Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin:

- Yn nodi bod cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn delio â'r argyfwng meddygol ac ariannol mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bandemig y Coronafeirws barhau i effeithio ar deuluoedd a busnesau.
- Yn credu nad yw'n briodol cynnal ymgynghoriadau ysgol ar faterion megis darpariaeth addysg yn ystod y pandemig. 
- Yn galw ar y Bwrdd Gweithredol i atal pob ymgynghoriad ysgol, ac eithrio cynigion i ostwng yr oedran cychwyn i 3, tan dymor mis Medi ac i lunio adroddiad ar hyfywedd ysgolion Sir Gaerfyrddin, gan amlinellu unrhyw newidiadau i ôl troed ysgolion yn y dyfodol.”

 

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr H.A.L. Evans, D. Price ac A.D.T. Speake wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol pan gafodd ei thrafod.  Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, K.V. Broom, C.A. Campbell, J.M. Charles, C.A. Davies, G. Davies, H.L. Davies, I.W. Davies, J.A. Davies, K. Davies, S.L. Davies, W.R.A. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, L.D. Evans, R.E. Evans, W.T. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, J.K. Howell, P.M. Hughes, P. Hughes Griffiths, D.M. Jenkins, A. James, J.D. James, R. James, G.H. John, B.W. Jones, C. Jones, D. Jones, G.R. Jones, H.I. Jones, A. Lenny, M.J.A. Lewis, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews, A.G. Morgan, S. Najmi, D. Nicholas, B.D.J. Phillips, J.S. Phillips, J.G. Prosser, B.A.L. Roberts, H.B. Shepardson, L.M. Stephens, B. Thomas, D. Thomas, E.G. Thomas, G.B. Thomas, G. Thomas, J. Tremlett, A. Vaughan Owen, D.E. Williams, D.T. Williams, a J.E. Williams hefyd wedi datgan eu buddiant ond bu iddynt aros yn y cyfarfod].

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin:

- Yn nodi bod cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn delio â'r argyfwng meddygol ac ariannol mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bandemig y Coronafeirws barhau i effeithio ar deuluoedd a busnesau.

- Yn credu nad yw'n briodol cynnal ymgynghoriadau ysgol ar faterion megis darpariaeth addysg yn ystod y pandemig.

- Yn galw ar y Bwrdd Gweithredol i atal pob ymgynghoriad ysgol, ac eithrio cynigion i ostwng yr oedran cychwyn i 3, tan dymor mis Medi ac i lunio adroddiad ar hyfywedd ysgolion Sir Gaerfyrddin, gan amlinellu unrhyw newidiadau i ôl troed ysgolion yn y dyfodol.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd G. Davies: 

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin: 

  

·        Yn nodi bod cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn delio â'r argyfwng meddygol ac ariannol mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bandemig y Coronafeirws barhau i effeithio ar deuluoedd a busnesau 

·        Yn cytuno nad yw'n briodol cynnal ymgynghoriadau ysgol ar faterion megis darpariaeth addysg yn ystod y pandemig mewn unrhyw achosion sy'n mynd yn groes i ganllawiau Llywodraeth Lafur Cymru 

·        Yn parhau i fonitro hyfywedd ysgolion Sir Gaerfyrddin fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mewn modd agored a thryloyw."

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y Gwelliant gyfle i siarad o'i blaid a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gwnaed datganiadau a gefnogai'r cynnig a'r gwelliant. 

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r Gwelliant yn cael ei gefnogi, hwnnw fyddai'r cynnig terfynol wedyn, a phe bai hwnnw'n cael ei gefnogi byddai'n cael ei gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Yn sgil cael cais gan fwy na 10 o aelodau yn unol â Rheol 16.4 o Weithdrefnau'r Cyngor, cynhaliwyd pleidlais gofnodedig gyda'r pleidleisiau yn cael eu bwrw fel a ganlyn:-

 

O blaid y Gwelliant (43)

Y Cynghorwyr S.M Allen, L. Bowen, C. Campbell, J.M. Charles, C.A. Davies,

G. Davies, H. L. Davies, I.W. Davies, J.A. Davies, K. Davies, T.A.J. Davies, W.R.A. Davies, E. Dole, D.C. Evans, L.D. Evans, W.T.E. Evans, A.D. Harries, C.J. Harris, J.K. Howell, P.M. Hughes, P. Hughes Griffiths, A. James,

D.M. Jenkins, G. John, A.C. Jones, B.W. Jones, A. Lenny, M.J.A. Lewis,

A.G. Morgan, D. Nicholas, B.D.J. Phillips, J.S. Phillips, H.B. Shepardson,

L.M. Stephens, D. Thomas, E.G. Thomas, G. Thomas, G.B. Thomas,

J. Tremlett, A. Vaughan-Owen, D.E. Williams, D.T. Williams a J.E. Williams.

 

Yn erbyn y Gwelliant (14)

Y Cynghorwyr S. Curry, R. Evans, T. Higgins, J.D. James, R. James, D. Jones,

G. Jones, H.I. Jones, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews, S. Najmi, J.G. Prosser a B. Thomas.         

 

Ymataliadau (6)

Y Cynghorwyr K.V. Broom, S. Davies, J.S. Edmunds, J. Jenkins, E. Morgan a B.A.L. Roberts.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Cynnig Terfynol a'i gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau