Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd C. Campbell (Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-23, ym mis Ebrill 2021. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn amcanion Llesiant y Cyngor a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018, fel y'i diwygiwyd i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Coronafeirws (Covid-19), Brexit a newid yn yr hinsawdd. Er yr ystyriwyd ei bod yn arfer da sicrhau bod y Strategaeth Gorfforaethol wedi'i diweddaru a bod adnoddau wedi'u dyrannu i flaenoriaethau, nododd y Pwyllgor fod yn rhaid cyhoeddi'r Amcanion Gwella yn flynyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mesur Cymru 2009) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Gwnaed cyflwyniadau ategol hefyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol y Cynghorydd E. Dole (Arweinydd y Cyngor sy'n gyfrifol am adfywio) L. Evans (Tai), P. Hughes Griffiths (Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth) a G. Davies (Addysg) mewn perthynas â'u portffolios penodol
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at bwynt gwella 'A' yn Amcan Llesiant 2 sef "cynyddu'r amrywiaeth o gyfleoeddgweithgarwch corfforol sydd ar gael i blant a thargedu'r rheiny sy'n wynebu risg uwch o anweithgarwch". Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gellid cyflawni hynny heb wahanu plant oddi wrth eu dosbarth.
Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, gan nad oedd gweithgareddau'n addas ar gyfer pob disgybl, fod yr awdurdod yn gweithio gydag ysgolion a disgyblion i ddatblygu a chynyddu'r ystod o weithgareddau corfforol sydd ar gael i blant. Byddai anogaeth yn cael ei rhoi i blant, lle bo angen, ond ni fyddai unrhyw blentyn yn cael ei wahanu oddi wrth ei ddosbarth.
· Cyfeiriwyd at y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i ysgolion ac a ellid defnyddio hynny i fesur gweithgarwch mewn ysgolion fel y nodir yn yr adroddiad.
Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, er bod yr arian ychwanegol yn cael ei groesawu, yn yr un modd â dyfarniadau grant eraill a dderbyniwyd yn ddiweddar, byddai'n cael ei ddyrannu i gefnogi llesiant ac addysg plant yn ystod y cyfnod anodd hwn.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar y cynnydd yn y nifer sy'n defnyddio'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim yn dilyn y pandemig, cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg fod y gost yn cael ei thalu gan y cyngor ac na fyddai unrhyw blentyn mewn angen yn mynd hebddo. Cyfeiriodd hefyd at y rhai a oedd wedi colli eu swydd neu wedi'u rhoi ar ffyrlo oherwydd y pandemig a phwysleisiodd pa mor bwysig oedd i rieni yr effeithiwyd arnynt gan yr amgylchiadau hynny, neu amgylchiadau eraill, gysylltu â'r awdurdod/ysgol os oedd angen cymorth arnynt.
· Cyfeiriwyd at yr amcangyfrif o 3,000 o swyddi a gollwyd ledled Sir Gaerfyrddin ers dechrau'r pandemig ac a oedd yr awdurdod wedi pennu unrhyw amserlen i wneud yn iawn am y colledion hynny.
Atgoffodd Arweinydd y Cyngor y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi datblygu cynllun adfer i helpu i wneud yn iawn am effaith y pandemig ar Sir Gaerfyrddin (yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i baratoi cynllun o'r fath) a'i fod wedi gwneud darpariaeth yn strategaeth y gyllideb i fuddsoddi yn yr adferiad a bodloni amcanion y cynllun o fewn amserlen mor fyr â phosibl. Yn hynny o beth, nododd fod disgwyl i gymeradwyaeth dod i law yn fuan gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiad Pentre Awel a fyddai, pan gaiff ei roi ar waith yn llawn, yn creu oddeutu 2,000 o swyddi dros gyfnod o 10 mlynedd.
Dywedodd y Pennaeth Adfywio, er bod amserlen gychwynnol y cynllun yn ceisio dychwelyd i lefelau cyflogaeth fel yr oeddent cyn y pandemig o fewn dwy flynedd, byddai'r Awdurdod yn ceisio cyflymu'r amserlen drwy ddefnyddio cyllid ychwanegol a manteisio ar yr holl gyfleoedd wrth iddynt godi.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar gymorth i fusnesau yn ystod y pandemig presennol a thu hwnt, cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu'r cymorth hwnnw lle bynnag y bo modd. Roedd cyllid ar gael yn strategaeth y gyllideb i gefnogi busnesau newydd a'r rhai sy'n bodoli eisoes a byddai pob cyfle'n cael ei archwilio i ddenu cyllid o ffynonellau eraill i wella'r ddarpariaeth honno. Yn hynny o beth, byddai'r Awdurdod yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer parhau â Rhaglen Arfor am y ddwy flynedd nesaf, sef rhaglen yr oedd wedi gallu darparu £500k o gyllid grant i fusnesau yn y sir.
Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod un o brif themâu'r cynlluniau adfer yn ymwneud â lleoliaeth drwy wella sgiliau'r gweithlu lleol a defnyddio Strategaeth Gaffael y Cyngor i helpu busnesau lleol
· Cyfeiriwyd at yr effaith bosibl y gallai ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd ei chael ar economi Sir Gaerfyrddin ac a oedd hynny yn ffactor a ystyriwyd wrth lunio cynllun adfer Covid y Cyngor. Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod wedi sefydlu Gweithgor Brexit a gyfarfu bob pythefnos i ystyried materion sy'n codi o'r ymadawiad, a allai effeithio ar y sir.
· Cyfeiriwyd at yr amser yr oedd disgyblion wedi'i golli o'r ysgol yn ystod y pandemig a'r effaith bosibl y gallai ei chael ar blant sy'n dysgu Cymraeg sy'n byw mewn cartrefi di-Gymraeg. Cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth fod pryder wedi'i godi ledled Cymru. Cyfeiriodd hefyd at y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i helpu disgyblion i ddal i fyny â'u hastudiaethau a gobeithiai y gellid defnyddio rhywfaint o hynny i helpu disgyblion yr effeithiwyd arnynt gyda'u Cymraeg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Strategaeth Gorfforaethol 2018/23 - Diweddariad Ebrill 2021.
Dogfennau ategol: