Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2021/22-2023/24.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2021/22 i 2023/24 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/2022 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2021 a 2023/2024.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn adlewyrchu cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion am arbedion ar ôl ystyried effaith pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, nodwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y mis i ddod wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach, ymgysylltu ag aelodau'r cyngor a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd y setliad terfynol i fod i gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2021.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod Covid-19 wedi arwain nid yn unig at gostau ychwanegol na welwyd eu tebyg o'r blaen ond hefyd at ostyngiad mewn incwm pwysig, yn enwedig yn ystod cyfyngiadau symud. Rhagwelwyd y byddai'r cyfuniad o wariant ychwanegol a cholli incwm yn cael effaith o £30 miliwn ar gyllidebau Sir Gaerfyrddin ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae awdurdodau wedi cyflwyno hawliadau misol, sydd wedi'u hasesu ac i raddau helaeth iawn, wedi'u had-dalu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, nid yw cyllid parhaus Llywodraeth Cymru fel hyn wedi'i ymrwymo ar hyn o bryd, yn bennaf gan nad oes gan Lywodraeth Cymru ei hun gyllid wedi'i gadarnhau eto o ganlyniad i wariant San Steffan sy'n gysylltiedig â Covid-19.

 

Nododd yr adroddiad y prif resymau dros orwariant adrannol y Gwasanaethau Addysg a Phlant a oedd yn deillio'n bennaf o'r cynnydd a ragwelir mewn balansau diffyg mewn ysgolion.

 

Er bod y Strategaeth yn cynnig cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor ar gyfer pob un o'r tair blynedd ariannol, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi argymell y dylid lleihau'r cynnydd ar gyfer 2021/22 i 4.48%.  Byddai'r Cyngor yn ystyried yr argymhelliad hwn yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2021 wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.  Yn ogystal, byddai ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021 a byddai unrhyw ddiwygiadau y mae'n ofynnol eu hystyried mewn perthynas â Strategaeth y Gyllideb sy'n deillio o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 3 Mawrth.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-

 

·         Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·         Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

 

Er bod cynigion y gyllideb yn rhagdybio y byddai'r holl gynigion arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg mewn cynigion arbedion ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23 a 2023/24, byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau ar gyfer y blynyddoedd olaf hynny er mwyn cynnal Strategaeth y Gyllideb bresennol a lefel y Dreth Gyngor. Cyfanswm yr arbedion a nodwyd ym mlynyddoedd 2 a 3 y Strategaeth oedd £1.96 miliwn a byddai adrannau'n gweithio dros y flwyddyn i ddod i nodi'r arbedion hynny.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at y ffaith bod y gorwariant adrannol yn deillio'n bennaf o'r cynnydd a ragwelir mewn balansau diffyg mewn ysgolion a gofynnwyd i'r swyddogion a ddylai'r Awdurdod gwestiynu'r patrwm o ddosbarthu arian i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith bod y Pwyllgor eisoes wedi gofyn am ddadansoddiad o'r fformiwla a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu arian ledled Cymru;
  • Tynnwyd sylw at y ffaith mai llywodraethwyr sy'n gyfrifol am atebolrwydd ariannol.  Gall nifer y disgyblion leihau mewn unrhyw ysgol am amrywiaeth o resymau a gofynnwyd i swyddogion pa mor bendant yw Cyrff Llywodraethu pan fydd angen penderfyniadau ariannol cyflym i ddileu anghydbwysedd cynyddol.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor fod swyddogion yn gwbl ymwybodol o'r heriau ariannol yn ein hysgolion.  Mae'r swyddogion yn cyfarfod â Phenaethiaid a Chyrff Llywodraethu i drafod eu sefyllfa ariannol.  Ychwanegodd bod rhesymau lleol i'w hystyried hefyd ac mae angen mwy o gymorth ar rai ysgolion nag eraill i fynd i'r afael â'r problemau;
  • Cyfeiriwyd at y ffaith y byddai'n helpu siroedd fel Sir Gaerfyrddin gyda nifer uchel o ysgolion gwledig bach pe bai'r fformiwla ariannu yn deg. Gofynnwyd i'r swyddogion beth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r dybiaeth yn erbyn cau a pha drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â newid y fformiwla a phe bai hyn yn cael ei wneud, a fyddai hyn yn tynnu'r pwysau oddi ar ein hysgolion llai.  Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod y cyllid yn cael ei ddyrannu i'r disgybl felly wrth i nifer y disgyblion ostwng, bydd y cyllid a ddyrennir i'r ysgol hefyd yn gostwng.  Mae swyddogion o'r Adran Cyllid ac Addysg yn gweithio'n galed gydag ysgolion i fynd i'r afael â'r problemau y maent yn eu profi;
  • Pan ofynnwyd faint o ysgolion sydd â diffyg mewn balans, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod diffyg gan 44 o 112 o ysgolion;
  • Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen i ni roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu mwy o arian i'n hysgolion yn enwedig gyda'r cwricwlwm newydd.  Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant at y ffaith bod tybiaeth yn erbyn cau, ond mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid fesul disgybl ac nid fesul ysgol sy'n creu problemau i'r Awdurdod.  Cyflwynir sylwadau i Lywodraeth Cymru gan y Cyfarwyddwr drwy Gymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg.  Ystyrir bod unrhyw ysgol sydd â llai na 92 o ddisgyblion yn ysgol fach felly mae'n rhaid i unrhyw gyllid ysgol fach gael ei ledaenu ymysg cynifer o ysgolion sy'n perthyn i'r categori hwn fel ei fod yn swm bach iawn o gyllid yn y pen draw;
  • Gofynnwyd i'r swyddogion a yw canlyniad y trafodaethau rhwng yr undebau a Llywodraeth Cymru yngl?n â'r codiad cyflog o 2.75% yn hysbys a beth fydd yr effaith.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y ffaith bod hyn wedi achosi llawer o ansicrwydd oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r codiad cyflog, ond bydd yn rhaid i'r Awdurdod Lleol dalu'r cost am hyn.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod digon o arian yn y gyllideb ddrafft i ddilysu'r gost hon ar gyfer taliad cyflog mis Medi 2020;
  • Cyfeiriwyd at y ffaith bod disgyblion wedi colli blwyddyn o addysg a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd cydnabyddiaeth ar lefel y llywodraeth bod angen rhyw fath o hwb ariannol i fynd i'r afael â hynny er mwyn sicrhau bod disgyblion yn ôl i'r lefel ofynnol.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod hyn yn bryder enfawr a chytunodd y dylid cael arian ychwanegol i alluogi mynd i'r afael â'r mater hwn, ond nid oedd yn ymwybodol o unrhyw ddarpariaeth o'r fath.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod cyhoeddiad wedi'i wneud y diwrnod cynt ynghylch oddeutu £65m ychwanegol i gefnogi ysgolion, ond nid oedd yn hysbys eto sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyllid hwnnw. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod grantiau ychwanegol y Rhaglen Dysgu Carlam ar gael i ddisgyblion ysgolion uwchradd mewn blynyddoedd arholiad.  Fodd bynnag, roedd her o ran pa mor hwyr y caiff yr arian hwn ei dderbyn gan ein hysgolion gyda rhai grantiau'n cael eu derbyn yr wythnos diwethaf y mae'n rhaid eu gwario'n llwyr erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nad yw'n caniatáu unrhyw amser i benaethiaid flaengynllunio.  Mae swyddogion wedi mynd yn ôl at Lywodraeth Cymru i'w hannog i ystyried hyn a rhoi digon o amser i benaethiaid wneud defnydd doeth o'r arian ychwanegol hwn;
  • Mynegwyd pryder yngl?n â chyllid grant yn dod i mewn yn hwyr iawn ac yn aml yn cael ei dynnu'n ôl yn gyfan gwbl sy'n ei gwneud yn anodd i ysgolion gyllidebu. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant ei fod yn rhwystredig iawn i benaethiaid ac mae rhai o'r telerau ac amodau hefyd yn ei gwneud yn anoddach. Ychwanegodd Cyfrifydd y Gr?p fod hyn yn rhywbeth y mae swyddogion yn ei godi'n gyson gyda Llywodraeth Cymru.  Cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y sail ar gyfer y fformiwla cyllido yn ddiffygiol gan nad yw'n cydnabod materion gwledig a gofynnodd a oes gan awdurdodau trefol mawr yr un problemau gyda chyllidebau a ddirprwyir. Os na, mae'n amlwg bod problemau gyda'r cyllid fformiwla y byddai angen eu codi gyda Llywodraeth Cymru.  Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod Swyddogion Cyllid wedi cytuno i ymchwilio i'r mater hwn yn y cyfarfod diwethaf;
  • Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd cyllid ar gael i Lywodraeth Cymru ddarparu offer TG i deuluoedd agored i niwed gan fod gwir angen sicrhau yr eir i'r afael â'u gofynion TG er mwyn sicrhau bod pob plentyn ym mhob teulu yn cael yr un cyfleoedd.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod dros 2000 o liniaduron a dongles wedi'u dosbarthu i deuluoedd ledled y sir hyd yn hyn;
  • O ran y Gwasanaethau Addysg a Seicoleg Plant, gofynnwyd i'r swyddogion a oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu o bell ac a oedd hynny wedi cynyddu nifer y bobl a all fanteisio arno. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth wedi parhau yn ystod y pandemig gyda'r holl wasanaethau'n cael eu darparu o bell a bod hygyrchedd i ddarparwyr allanol fel therapyddion hefyd wedi parhau. Ychwanegodd ein bod, mewn llawer o achosion mewn gwasanaethau ar draws yr adran, yn ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol oherwydd ein bod yn gweithio o bell ac yn gallu cysylltu â rhieni'n gyflymach gan eu bod bellach yn fwy cyfarwydd â defnyddio'r dechnoleg sydd ar gael iddynt.  Nid oedd gweithio o bell yn niweidiol ym mhob sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL

 

4.1

bod Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2021/22-2023/24 yn cael ei derbyn;

4.2

cymeradwyo'r Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: