Agenda item

HERIAU ARIANNOL SY'N WYNEBU YSGOLION.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn amlinellu'r heriau ariannol y mae ysgolion cynradd yn eu hwynebu. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y dyraniad cyllideb presennol  o ran Ariannu Teg i ysgolion a'r ymdrechion i ddosbarthu'n deg i'r ystod o ysgolion cynradd i ddiwallu anghenion addysgol pob dysgwr yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu rhai dylanwadau cyd-destunol allweddol sy'n effeithio ar y model ariannu mewn ysgolion ar hyn o bryd.

 

Mae mynediad at addysg o ansawdd uchel yn hawl sylfaenol i bob plentyn a pherson ifanc ac ni ddylai ddibynnu ar ble rydych chi'n byw, ar eich cefndir cymdeithasol nac ar ba iaith rydych chi'n dysgu ynddi. Addysg dda yw un o'r conglfeini pwysicaf y gall plentyn eu cael.  Mae’n hanfodol bod digon o gyllid teg ar gael i sicrhau y gellir darparu’r addysg y mae ein plant a’n pobl ifanc yn ei haeddu mewn modd effeithiol a chyson.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd a oedd unrhyw ffigurau ar gael mewn perthynas â chyfanswm y gwariant ar addysg gan Awdurdodau Lleol. Eglurodd Cyfrifydd y Gr?p fod y data hwn yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn a bod adroddiad dadansoddi ar gael. Ychwanegodd ei bod yn anodd cymharu data oherwydd bod pob Cyfarwyddiaeth Addysg ychydig yn wahanol ym mhob Awdurdod gan fod rhai yn cynnwys llyfrgelloedd, ac mewn rhai awdurdodau mae gwasanaethau ADY yn cael eu dirprwyo ond mewn rhai eraill fe'u cedwir yn ganolog;

·         Gofynnwyd iddi am ddadansoddiad o'r tair elfen - dysgwyr, amddifadedd a theneurwydd, a dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor y byddai'n dosbarthu'r wybodaeth hon drwy e-bost ar ôl y cyfarfod;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at yr heriau sylweddol yn ein hysgolion a nodwyd na allwn barhau fel yr ydym a theimlwyd ei bod bellach yn bryd cynnal trafodaethau ystyrlon a phwyllog am hyn. Cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ei bod yn bryder bod rhai o'n hysgolion yn hen, mewn cyflwr gwael ac nad ydynt yn addas i'r diben, a dyna pam yr oedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg mor bwysig;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg a hefyd ynghylch y ffordd y mae rhai ysgolion wedi ymdopi'n dda dros y flwyddyn ddiwethaf ond mae rhai wedi gwaethygu'n sylweddol. Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod capasiti yn broblem a phan gaiff prosiect ei gynnwys yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, mae hynny oherwydd materion capasiti. Ychwanegodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gynllunio lleoedd mewn ysgolion ac felly roedd yn hanfodol cyflenwi'r galw.  Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol adolygu pob ysgol sydd â dros 10% o leoedd gwag;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Pwyllgor wedi bod yn pryderu am lefel y diffygion mewn ysgolion ac roedd yr adroddiad yn ddefnyddiol o ran dangos y rhesymau a'r manylion y tu ôl i hyn. Gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl derbyn adroddiad tebyg ar gyfer ysgolion uwchradd a chytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant y byddai'n cyflwyno adroddiad ar y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod gan gyfran sylweddol o'r holl ysgolion  ddisgyblion o'r tu allan i'w dalgylch. Rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg wybod i'r Pwyllgor mai'r bwriad oedd cynnal adolygiad o bob dalgylch, ond ni fu hyn yn bosibl gan fod y rhan fwyaf o'i dîm wedi cael eu hadleoli i weithio mewn adrannau eraill oherwydd y pandemig. Ychwanegodd y bydd yr adolygiad o ddalgylchoedd yn cael ei gwblhau cyn gynted ag y bo'n ymarferol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

[SYLWER: Am 12.55pm, wrth ystyried yr eitem uchod, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod yn mynd rhagddo ers bron tair awr, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y rheolau sefydlog er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda.]

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau