Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 TAN 2023/24

Cofnodion:

(Noder: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad yn unig mewn perthynas â'r buddiant hwnnw)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ar Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2021/22 hyd at 2023/24, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2020.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/2022, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn adlewyrchu'r cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion arbed ar ôl ystyried effaith y pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 4.0% ledled Cymru ar setliad 2020/21, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 3.8% (£10.466m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £284.820m ar gyfer 2021/22 a oedd yn cynnwys £244k ar gyfer cyflogau athrawon.

 

Tra bod cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg mewn cynigion arbedion ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23, a 2023/24, byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau ar gyfer y blynyddoedd hwyrach hyn er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Er bod y Strategaeth yn cynnig cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor ar gyfer pob un o'r tair blynedd ariannol, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi argymell y dylid gostwng y cynnydd ar gyfer 2021/22 i 4.48%, a fyddai'n cael ei ystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2021. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 3 Mawrth.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaethau Adfywio a Chynllunio (dim un ar gyfer y meysydd Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad B – adroddiad monitro'r Gyllideb ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, mewn ymateb i gwestiwn ar effaith y pandemig Covid 19 ar gasglu'r Dreth Gyngor, fod y Cyngor wedi cymryd camau yn hynny o beth drwy ymestyn y cyfnod talu dros 12 mis hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21, yn hytrach na'r cyfnod talu arferol o 10 mis. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y byddai grant o 75% ar gael i lywodraethau lleol yng Nghymru i gynorthwyo gydag unrhyw ddiffyg yng nghyfraddau casglu'r Dreth Gyngor sy'n deillio o'r pandemig.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar ddigonolrwydd y ddarpariaeth gyllidebol o £300k y flwyddyn ar gyfer mynd i'r afael â goblygiadau'r Clefyd Coed Ynn ar dir sy'n eiddo i'r cyngor, cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod y lefel yn ddigonol i fodloni gofynion y cyngor ond byddai hynny'n cael ei adolygu wrth i amser fynd rhagddo. Gyda golwg ar goed heintiedig ar dir preifat, roedd y Cyngor yn gweithio gyda thirfeddianwyr i roi gwybod iddynt am eu cyfrifoldebau ac i roi arweiniad lle bo angen. Roedd gan y Cyngor hefyd gronfa wrth gefn i wneud gwaith yn ddiofyn lle'r oedd hynny'n angenrheidiol, ar y sail y gellir adennill y costau.

·       Gyda golwg ar gwestiwn am effaith y pandemig covid ar economi Sir Gaerfyrddin a lefel y swyddi a gollwyd, dywedodd y Pennaeth Adfywio, er bod rhai swyddi wedi'u colli, fod cynllun ffyrlo'r Llywodraeth wedi helpu i gynnal cyflogaeth a lleihau'r lefel honno hyd yma. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai rhagor o swyddi'n cael eu colli dros y misoedd nesaf. Roedd y Cyngor yn rhagweld y gellid colli hyd at 3,000 o swyddi yn Sir Gaerfyrddin ac roedd wedi mabwysiadu cynllun gweithredu i helpu i adfywio'r economi drwy wahanol ddulliau a oedd yn cynnwys ei raglen gyfalaf a'i bolisi caffael a allai helpu i greu tua 2,000 o swyddi. Rhagwelwyd y gellid creu 1,000 o swyddi ychwanegol hefyd ar y cyd â phartneriaid y Cyngor yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR:-

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 – 2023/24 yn cael ei dderbyn.

4.2

Bod y Crynoadau Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael eu derbyn.

 

Dogfennau ategol: