio ei wneud yw dewis a dethol rhai o'r syniadau ac argymhellion sydd fwyaf priodol i Sir Gaerfyrddin. Yn benodol, o ystyried ein bod yn wynebu heriau economaidd enfawr yn y dyfodol, heriau cymdeithasol, a heriau amgylcheddol hefyd o ganlyniad i Covid, mae'r Cyngor, fel y soniais, ar fin cyhoeddi cynllun adfer economaidd drafft a chynllun cyflawni sy'n nodi rhyw 30 o gamau gweithredu i gefnogi economi Sir Gaerfyrddin ac sy'n mynd i'r afael ag effeithiau COVID a Brexit. Mae'n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cefnogi Busnes, Pobl a Lleoedd. Wrth wraidd hyn byddwch yn amlwg yn deall ein bod yn ceisio creu cymuned sydd yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd, ac yn fwy cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin.

 

Felly, gobeithio bod hynny'n ateb eich cwestiwn. Rydym yn ymwybodol o'r ddogfen, ond rydym hefyd yn ymwybodol o ddogfennau perthnasol eraill hefyd.

 

Gofynnodd Ms Strange y cwestiwn atodol canlynol:-

"Fel yr awgrymwyd yn fy nghwestiwn, mae tua 46 o'r 50 o argymhellion gan Gyfeillion y Ddaear yn berthnasol i Gymru, ac rwyf wedi codi dau yn unig o'r rhain a'u cyfuno. A wnaiff y Cyngor gynhyrchu cynllun adfer Natur ac Ecosystem i wrthdroi ac adfer ansawdd a swyddogaeth rhywogaethau, cynefinoedd a'r ecosystem, gan gynnwys rheoli tir ac ymylon ffyrdd sy'n eiddo i'r Cyngor?

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

“Rydym yn gwneud llawer o waith ar gadwraeth a bioamrywiaeth. Mae gennym dîm o swyddogion sy'n gwneud y gwaith hwn yn ddyddiol. Felly mae popeth rydych yn ei grybwyll yn amlwg yn bwysig i ni, oherwydd mae'r cydbwysedd rhwng datblygiad a bioamrywiaeth a gwarchod yr amgylchedd mor hanfodol i ni wrth symud ymlaen. Un peth mae'r pandemig wedi ei amlygu yw'r angen i edrych yn lleol; mae angen i ni edrych ar yr heriau ar stepen ein drws oherwydd gallwn ni i gyd wneud rhagor. Felly yn sicr, rydym yn gwneud hynny eisoes a byddwn yn cynyddu'r gwaith hwnnw yn y dyfodol.