Agenda item

CWESTIWN GAN MR M. REED I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

A yw'r Cynghorydd Campbell yn hapus gyda'r cynnydd a wnaed gan Gronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil yn unol â’r cynnig a basiwyd gan y Cyngor yn y cyfarfod ar 9 Hydref 2019 a oedd yn galw ar y Gronfa i ymwahanu’n llwyr oddi wrth danwyddau ffosil o fewn dwy flynedd ac ail-fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy lleol?

Cofnodion:

“A yw'r Cynghorydd Campbell yn hapus gyda'r cynnydd a wnaed gan Gronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil yn unol â’r cynnig a basiwyd gan y Cyngor yn y cyfarfod ar 9 Hydref 2019 a oedd yn galw ar y Gronfa i ymwahanu’n llwyr oddi wrth danwyddau ffosil o fewn dwy flynedd ac ail-fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy lleol?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Diolch Mr Reed am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, y Cyngor yw'r awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, sydd werth £3bn, ac mae'n debyg y byddwch hefyd yn gwybod bod dros 60 o sefydliadau'n aelodau ohoni, a bod yn rhaid i benderfyniadau ar fuddsoddiadau gael eu cymeradwyo gan yr holl aelodau ac nid Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig. Felly, mae'r gronfa'n fuddsoddwr hirdymor sy'n gyfrifol am ofalu am fuddiannau buddiolwyr dros ddegawdau lawer i'r dyfodol. Ond mae'r risg yn sgil yr hinsawdd a symud i amgylchedd carbon isel ar frig agenda Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Er ei bod yn anodd bod yn benodol ar fuddsoddiadau tanwydd ffosil, mae tua 2.9% o'r Gronfa yn cael ei buddsoddi yn y sector ynni ar hyn o bryd. Mae hyn wedi gostwng o tua 4.5% yn 2018 felly mae'r Gronfa'n bendant yn symud i'r cyfeiriad cywir.

 

Fel y crybwyllais, mae'r Gronfa wedi cymryd camau breision tuag at drosglwyddo buddsoddiadau i gronfeydd carbon isel, a ddechreuodd drwy fuddsoddi £120m yng Nghronfa Incwm Amgen Strategol BlackRock UK sy'n cynnwys buddsoddiadau mewn p?er adnewyddadwy lleol.

 

Yn ddiweddar, mae Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cymeradwyo dyraniad o 10% (sef £300m) o asedau'r Gronfa i strategaeth ecwiti byd-eang goddefol BlackRock "Reduced Fossil Fuels". Bydd hyn yn lleihau cyfanswm y buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil ymhellach a bydd hyn yn cael ei ail-gyfrifo'n ddiweddarach.

 

Ac, yn olaf, sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru, sy'n gronfa fuddsoddi ar gyfer pob un o'r 8 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Yn 2017, rhoddodd y cyfle i Gronfa Bensiwn Dyfed gynyddu ei ddyraniad i Gronfa Twf Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru 5% (tua £150m), sy'n cynnwys buddsoddiad mewn Cronfa Alinio Cytundeb Paris.

 

Hefyd, fel y gallwch ei weld o'r hyn rwyf newydd ei grybwyll, mae gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed strategaeth ar waith ar gyfer cynnydd pellach mewn buddsoddiadau mewn cronfeydd carbon isel yn y 12 mis nesaf a fydd yn parhau â'r daith bwyllog a chyfrifol. Felly, er bod y gronfa wedi cymryd camau breision, rwy'n cydnabod bod cryn bellter i fynd eto cyn cyrraedd ein nod. Gobeithio fy mod wedi ateb eich cwestiwn Mr Reed.

 

Gofynnodd Mr Reed y cwestiwn atodol canlynol:-

"Cyngor Sir Caerfyrddin yw un o brif gyfranwyr y gronfa a beth arall y gellir ei wneud i symud efallai at ddarparwr pensiwn gwahanol, o gofio bod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi colli £63m y llynedd oherwydd gwerth gostyngol cyfranddaliadau tanwydd ffosil. Felly, beth yw eich barn am hynny?

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

“Diolch i chi am y cwestiwn atodol. Yn amlwg, mae fy marn i yn yr achos hwn yn un gwrthrychol. Nid wyf yn eistedd ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed felly, nid oes gennyf unrhyw ddylanwad uniongyrchol ar ei strategaeth fuddsoddi. Ond yn bendant, maent wedi fy nghlywed yn siarad lawer tro am yr angen i ddad-fuddsoddi. Felly, maent yn ymwybodol iawn o hynny a chan fod gan bob un ohonom fuddsoddiadau, buddsoddiadau personol, maent yn amrywio fel y gwyddom a gallant godi mewn gwerth ac yna leihau mewn gwerth. Felly dyna'r risg rydym i gyd yn ei chymryd wrth wneud buddsoddiadau. Ond gallaf yn bendant eich sicrhau Mr Reed bod aelodau'r Pwyllgor, o ran y cyfeiriad mae'r Gronfa'n mynd iddi, yn ymwybodol iawn o'r pwysau gwleidyddol rwyf fi, ac eraill, yn ei roi arnynt i symud oddi wrth danwydd ffosil ac, fel y soniais, mae tystiolaeth wedi dangos yn eithaf clir ein bod wedi gwneud llawer i gyflawni hynny ond rwyf hefyd yn cydnabod bod cryn ffordd i fynd eto a byddaf yn parhau i roi pwysau ar bwyllgor y gronfa i wneud hyd yn oed mwy.