Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 - 2023/24

Cofnodion:

(NODER:

1.     Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cynghorwyr, os oeddent wedi datgan buddiant cynharach yn rhinwedd bod yn Llywodraethwyr Ysgol ALl, nad oedd angen iddynt ddatgan y buddiant hwnnw eto gan fod yr adroddiad yn ymwneud â Chyllideb Refeniw gyffredinol y Cyngor

2.     Bu i'r Cynghorwyr D.C Evans, E. Dole, T. Higgins, K. Madge, B.A.L Roberts, A.G. Morgan, a J. Edmunds ailadrodd eu datganiadau cynharach

3.     Bu i'r Cynghorwyr L.R. Bowen, A. Vaughan Owen, G. Jones, P. Hughes a R. Evans ddatgan buddiant ar ddechrau'r eitem hon gan fod aelodau o'u teuluoedd yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir y cynigion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ddweud wrth y Cyngor fod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar Strategaeth y Gyllideb Refeniw ac yn nodi argymhellion y Bwrdd Gweithredol o ran y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/22 i 2023/24. Ychwanegodd fod proses cyllideb Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer hwyrach nag arfer ar gyfer 2021/22, ac nad oedd ffigurau'r setliad terfynol wedi'u cyhoeddi tan y diwrnod cynt (2 Mawrth) ac nad oedd y gyllideb derfynol yn cael ei thrafod tan 9 Mawrth.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y setliad terfynol yn cadarnhau nad oedd dyraniadau refeniw a chyfalaf y Cyngor wedi newid, yn unol â'r ffigurau dros dro ynghyd â rhai newidiadau i grantiau penodol. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau'r swm o £206m ar gyfer Cronfa Galedi Covid-19 i gefnogi costau ychwanegol a cholli incwm yn ymwneud â'r pandemig ar gyfer 6 mis cyntaf y flwyddyn ariannol nesaf (2021/22).

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod adolygiad o elfennau allweddol tybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi rhoi rhywfaint yn fwy o le yn y gyllideb, o'i gymharu â chynnig y gyllideb wreiddiol, gan arwain at ailedrych ar rai o'r cynigion ac ystyried opsiynau pellach.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad dros dro wedi'u nodi yn yr adroddiad (a chadarnhawyd nad oedd newid iddo yn y setliad terfynol). Roedd y cyllid cyfartalog ar gyfer Llywodraeth Leol ledled Cymru wedi cynyddu 3.8%, ac roedd Sir Gaerfyrddin hefyd i dderbyn 3.8%. Er bod hyn wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn y gyllideb ar gyfer gwasgfeydd sylweddol o ran pwysau chwyddiant a phwysau na ellir ei osgoi, roedd dal angen gwneud arbedion er gwaethaf croesawu'r cynnydd mewn cyllid, gan fod y cynllun yn cynnwys arbedion sylweddol wedi'u gohirio tan y blynyddoedd i ddod, oherwydd effaith covid. Er bod y newidiadau hynny wedi'u cynnwys yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, byddai dal angen sicrhau arbedion sylweddol pellach dros y blynyddoedd i ddod, a byddai angen iddynt ailddechrau wrth i effaith covid leihau gobeithio.  

Dywedodd, fel y manylwyd yn yr adroddiad, fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud nifer o addasiadau i rai o'r ffigurau o fewn y strategaeth fel sy'n arferol wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach fod ar gael, gyda'r dilysiad cyfan presennol yn ychwanegu rhyw £10.0m i'r gyllideb.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod yr adroddiad yn lleihau'r cyflog tybiedig o'r 2.75% a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft i 2.5% ar gyfer pob blwyddyn, honno oedd y rhagdybiaeth ddilysu mwyaf sylweddol o hyd. Fodd bynnag nid oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniadau cyflog ar wahân, o fewn maes gorchwyl Llywodraeth Cymru. Roedd dyfarniad mis Medi 2020 yn cyfateb i gynnydd o 3.1% a chafodd effaith ran-flynyddol hyn ei chyfuno â rhagdybiaeth gyson o 2.5% ar gyfer unrhyw ddyfarniadau yn y dyfodol, er ei bod hefyd yn cael ei chydnabod fel risg allweddol i'r gyllideb.

Dywedwyd bod cynigion y gyllideb ddrafft, yr ymgynghorwyd arnynt ym mis Ionawr 2021, yn rhagdybio dilysu gwasgfeydd a gadarnhawyd o ran cyflogau a chwyddiant i ysgolion, ac fel hynny oedd hi o hyd o ran y cynigion terfynol. Nid oedd unrhyw arbedion wedi'u dyrannu i'r ysgolion y flwyddyn nesaf, gan alluogi penaethiaid a holl staff yr ysgolion i ganolbwyntio ar helpu dysgwyr Sir Gaerfyrddin i fynd yn ôl ar y trywydd iawn ar ôl blwyddyn o darfu enfawr.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, fel y nodwyd yn gynharach, fod newidiadau i rai o'r tybiaethau allweddol ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol ac effaith oedi yn y rhaglen gyfalaf, wedi rhoi bod i gyfleoedd i wneud rhai newidiadau i'r Strategaeth. Roedd hynny wedi arwain at sicrhau bod cyfanswm o £958,000 ar gael i wneud rhai addasiadau hollbwysig i strategaeth y gyllideb ac roedd y Bwrdd Gweithredol wedi gwneud yr addasiadau canlynol, gan ystyried canlyniad y broses ymgynghori ac ymateb i'r adborth gan y cyhoedd a chynghorwyr:

 

·       Gwaredu'r cynigion ynghylch glanhau gwteri ac ysgubo ffyrdd;

·       Lleihau'r cynnig o ran arbedion mewn perthynas â gosod wyneb priffyrdd o £300k i £100k;

·       Darparu cyllid ychwanegol o £75k ar gyfer y gwasanaeth TrueCall

·       Darparu £50k i roi mwy o gapasiti i'r adran Addysg ddarparu gwell cymorth ariannol a llywodraethu fel rhan o gyfrifoldeb yr adran dros system yr ysgolion yn gyffredinol

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y newidiadau hynny wedi galluogi'r Bwrdd Gweithredol i gapio'r cynnydd yn y dreth gyngor i 3.95% ar gyfer 2021/22. Fodd bynnag, fel y soniwyd yn gynharach, dim ond y diwrnod cynt y cafwyd y setliad terfynol, lle'r oedd eglurder ar gyllid Cronfa Galedi Covid-19 am y chwe mis cyntaf wedi gwaredu risgiau ariannol sylweddol o fewn y gyllideb. Roedd hynny wedi galluogi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, drwy ymgynghori â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd, ac ef ei hun, gyda chytundeb y Bwrdd Gweithredol, i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i'r strategaeth. O ganlyniad, roedd yn cael ei gynnig yn awr fod y cynnydd yn y dreth Gyngor yn cael ei ostwng ymhellach i 3.45%, y gellid ei gyflawni drwy ddefnyddio elfen o'r tanwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn gyfredol fel cyfraniad untro i'r rhaglen gyfalaf, a thrwy hynny ryddhau £450k o gyllid refeniw i gefnogi'r pecyn ysgogi economaidd.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau pe bai'r Cyngor yn mabwysiadu cynigion y gyllideb, gyda'r newid i'r dreth Gyngor, fod hynny'n caniatáu i'r Bwrdd Gweithredol gyflwyno cyllideb deg, gytbwys, gynaliadwy a hyfyw i'r Cyngor Sir.

 

Cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:

 

"Teimlwn y gall y Cyngor hwn wneud mwy a lleihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 2.95% a gwaredu toriadau mewn gwasanaethau i'n pobl sydd fwyaf agored i niwed.

 

Caiff hyn ei ariannu gan arbedion effeithlonrwydd ychwanegol a lleihau cronfeydd wrth gefn i £490,000

 

Arbedion effeithlonrwydd i'w cyflwyno:

£200,000 costau teithio gweithwyr (Arbediad Refeniw)

£100,000 ffioedd ymgynghorwyr (Arbediad Refeniw)

 

Toriadau i gael gwared arnynt:

Crwneriaid - £19,000

Gosod wyneb ffyrdd - £100,000

Gofal Cartref - £218,000

Gwasanaethau Gofal Dydd - £50,000

Byw â Chymorth (Pecyn cymorth sy'n lleihau) - £23,000

Cost Toriad o 1% yn y Dreth Gyngor £900,000

Cronfa wrth gefn arfaethedig gyfredol £1,500,000

 

Arbedion effeithlonrwydd £300,000

Cost gwaredu toriadau a gostwng y dreth gyngor £1,310,000

Cronfa wrth gefn newydd £490,000

 

Amlinellodd y cynigydd y rhesymau dros y gwelliant hwn

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymateb i gwestiwn, er bod y gwelliannau arfaethedig yn gyfreithlon, ei fod o'r farn eu bod yn annoeth o ystyried yr heriau a’r risgiau ariannol presennol a wynebir gan yr awdurdod yn y blynyddoedd i ddod a'r mater o leihau'r gronfa wrth gefn arfaethedig.

 

Ar ôl ystyried y mater,

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig

 

Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig Terfynol a

 

PHENDERFYNWYD HEFYD fabwysiadu'r Cynnig a mabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol, fel y'u diwygiwyd, i leihau'r cynnydd yn y dreth gyngor ymhellach i 3.45%:-

 

6.1

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

6.1.1

Cymeradwyo Strategaeth Cyllideb 2021/22 (sydd wedi'i hatodi), yn amodol ar y gwelliannau canlynol:

 

2021/22:-

Dileu'r cynnig i arbed £70k trwy beidio â glanhau gwteri; 

 

Dileu'r cynnig i arbed £93k trwy beidio ag ysgubo ffyrdd;

 

(Fodd bynnag, byddai'r arbedion effeithlonrwydd gwreiddiol ar gyfer y cynigion hyn yn dal i gael eu gweithredu, gan arwain at gynnydd cyffredinol mewn capasiti i gydnabod y pryderon am effaith tywydd garw ar hyn)

 

Lleihau'r cynnig o ran arbedion mewn perthynas â gosod wyneb priffyrdd o £300k i £100k;

 

Darparu cyllid o £75k er mwyn cefnogi cyflwyno'r gwasanaeth TrueCall yn ehangach i breswylwyr sy'n agored i niwed er mwyn atal twyllwyr dros y ffôn;

 

Darparu cyllid o £50k ar gyfer ymgynghorydd her newydd i ddarparu cymorth llywodraethu a chyllid ychwanegol.

 

6.1.2

Bod y Dreth Gyngor Band D am 2021/22 i’w gosod ar £1,361.97 (cynnydd o 3.45% ar gyfer 2021-22);

 

6.1.3

O'r £958k o gyllid cylchol sydd ar gael, defnyddir £488k yn llawn i gefnogi'r gwelliannau arfaethedig yn 6.1.1, gyda'r £470k sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio i leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn 6.1.2 uchod ochr yn ochr â’r £450k ychwanegol o gyllid refeniw y rhaglen Gyfalaf ac a nodwyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yn ei gyflwyniad.

 

6.1.4

Bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod”

 

Dogfennau ategol: