Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o
sut y mae'r Awdurdod Lleol a'r rhanbarth wedi gweithio gydag
ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion i hyrwyddo dysgu a chefnogi
disgyblion sy'n agored i niwed yn ystod cyfnod COVID-19 rhwng mis
Mehefin a mis Tachwedd 2020 h.y. y cyfnod ar ôl y cyfyngiadau
symud cychwynnol wrth i ysgolion ailagor.
Bu'n rhaid i
swyddogion yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant addasu'n
sylweddol y ffordd y maent yn gweithio'n draddodiadol er mwyn
canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi ysgolion a gwasanaethau fel bod y
plant a'r bobl ifanc yn ein gofal yn gallu cael mynediad at yr holl
gymorth ac ymyriadau yr oedd eu hangen arnynt. Roedd yn gyfnod na
welwyd ei debyg o'r blaen ac roedd yn rhaid i'r Cyfarwyddwr, y
Tîm Rheoli Adrannol a'r Rheolwyr Gwasanaeth wneud
penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd ar gael bryd
hynny.
Yn ystod tymor yr
Hydref 2020 cynhaliodd ESTYN arolwg thematig i fyfyrio ar ymagwedd
Awdurdodau Lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion tuag at
addysgu, dysgu a llesiant disgyblion.
Byddai'r adolygiad yn rhoi adroddiad i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau
Lleol unigol a chonsortia rhanbarthol sy'n adlewyrchu eu gwaith a'u
dulliau gweithredu yn ystod y cyfyngiadau symud ac ar ddechrau'r
cyfnod pan oedd ysgolion yn dechrau gweithredu'n llawn unwaith eto.
Bydd yr adroddiadau'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall y
cryfderau a'r gwersi eang a ddysgwyd yn y ffordd yr oedd Awdurdodau
Lleol a rhanbarthau'n gweithredu yn ystod y cyfnod hwn. Byddai hefyd yn nodi sut y defnyddiwyd y gwersi a
ddysgwyd o'r cyfnod cyn yr haf i gefnogi'r gwaith o gynllunio ar
gyfer dulliau dysgu cyfunol a chymorth i ddysgwyr sy'n agored i
niwed yn ystod tymor yr Hydref. Byddai hyn hefyd yn galluogi dysgu
gwersi o'r arferion mwyaf effeithiol mewn perthynas â
chapasiti, cydweithredu, cynllunio ar gyfer y dyfodol a rheoli
newid a fydd yn cefnogi diwygiadau arfaethedig ym maes addysg a
llywodraeth leol dros y blynyddoedd nesaf.
Roedd
canfyddiadau'r adroddiadau hyn yn gadarnhaol, gan fyfyrio ar waith
partneriaeth effeithiol rhwng pawb sy'n ymwneud â'r system
addysg. Fodd bynnag, roedd angen ystyried rhai meysydd ymhellach a
byddent yn cael eu cynnwys yn y Cynllunio Busnes Adrannol ar gyfer
2021/22.
Codwyd
y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr
adroddiad:-
- Mynegwyd pryder yngl?n â'r ysgolion hynny sy'n cael eu
monitro gan Estyn a gofynnwyd i'r swyddogion a ddylid gohirio hyn
nes bod ysgolion ar agor fel arfer eto.
Dywedodd y Prif Ymgynghorydd Cymorth Addysgol wrth y Pwyllgor fod
amrywiaeth o arferion gan Estyn yn hyn o beth ac maent hefyd yn
cynnal galwadau bugeiliol ag ysgolion i sicrhau eu bod yn gwneud y
cynnydd gyda'u plant a'u staff yn ôl yr angen. Ar gyfer ysgolion sy'n cael eu hadolygu gan Estyn,
cynhelir cyfarfod yr wythnos nesaf pan fydd cynnydd ysgolion yn
cael ei drafod felly bydd cynnydd yn cael ei drafod gan swyddogion
yn hytrach na rhoi pwysau ar ysgolion i lunio
adroddiadau. Cafwyd adborth cadarnhaol
mewn perthynas â'r galwadau bugeiliol sy'n cael eu cynnal gan
Estyn;
- Gofynnwyd i'r swyddogion sut yr oedd ERW yn cynorthwyo'r sir
yn ystod y pandemig. Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor fod ERW wedi
bod yn darparu cymorth o ran dysgu o bell. Mae wedi darparu cyrsiau ar-lein i staff addysgu
ac mae wedi creu polisïau diogelu.
Ychwanegodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod Gr?p
ADY Rhanbarthol ERW wedi datblygu nifer o fodiwlau hyfforddi
pwrpasol mewn perthynas â dysgwyr sy'n agored i
niwed. Mae ERW wedi helpu i ddarparu
pecynnau hyfforddi electronig i gefnogi athrawon, ysgolion,
teuluoedd a disgyblion sydd wedi'u rhannu ar draws y
rhanbarth. Ychwanegodd y Prif
Ymgynghorydd Cymorth Addysgol fod ERW wedi gweithio gydag ysgolion
mewn perthynas â datblygu adnoddau llesiant i sicrhau
llesiant staff a disgyblion. Cafwyd
adborth cadarnhaol gan benaethiaid yn hyn o beth;
- Gofynnwyd i'r swyddogion sut yr ydym yn diffinio dysgwyr sy'n
agored i niwed ac a ydynt yn hyderus bod hynny'n cael ei gymhwyso'n
gyson ledled y sir. Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor ei bod yn
hanfodol nodi plant a theuluoedd sy'n agored i niwed yn gynnar
iawn. Roedd pob un ohonynt wedi'u nodi
ac roedd swyddogion yn sicrhau bod llygad barcud yn cael ei gadw
arnynt. Gweithredwyd strategaeth ar
gyfer dysgwyr agored i niwed a oedd yn cynnwys cysylltu â
theuluoedd agored i niwed bob wythnos a hefyd sicrhau y siaradwyd
â'r disgybl. Eglurodd Rheolwr y
Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod yr Awdurdod yn defnyddio
diffiniad Llywodraeth Cymru o ddysgwr sy'n agored i niwed a bod hyn
wedi'i ddefnyddio drwy gydol y pandemig. Er bod diffiniad Llywodraeth Cymru yn cael ei
ddefnyddio, roedd hefyd yn cynnwys y plant hynny a ddaeth yn agored
i niwed o ganlyniad i'r pandemig.
Ychwanegodd y Prif Ymgynghorydd Cymorth Addysg fod Ymgynghorwyr
Cymorth wedi bod yn gweithio'n agos gydag ysgolion ac yn
ymgysylltu'n rheolaidd â disgyblion sy'n agored i niwed a'u
teuluoedd. Cyfeiriodd Pennaeth y
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant at y ffaith bod llawer o
swyddogion wedi mynd yr ail filltir i ddarparu gwasanaethau yn
ystod y pandemig a diolchodd i'r holl swyddogion hynny;
- Gofynnwyd i'r swyddogion pa gynlluniau adrannol sydd ar waith
i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Eglurodd Pennaeth y Cwricwlwm a Llesiant fod
swyddogion yn gweithio ar wahanol fentrau. Mae rhai ysgolion eisoes yn gweithredu elfennau
o'r cwricwlwm newydd i helpu gyda heriau presennol e.e.
llythrennedd, rhifedd a chapasiti digidol;
- Gofynnwyd i'r swyddogion am y wybodaeth ddiweddaraf am
ddarparu offer TG i ddysgwyr agored i niwed a gofynnwyd iddynt a
ydynt yn hyderus bod pob ysgol wedi bod yn rhagweithiol wrth
gefnogi eu disgyblion agored i niwed.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y
Pwyllgor fod dros 4000 o Chromebooks, 1400 o gymhorthion addysgu,
564 o gyfrifiaduron, 634 o liniaduron wedi'u dosbarthu, yn ogystal
â nifer sylweddol o dongles. Disgwylir stoc ychwanegol hefyd.
Ychwanegodd Pennaeth y Cwricwlwm a Llesiant fod offer TG wedi'i
ddosbarthu mewn tair cyfran a bod pedwaredd cyfran yn cael ei
chynllunio ar hyn o bryd;
- Gofynnwyd i'r swyddogion pa
fesurau sydd ar waith i helpu athrawon gyda'u hiechyd a'u llesiant
dros y misoedd nesaf. Rhoddodd Pennaeth
y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sicrhad i'r Pwyllgor fod
llesiant athrawon a phenaethiaid yn flaenoriaeth nid yn unig
oherwydd y pwysau gwaith ychwanegol ond hefyd oherwydd eu pryderon
yngl?n â'u hiechyd eu hunain a dychwelyd i'r ysgol yn ystod y
pandemig. Mae'r Tîm Gwella
Ysgolion yn ymwybodol o bwysigrwydd lleihau'r straen ar benaethiaid
felly mae'r wybodaeth y gofynnir amdani wedi'i lleihau'n
sylweddol. Mae sesiynau galw heibio
hefyd wedi'u trefnu i unrhyw staff addysgu rannu eu
pryderon. Un newid allweddol sydd
wedi'i wneud yw newid enw Ymgynghorwyr Her i Ymgynghorwyr Cymorth
Addysgol gan ei fod yn gosod y sail ar gyfer y berthynas gan eu bod
yno i gefnogi, nid i herio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr
adroddiad.