Agenda item

CWESTIWN GAN MR G. PARKER I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Nid oedd y Crynhoad o'r Gyllideb 2020/21, a gyhoeddwyd ar 1/2/21, yn rhoi sylw i unrhyw osodiadau ynni adnewyddadwy newydd yn y gyllideb 5 mlynedd, a allai helpu'r Cyngor i gyflawni ei Gynllun Carbon Sero Net erbyn 2030.

 

Gellid darparu holl ofynion ynni'r Cyngor, trydan 20GWh a gwresogi 44GWh y flwyddyn,  mewn modd adnewyddadwy trwy fuddsoddi mewn paneli solar gyda batri wrth gefn wedi'i osod ar adeiladau a meysydd parcio lle mae'r ynni'n cael ei ddefnyddio, at hunan-ddefnydd yn unig, ar gost o oddeutu £41m, wedi'i ariannu'n llawn gan fenthyciadau Salix di-log y Llywodraeth, heb unrhyw gost i dalwyr y Dreth Gyngor yn Sir Gaerfyrddin.

 

Byddai'r benthyciadau Salix yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 8 mlynedd trwy arbedion ynni. Golygai hyn y byddai'r holl ynni yn rhad ac am ddim i'r Cyngor, gan arbed £4.8m y flwyddyn, y gellid ei ddefnyddio i ddarparu gwell gwasanaethau i'r gymuned.

 

Mae manylion a chyfrifiadau ar gael yn:

https://www.carmarthenshireenergy.org/YSG/PublicFiles/media/CCCRenewableEnergyInvestment.pdf

 

Cwestiwn: Pam nad yw'r Cyngor yn manteisio ar y cyfle delfrydol hwn i ddod yn hunangynhaliol o ran ynni adnewyddadwy?

Cofnodion:

“Nid oedd y Crynhoad o'r Gyllideb 2020/21, a gyhoeddwyd ar 1/2/21, yn rhoi sylw i unrhyw osodiadau ynni adnewyddadwy newydd yn y gyllideb 5 mlynedd, a allai helpu'r Cyngor i gyflawni ei Gynllun Carbon Sero Net erbyn 2030.

 

Gellid darparu holl ofynion ynni'r Cyngor, trydan 20GWh a gwresogi 44GWh y flwyddyn,  mewn modd adnewyddadwy trwy fuddsoddi mewn paneli solar gyda batri wrth gefn wedi'i osod ar adeiladau a meysydd parcio lle mae'r ynni'n cael ei ddefnyddio, at  hunan-ddefnydd yn unig, ar gost o oddeutu £41m, wedi'i ariannu'n llawn gan fenthyciadau Salix di-log y Llywodraeth, heb unrhyw gost i dalwyr y Dreth Gyngor yn Sir Gaerfyrddin.

 

Byddai'r benthyciadau Salix yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 8 mlynedd trwy arbedion ynni. Golygai hyn y byddai'r holl ynni yn rhad ac am ddim i'r Cyngor, gan arbed £4.8m y flwyddyn, y gellid ei ddefnyddio i ddarparu gwell gwasanaethau i'r gymuned.Mae manylion a chyfrifiadau wedi'u rhoi ar y dudalen we yn eich pecyn agenda 

 

Pam nad yw'r Cyngor yn manteisio ar y cyfle delfrydol hwn i ddod yn hunangynhaliol o ran ynni adnewyddadwy?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch Mr Parker am eich cwestiwn. Mae rhan o'ch cwestiwn yn ymwneud eto â'n gallu i greu ynni adnewyddadwy fel awdurdod lleol, ac yn fy ateb i gwestiwn blaenorol, rydym yn cael ein rhwystro gan y diffyg capasiti ar y rhwydwaith dosbarthu lleol ac mae hynny'n achos rhwystredigaeth fawr i ni fel y soniais yn gynharach oherwydd mae gennym gynlluniau ar y tir llwyd rydym yn berchen arno fel awdurdod lleol. Mae gennym gynlluniau ar gyfer paneli haul a thyrbinau gwynt ond, yn anffodus, ni allwn fwrw ymlaen â'r cynlluniau hynny ar hyn o bryd. Gobeithio, o fewn y ddwy flynedd nesaf, gallwn lobïo Western Power a Llywodraeth Cymru i ddarparu'r adnoddau i'n galluogi i wneud hynny, ac wedyn gallwn symud ymlaen yn gyflym iawn.

 

Felly, o ran y gwaith Salix rydych yn cyfeirio'n ato'n benodol, rydym wedi cymryd camau breision i leihau'r ôl troed carbon yn ein hadeiladau annomestig, ac yn enwedig gyda rhaglen buddsoddi i arbed ddi-log Salix, rydym wedi buddsoddi fel awdurdod lleol yn y cynllun penodol hwnnw dros £2m mewn rhyw 200 o brosiectau effeithlonrwydd ynni. Rhagwelir y bydd y buddsoddiad hwn yn arbed dros 41,000 tunnell cyfwerth â charbon deuocsid dros oes y technolegau a osodir. Mae'r buddsoddiad hwn, ynghyd â rhaglen barhaus y Cyngor o resymoli eiddo, y bu i mi ei chrybwyll ynghylch tai Cyngor er enghraifft, y gweithio ystwyth rydym yn ei drafod ar hyn o bryd, a'r rhaglenni cynnal a chadw, yn arbed arian ac yn cwtogi ar garbon mewn cyfnod lle mae costau cyfleustodau ar gynnydd.

Un pwynt olaf, rydym yn lleihau ein hôl troed carbon hefyd o ran ein goleuadau stryd. Yn ddiweddar roeddem wedi cwblhau'r gwaith o drosi dros 80% o'n 20,000 o lusernau golau stryd i oleuadau deuod sy'n allyrru golau (LED) ynni isel gyda chyllid di-log o Raglen Llywodraeth Cymru. Felly, mae gweddill y goleuadau stryd eisoes yn defnyddio llusernau ynni isel sy'n pylu golau ond bydd y rhain yn cael eu newid i LED ar ddiwedd eu hoes. Ac, yn olaf, rydym hefyd yn cynnal tua 4,300 o Oleuadau Stryd cymunedol ar ran y 72 o gynghorau tref a chymuned. Mae'r rhain eto'n cael eu newid i LED gyda llusernau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon yn cael eu rhoi ar waith hefyd.

 

Felly, er gwaethaf ein rhwystredigaethau yngl?n â'r diffyg capasiti ar y grid cenedlaethol, gallaf dystio ein bod yn dal i lwyddo i gyflawni llawer iawn o arbedion ynni. Felly, gobeithiaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn.

 

Gofynnodd Mr Parker y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwy'n credu bod tipyn o gamddealltwriaeth o ran fy nghwestiwn. Roeddwn wedi gofyn am osod p?er haul a batri wrth gefn ar osodiadau lleol, nad oes angen allforio dim i'r grid cenedlaethol, felly does dim cyfyngiad o ran p?er cenedlaethol neu Western Power. Felly, does dim rheswm dros beidio â bwrw ymlaen â hyn heddiw. Mae'n syml iawn, dim ond ffonio gosodwr solar sydd ei angen ac mae'n dod i osod. Soniasoch am rywfaint o wariant gyda Salix, ac rwy'n deall y cafodd hynny ei wneud rai blynyddoedd yn ôl, ond mae'n dangos ei fod yn eithaf posibl ond, fel enghraifft, dyfynasoch £2m. Nawr, mae angen £41m arnoch i wneud y buddsoddiad ynni llawn ar gyfer eiddo'r Cyngor. Mae hynny'n 5% wedi'i fuddsoddi dros y pum mlynedd diwethaf ond, dim ond naw mlynedd sydd gennym ar ôl cyn eich targed o 2030 ar gyfer bod yn garbon sero-net. Felly, nid wyf yn gweld sut y gall hynny ddigwydd ar y gyfradd honno. Sut gallwch gyflymu'r pethau hyn?

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Fe wnaf gymryd y pwynt olaf yn gyntaf ac yna fe af yn ôl i'ch datganiad agoriadol yn eich ail gwestiwn.

 

Rwy'n credu eich bod yn deall bod y flwyddyn ddiwethaf hon, sef blwyddyn gyntaf ein cynllun gweithredu, wedi bod yn un nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen, fel y crybwyllais yn gynharach. Rydym wedi gorfod rhoi'r gorau am y tro i lawer o'r datblygiadau hyn er mwyn ymateb i argyfwng y pandemig, ac, fel y soniais, mae staff a fyddai fel arfer yn gweithio ar hyn ac ar brosiectau i ddatgarboneiddio hyd yn oed ymhellach ein stoc dai a'n hadeiladau annomestig, wedi symud i brosiectau eraill sydd wedi effeithio'n uniongyrchol ar fynd i'r afael â'r pandemig. Felly rwy'n gobeithio y gallwch ein hesgusodi ni, er nad wyf yn gwneud esgusodion, ond mae'r rhain yn rhesymau ffeithiol pam nad ydym efallai wedi gwneud y cynnydd roedd llawer ohonom yn gobeithio'i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf honno. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch ddeall y sefyllfa roedd llawer o'n swyddogion yn ei wynebu yn ystod y flwyddyn gyntaf hon o weithio ar y cynllun gweithredu. Ond y gobaith yw, os bydd iechyd y genedl yn caniatáu dros y naw mlynedd nesaf, y gallwn yn bendant gyflymu ein gwaith o ran cyrraedd ein targed carbon net.

 

Felly, yn benodol o ran storio batris, rydym yn edrych ar gyfleoedd wrth inni siarad o ran ein datblygiad tai newydd yn Nheras Glanmor, y cyfeiriais ato'n gynharach, sy'n cynnwys paneli haul ffotofoltaig, ac, fel y soniais, storio batris. Nawr, rydym hefyd yn ystyried buddsoddi mewn storio batris yn ein stoc tai cyngor, a chrybwyllais hynny'n gynharach yn ogystal. Felly, rydym yn y flwyddyn gyntaf ac rydym yn ffeindio ein ffordd yn araf bach, mewn blwyddyn sydd wedi bod yn heriol i bawb. Ond rwy'n gobeithio os byddwch yn dod yn ôl gyda chwestiwn tebyg yr adeg hon y flwyddyn nesaf, y byddwn wedi cyflawni llawer mwy, os bydd y pandemig yn caniatáu wrth gwrs. Gobeithiaf fod hynny'n ateb eich ail gwestiwn.