Agenda item

CWESTIWN GAN MR P. HUGHES I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Roeddwn yn falch o weld Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2019.

 

Fel rhan o'r ddadl ar y gyllideb hoffwn ofyn faint y mae'r Cyngor wedi'i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ers datgan Argyfwng Hinsawdd ar 20/2/19?

Cofnodion:

“Roeddwn yn falch o weld Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2019.

 

Fel rhan o'r drafodaeth ar y gyllideb hoffwn ofyn faint y mae'r Cyngor wedi'i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ers datgan Argyfwng Hinsawdd ar 20/2/19?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch am y cwestiwn Mr Hughes. Credaf fod angen imi ddechrau drwy ddweud, oherwydd datblygiad hanesyddol Cyngor Sir Caerfyrddin a natur yr adeiladau sydd gennym, ni fyddwn byth yn gallu cyrraedd pwynt lle'r ydym yn gwbl ddi-garbon oherwydd yr allbwn gweddilliol sy'n gysylltiedig â rhai o'n hen adeiladau, a dyna pam rydym yn pwysleisio ein bod yn anelu at fod yn garbon sero-net erbyn 2030. Erbyn hyn, mae sero-net yn elfen bwysig o'n datganiad oherwydd ein nod yw gwneud iawn am ein hôl troed carbon gweddilliol drwy gynyddu'r ynni adnewyddadwy rydym yn ei greu ar ystâd y Cyngor.

 

Fodd bynnag, rydym yn wynebu problem a chodwyd hyn yn gynharach yn ein trafodaeth ar y gyllideb y bore yma gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen. Mae gennym broblem gyda'n Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu - Western Power – mae gennym rwystr, mae gennym ddiffyg capasiti ar y grid cenedlaethol sy'n llesteirio ein huchelgais i greu mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy. Ychydig iawn o gapasiti ychwanegol sydd ar gael ar y rhwydwaith dosbarthu trydan fel y soniais ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Yn ddelfrydol, dyna'r hyn sydd ei angen arnom o ran paneli haul a thyrbinau gwynt a hyd yn oed d?r. Roeddwn yn sôn am brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr y mae mawr arnom eu hangen er mwyn gwneud yn iawn. Felly rydym yn cynnal trafodaethau gyda Western Power, a hefyd ar sail ranbarthol gydag awdurdodau lleol eraill i weld a allwn ddylanwadu rhywfaint ar y rhwydwaith dosbarthu er mwyn rhoi mwy o gapasiti i ni. Ond yn anffodus mae hyn y tu hwnt i'n rheolaeth, oherwydd mae'n amlwg bod angen i Western Power a Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'r peth, ac mae'n rhywbeth rydym yn rhoi blaenoriaeth iddo.

 

Fodd bynnag, er gwaethaf y rhwystrau a'r heriau a wynebwn o ran prosiectau ar raddfa fawr, rydym wedi cyflawni rhai canlyniadau cadarnhaol gyda phrosiectau llawer llai a chyfeiriaf at rai ohonynt yn gyflym iawn. Rhoesom baneli haul ffotofoltaig ar 10 safle yn ein prosiect Re:fit Cymru ac roedd hyn yn cyfateb i gapasiti o tua 460 kW. A hefyd yn ein rhaglenni adeiladu newydd, yr oeddwn yn cyfeirio atynt mewn cwestiwn cynharach. Felly, mae'n rhwystredig i ni ond gallwn wneud prosiectau ar raddfa fach, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ar ein heiddo. Fodd bynnag, dim ond crafu'r wyneb mae hyn yn mynd i'w wneud hyd nes ein bod yn deall ac yn croesi'r rhwystr mawr o ran cael mwy o gapasiti yn rhwydwaith y grid cenedlaethol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n esbonio ein rhwystredigaeth Mr Hughes, ond hefyd yn rhoi cipolwg ichi ar y prosiectau bach sydd ar waith gennym.

 

Bu i Mr Hughes, cyn gofyn cwestiwn atodol, ofyn a ellid ateb ei gwestiwn cyntaf yn gyntaf, sef faint sydd wedi'i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, nid beth yw'r problemau a'r rhwystredigaethau sydd gennych. Y cwestiwn a ofynnais oedd faint sydd wedi'i fuddsoddi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Campbell mewn ymateb "Iawn, fel yr eglurais, yr hyn rydym wedi'i wneud yw buddsoddi yn y rhaglen ôl-ffitio ar y safleoedd datblygu newydd, a hefyd yn rhai o gartrefi'r Cyngor rydym yn berchen arnynt, ac mae hyn fel y soniais wedi cynyddu cyfanswm ein capasiti 460kw i 1.65mw. Rwy'n credu bod hynny'n gynnydd eithaf da ac rwy'n deall yn iawn bod angen i ni wneud rhagor, ond byddwn ni byth yn cyrraedd ein targed sero-net oni bai ein bod yn datrys y broblem gyda chapasiti'r grid cenedlaethol. Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod yn cyflawni hynny

 

Mr Hughes – Felly allwch chi ateb fy nghwestiwn y Cynghorydd Campbell, sef faint sydd wedi'i fuddsoddi?

 

Y Cynghorydd Campbell – Mae'n ddrwg gennyf, a ydych yn golygu o ran buddsoddiad ariannol. Nid oes gennyf y ffigurau hynny wrth law, roeddwn yn meddwl tybed a oedd eich cwestiwn yn ymwneud â chanlyniadau gwirioneddol y buddsoddiad o ran lleihau carbon, ac roeddwn yn tybio y byddai hynny wedi bod o fwy o ddiddordeb i chi na'r union fuddsoddiad ariannol. Fodd bynnag rwy'n hapus i anfon atoch y data a'r manylion am y buddsoddiad ariannol rydym wedi'i wneud ar ôl y cyfarfod heddiw, os yw hynny'n iawn gyda chi?  

 

Gofynnodd Mr Hughes y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwyf wrthi'n gosod paneli haul ffotofoltaig i'm t?, ac i mi mae hynny i weld yn ffordd syml iawn o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gartref yma. A allwch ddweud wrthyf faint o gartrefi domestig y Cyngor sydd i fod i gael paneli haul wedi'u gosod iddynt yn y flwyddyn nesaf?

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Fel y soniais, mae ein holl ddatblygiadau newydd yn mynd i gael y cynllun Re:fit sy'n cynnwys paneli haul, gwefru batris, inswleiddio ac yn y blaen. Mae gennym hefyd gynllun yn Nheras Glanmor sy'n cynnwys rwy'n meddwl tua 18 o gartrefi lle rydym yn ôl-ffitio paneli haul a chynlluniau eraill, a chyfeiriodd y Cynghorydd Linda Evans at hyn mewn cyflwyniad cynharach ynghylch ein stoc tai cyngor, sef ein bod yn defnyddio'r rhent o'r stoc honno i ailfuddsoddi mewn datgarboneiddio. Mae'n un o'n prif flaenoriaethau ac mae datgarboneiddio ein stoc bresennol o dai  cyngor yn flaenoriaeth, ac rydym yn defnyddio rhywfaint o'r refeniw rhent cyngor hwnnw i wneud y buddsoddiad hwnnw.