Agenda item

CYNLLUN BUSNES SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) 2021-24

Cofnodion:

(NODER:

1.     Nid oedd y Cynghorydd H.A.L. Evans, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, yn bresennol tra rhoddwyd ystyriaeth iddi;

2.     Bu i'r Cynghorydd K. Lloyd, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, ailadrodd y datganiad hwnnw)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2021 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2021-2024, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-

 

·       Egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid

·       Dangos bod yr incwm a gafwyd gan denantiaid a'r ffynonellau cyllid eraill yn darparu rhaglen gyfalaf o £107m dros y tair blynedd nesaf i:

o   Adeiladu dros 400 o dai fforddiadwy;

o   Gwella a chynnal a chadw'r stoc bresennol

o   Datblygu safonau newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni a symud tuag at gartrefi carbon niwtral

·       Dangos sut y gallai'r rhaglenni buddsoddi mewn tai helpu i ysgogi'r economi a'i hadfer yn dilyn Covid-19

·       Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2021/22, sy’n cyfateb i £6.2m.

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai y Cynllun Busnes blynyddol ar gyfer STSG+ a oedd yn manylu ar y cynlluniau, y blaenoriaethau a'r camau gweithredu ar gyfer datblygu cartrefi newydd ar gyfer y dyfodol a chynnal y stoc bresennol ar gyfer y cyfnod nesaf, mewn ymgynghoriad â thenantiaid y Cyngor. Roedd hefyd yn galluogi'r Cyngor i gyflwyno ei gais blynyddol i Lywodraeth Cymru am grant y Lwfans Atgyweiriadau Mawr, a oedd yn £6.2m ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod tudalen 6 yr adroddiad yn nodi pa waith oedd wedi cael ei wneud yn ystod y cyfnod diwethaf, ynghyd â siart yn dangos beth oedd yr incwm rhent yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Roedd y Cynllun yn caniatáu i'r Awdurdod barhau i ddatblygu ei safonau, ac wrth edrych ar ei agenda ar gyfer y dyfodol, tuag at ei raglen datgarboneiddio. Roedd hefyd yn sicrhau ei fod yn parhau'n uchelgeisiol wrth adeiladu rhagor o dai fforddiadwy newydd ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd tudalennau 7 ac 8 yn nodi egwyddorion y Cynllun, ac mai'r rheiny oedd sail y  Cynllun. Dylai sail gadarn sicrhau bod y ffordd ymlaen yn ddidrafferth.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod y Cynllun wedi'i rannu i'r pedair thema allweddol ganlynol gyda'r nod o symud pethau ymlaen am y tair blynedd nesaf ac fe amlinellodd y gwaith oedd yn cael ei wneud o dan bob thema:-

 

1.     Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

2.     Thema 2 – Buddsoddi mewn Tai a'r Amgylchedd, yn cynnwys datblygu Safon Ansawdd Tai Cymru newydd, gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes drwy Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, a safon uwch o ran effeithlonrwydd ynni yn nhai'r Cyngor;

3.     Thema 3 – Darparu 500 yn fwy o dai drwy fuddsoddi £60m yn y pedair blynedd nesaf ynghyd â datblygu Uwch-gynllun Tai Fforddiadwy ac Adfywio 10 mlynedd newydd erbyn hydref 2021;

4.     Thema 4 – Yr economi sylfaenol, manteision cymunedol a chaffael drwy ymateb yr awdurdod i Covid-19 drwy ddatblygu ymhellach ymagwedd y Cyngor at gaffael er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud popeth posibl i gyfrannu at ffyniant yr economi leol ac yn gwella ei ffocws ar werth cymdeithasol a chyfoeth cymunedol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“9.1

Cadarnhau gweledigaeth STSG+, rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, y rhaglen ariannol a'r rhaglen gyflawni dros y tair blynedd nesaf;

9.2

Cyflwyno Cynllun Busnes 2021/22 i Lywodraeth Cymru;

9.3

Nodi'r egwyddorion sydd wrth wraidd symud tuag at gartrefi carbon niwtral a datblygu strategaeth datgarboneiddio i gefnogi hyn;

9.4

Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a'i hadfer yn dilyn pandemig Covid-19”.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau