Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2021/22 - 2025/26

Cofnodion:

(NODER:

1.     Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynahrach, bu i'r Cynghorwyr S.J.G Gilasbey, R. James ac E. Dole ailadrodd y datganiadau hynny;

2.     Eglurodd y Cynghorydd A.D.T. Speake, mewn ymateb i ddatganiad a wnaed yn ystod y cyfarfod iddo gael ei daflu allan o Gr?p Plaid Cymru, nad dyna oedd y sefyllfa, a'i fod wedi gadael o'i wirfodd)

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 i 2025/26 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriadau a gyflawnwyd a setliad Llywodraeth Cymru. Roedd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig, a oedd yn rhagweld gwariant o bron i £258m dros y pum mlynedd 2021/22 i 2025/26, yn manteisio ar y cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid posibl sydd ar gael o ffynonellau allanol. Byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer ein trigolion.

 

Roedd y rhaglen gyfalaf dros dro fanwl wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ar 3 Chwefror er mwyn ymgynghori yn ei chylch, ac ni chodwyd unrhyw bryderon yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw. Roedd dyfyniad o'r cofnod perthnasol o'r cyfarfod wedi'i gynnwys yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

Dywedodd fod tua £122.5m o gyllid gan y Cyngor Sir ar gael ar gyfer y rhaglen a'i fod yn cynnwys benthyca; gyda chymorth a heb gymorth, derbyniadau cyfalaf, cronfeydd wrth gefn a chyllid refeniw uniongyrchol, gyda £135m arall yn cael ei ragweld gan gyrff cyllid grant allanol. Er i'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 ddod i law ar 2 Mawrth 2021, nid oedd unrhyw gyllid cyfalaf cyffredinol ychwanegol wedi'i ddyfarnu i'r hyn a nodwyd yn y setliad dros dro - y manylir arno yn y prif adroddiad. Yn ogystal, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhagamcanion o ran y cyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2021/22, ac felly roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig wedi'i seilio ar fenthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2021/22. 

 

Soniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau am gapasiti cyllid ychwanegol a oedd heb ei ddyrannu ar hyn o bryd, sef cyfanswm o £4m rhwng blynyddoedd 4 a 5 y rhaglen, a fyddai'n para heb ei ddyrannu am y tro ac yn cael ei ddefnyddio fel costau eraill a ffynonellau cyllid wedi'u crisialu wrth i amser fynd rhagddo.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod llawer o'r buddsoddiadau yn yr adroddiad yn gyfarwydd, gan gynnwys y rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, roedd wedi bod yn bosibl ychwanegu buddsoddiad at gynlluniau a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig i'r sir er mwyn ymateb i'r pandemig Covid-19. Roedd y rhain yn cynnwys:-

 

·       Adfywio Economaidd – Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (£1.2m); Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol (£1m); Cronfa Mentrau Gwledig (£500k) ac £1m ar gyfer cynllun twf y 'Deg Tref', a oedd yn galluogi'r awdurdod i ddenu buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat i'r sir (Atodiad B i'r adroddiad). Yn ogystal, byddai'r £500k a gymeradwywyd yn 2020/21 ar gyfer datgarboneiddio ystâd y Cyngor yn cael ei ddefnyddio bellach ar gyfer Grantiau Menter Ynni Adnewyddadwy i fusnesau i weithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad preifat yn yr ardal honno a lleihau ôl troed carbon y sir;

·       Seilwaith – Cronfa Dd?r Trebeddrod (£1m), llwybr arfordir Morfa Bacas (£300k); newid goleuadau stryd (£400k y flwyddyn o 2024/25) ac ymrwymiad o £300k i fuddsoddi mewn ffermydd sy'n eiddo i'r Cyngor ar gyfer 2024/25;

·       Gwasanaethau Cymunedol – ymrwymiad parhaus i gefnogi buddsoddiad mewn diwylliant yn Oriel Myrddin a chefnogaeth barhaus i dai sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl;

·       Adran yr Amgylchedd - parhau i gefnogi Gwelliannau Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd i mewn i 2025/26. Byddai cyllid y Cyngor ar gynnal a chadw Priffyrdd yn parhau i gael ei gryfhau yn 2021/22 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ;

·       Ystâd y Cyngor – cyllid ychwanegol ar gyfer gwaith hanfodol i Neuadd y Sir (£500k) a gwaith iechyd a diogelwch i D? Elwyn (£700k) ar ben y rhaglen barhaus o gynnal a chadw cyfalaf ar draws yr ystâd ehangach;

·       Yr Adran Addysg – er nad oedd dim arian newydd wedi'i ddyfarnu ar hyn o bryd, roedd ymrwymiad y Cyngor i'w raglen fuddsoddi Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn bendant

·       Yn ogystal â'r pecyn adfer yn 2021/22, cefnogwyd y gyllideb Adfywio gan fuddsoddiad ychwanegol pellach yng Nghronfa Prosiect y Strategaeth Trawsnewid yn 2025/26, a oedd â'r potensial i ddenu cyllid allanol sylweddol i gyfateb i fuddsoddiad y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod manylion cynhwysfawr y rhaglen arfaethedig wedi'u nodi yn Atodiad A i'r adroddiad a byddai swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol ac argaeledd cyllid. Er y byddai angen rheoli'r ddau ffactor hynny'n ofalus er mwyn sicrhau bod y cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, roedd y rhaglen bresennol wedi'i hariannu'n llawn am y pum mlynedd ac yn cynnwys y potensial ar gyfer buddsoddiadau pellach ym mlynyddoedd 4 a 5, o gofio bod 4m o arian ar gael ar gyfer y blynyddoedd hynny heb gael ei ddyrannu.

 

Dywedodd fod Atodiad D yr adroddiad yn cynnwys dogfen Strategaeth Gyfalaf y Cyngor, a oedd yn ofynnol gan gôd cyllid cyfalaf prudential, yn manylu ar y cyd-destun tymor hir o ran y penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo, a'r effaith ar gyflawni ar ganlyniadau blaenoriaethol. 

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y credid bod y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig yn ceisio creu cymaint o gyfleoedd ag oedd yn bosibl, yn gynhwysfawr ac yn uchelgeisiol, ond yn anad dim, yn y cyfnod ansicr hwn, yn canolbwyntio ar ysgogi ac adfer economaidd.  Felly, ar ran y Bwrdd Gweithredol, cymeradwyodd y Rhaglen Gyfalaf, fel y'i cyflwynwyd, i'r Cyngor Sir i'w chymeradwyo'n derfynol.

 

Cyfeiriwyd at y rhaglen gyfalaf arfaethedig a oedd wedi'i hariannu'n llawn ac at y swm cyfredol heb ei ddyrannu o £4m ar gyfer blynyddoedd 4 a 5 y rhaglen. Cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig felly, a'i eilio, sef bod cyfran o'r arian hwnnw'n cael ei ddyrannu fel a ganlyn:-

 

·       Rhaglen adeiladu ysgolion y Rhaglen Moderneiddio Addysg - £2.5m

·       Buddsoddiad Carbon Niwtral - Plannu Coed ar dir y Cyngor £200k a darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan £250k

·       Gwaith Amddiffyn rhag Llifogydd - £300k

·       Darpariaeth toiledau a lleoedd newid - £100k

 

Amlinellodd y cynigydd y rhesymau dros y gwelliant hwn

 

Ar ôl ystyried y mater,

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig

 

HYD Y CYFARFOD

Wrth roi ystyriaeth i'r eitem hon, tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron i dair awr. Felly

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig Terfynol a

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“7.1

Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'i chyllid, fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, gyda 2021/22 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2022/23 i 2025/26 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

7.2

Bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir;

7.3

Bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad D, yn cael ei chymeradwyo.”

 

Am 12.53 p.m. gohiriwyd y cyfarfod i gael seibiant a chafodd ei ailgynnull am 1.00 p.m.

Dogfennau ategol: