Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai ar Gynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) 2021-24, a oedd â phwrpas pedwarplyg. Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion STSG+ dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar dybiaethau cyfredol ar gyfer cyflwyno'r STSG+ dros y tair blynedd nesaf. Yn drydydd, roedd yn dangos sut y gall y rhaglen buddsoddi mewn tai helpu i ysgogi'r economi leol a'i hadfer yn dilyn Covid-19. Yn bedwerydd, roedd yn llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2020/21, a oedd yn cyfateb i £6.1m.
Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pedair thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru'r busnes am y tair blynedd nesaf:-
- Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;
- Thema 2 - Buddsoddi yn ein Tai a'r Amgylchedd
- Thema 3 - Darparu rhagor o dai;
- Thema 4 - Economi Sylfaenol, Budd i'r Gymuned a Chaffael
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefelau'r tai gwag o fewn 9,200 o gartrefi'r awdurdod, fod tua 340 o dai gwag ar hyn o bryd. Roedd angen lefelau gwahanol o waith ar yr eiddo hynny ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau cyfanswm y tai gwag cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, roedd y pandemig covid wedi effeithio ar gyflymder ac amserlen y gwaith hwnnw, yn enwedig yn ystod cyfnod 3 mis cyntaf y pandemig pan nad oedd contractwyr yn gallu gweithio ar y safle.
· Gyda golwg ar gwestiwn am effaith y pandemig ar raglen adeiladu tai'r cyngor, cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, fel yn achos y tai gwag, fod oedi wedi bod i ddechrau gan na allai contractwyr fod ar y safle, ac wedi hynny bod oedi wedi bod wrth gyflenwi deunyddiau adeiladu ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Roedd y gwaith yn mynd rhagddo erbyn hyn, fodd bynnag, a'r gobaith oedd y byddai'r rhaglen yn rhedeg yn ôl yr amserlen yn y dyfodol agos.
· Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod rhaglen adeiladu tai'r Cyngor yn ceisio mynd i'r afael â'r prinder tai mewn ardaloedd gwledig a threfol ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar ddatblygu 21 safle arall ledled y sir.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar lefelau digartrefedd yn y Sir, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Llywodraeth Cymru, ym mis Mawrth 2020, wedi gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Tai Lleol yng Nghymru i gartrefu'r digartref, gan gynnwys pobl sengl ddigartref. Er bod lefelau digartrefedd yn cynyddu, ar y pryd roedd 117 o bobl wedi cyflwyno eu hunain i'r Cyngor fel pobl ddigartref, 100 ohonynt yn bobl sengl, ac roedd y Cyngor yn gweithio gyda hwy i fynd i'r afael â'u gofynion tai, a oedd yn cynnwys rhoi cyngor ac arweiniad ar reoli tenantiaeth lwyddiannus.
Soniodd ymhellach am y cynnydd mewn digartrefedd ymhlith pobl sengl yn y Sir a oedd wedi tynnu sylw at ddiffyg darpariaeth llety i bobl sengl o fewn stoc dai'r Cyngor, a dywedodd y byddai hynny'n cael ei ystyried fel rhan o gynigion adeiladu tai'r Cyngor yn y dyfodol.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar greu Prif Gynllun Tai Fforddiadwy ac Adfywio 10 mlynedd, dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod y lansiad wedi'i gynllunio ar gyfer mis Mawrth 2020 i ddechrau, bod hynny wedi'i ohirio oherwydd y pandemig Covid. Roedd gwaith yn mynd rhagddo yn awr ar ei ail-lansio yn y dyfodol agos.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR:-
6.1 |
Cadarnhau gweledigaeth STSG+ a chadarnhau rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, y rhaglen ariannol a'r rhaglen gyflawni dros y tair blynedd nesaf; |
6.2 |
Cadarnhau bod Cynllun Busnes 2021/22 yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru; |
6.3 |
Nodi'r egwyddorion sydd wrth wraidd symud tuag at gartrefi carbon niwtral a datblygu strategaeth datgarboneiddio i gefnogi hynny; |
6.4 |
Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a'i hadfer yn dilyn y pandemig Covid-19. |
Dogfennau ategol: