Agenda item

LLESIANT A IECHYD MEDDWL STAFF A DISGYBLION - DIWEDDARIAD IONAWR 2021.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am lesiant ac iechyd meddwl staff a disgyblion o ganlyniad i bandemig Covid-19. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cymorth ychwanegol a'r mesurau ataliol a roddwyd ar waith gan yr Adran Addysg a Phlant. Er ei fod yn canolbwyntio ar lesiant disgyblion a staff ysgolion, roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cyfeiriad at lesiant pobl ifanc eraill nad ydynt yn yr ysgol o bosibl ond sydd dal yn cael eu cynnwys o fewn maes gorchwyl yr Adran e.e. oedolion ifanc yn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         O ran y cyfeiriad yn yr adroddiad bod costau'n cael eu hysgwyddo gan yr Adran Addysg, gofynnwyd i'r swyddogion a dderbynnir unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Adran yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, os yw'r swyddogion yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol, yn ychwanegol at yr hyn a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yna'r Awdurdod Addysg Lleol sy'n gyfrifol am y gost honno. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y byddai unrhyw gymorth gan lywodraeth ganolog yn cael ei groesawu, fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gyhoeddiad hyd yma;

·         O ran nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n aros am gwnsela, gofynnwyd i'r swyddogion faint sydd ar y rhestr aros ac a oedd y nifer hwnnw wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod pob cais am gymorth yn cael ei flaenoriaethu ac y bydd unrhyw un sy'n dioddef lefel uchel o drallod yn cael ei weld yn gyntaf.  Roedd swyddogion yn gwneud popeth posibl i leihau'r rhestr aros, fodd bynnag, nid argaeledd adnoddau oedd yr unig broblem gan fod hygyrchedd ac argaeledd y plant hefyd yn broblemau ar hyn o bryd. Er bod cymorth o bell ar gael, mae'n well gan rai plant aros nes bod sesiynau wyneb yn wyneb ar gael eto ac er bod hynny'n ddealladwy, mae hyn yn cael effaith ar y rhestr aros;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith fod tair haen o blant yn achos dysgu o bell - y rhai sy'n hawdd eu cyrraedd, y rhai â heriau a'r rhai sydd â mwy o heriau a gofynnwyd i'r swyddogion pa mor fodlon oeddent eu bod yn gallu cyrraedd y plant hynny yn haenau 2 a 3. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wrth y Pwyllgor fod 95% o'r tîm bugeiliol yn treulio'u hamser ar 5% o'r disgyblion a rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith cymorth yn ein hysgolion mor gryf ag y gall fod;

·         Mynegwyd pryder y gallai rhai plant syrthio drwy'r rhwyd ac na fyddent yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Atgoffwyd y Pwyllgor o bwysigrwydd cael perthynas dda rhwng yr ysgol a'r rhiant o ran dysgu o bell. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor y gofynnwyd i ysgolion ar ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf weithio gyda'r swyddogion i gategoreiddio pob disgybl yn goch, yn oren ac yn wyrdd o ran dysgu o bell fel y gellid canolbwyntio ar y disgyblion mwyaf agored i niwed yn y categori coch;

·         O ran yr archwiliad a gynhaliwyd ar ddechrau'r pandemig, gofynnwyd i'r swyddogion pa fath o gymorth a ddarperir ar gyfer pob categori ac a yw hyn yn cael ei archwilio. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod ysgolion a swyddogion yn canolbwyntio ar y categori coch a disgwylir cyswllt dyddiol. O ran y categori oren, y nod yw codi ymwybyddiaeth o anghenion y plant a'r hyn y dylent fod yn ei wneud. Gwneir yn glir i ysgolion, os nad yw'r plant hyn ar-lein ac yn ymgysylltu, bod angen iddynt gymryd camau. Mae angen i blant yn y categori gwyrdd barhau â'u dysgu, fodd bynnag, mae angen herio'r disgyblion hyn hefyd;

·         Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd gan bob plentyn yr offer TG sydd ei angen i ddysgu o bell ac os felly, a yw pob ysgol (cynradd ac uwchradd) yn rhagweithiol o ran dysgu o bell. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod 1,600 o becynnau TG wedi'u dosbarthu ochr yn ochr â dongles i sicrhau mynediad i'r rhyngrwyd lle bo angen;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y gostyngiad yn nifer y disgyblion sydd wedi'u cofrestru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref a gofynnwyd i'r swyddogion a oes gan y disgyblion hyn fynediad at ddysgu ar-lein. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor fod swyddogion yn pryderu am y nifer a oedd wedi dadgofrestru ar ddechrau'r pandemig ac maent wedi gweithio'n galed ar ail-ymgysylltu drwy fentrau gan gynnwys defnyddio dronau i ddangos y mesurau diogelwch sy'n cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion a gwahodd rhieni i weld y mesurau drostynt eu hunain. Tynnodd sylw at y ffaith bod yr Awdurdod Lleol yn cael lwfans o oddeutu £3,500 y pen ar gyfer pob disgybl, fodd bynnag, ni ddarperir lwfans ar gyfer y rhai sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref er bod staff wedi'u dynodi i'w cynorthwyo;

·         Er y croesawyd y gwaith sy'n cael ei wneud gyda staff a llinell gymorth gyfrinachol Llywodraeth Cymru, gofynnwyd am sicrwydd gan y swyddogion bod digon yn cael ei wneud i gefnogi staff.  Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wrth y Pwyllgor fod llawer o fentrau ar waith i gefnogi staff gan gynnwys sesiynau byw, rhithwir sy'n cynnig cyfle i staff ryngweithio â chydweithwyr o bob cwr o Gymru; 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau aruthrol sydd ar ein hathrawon a'n harweinwyr a'r ffaith, os nad yw ein hathrawon yn iach, nad oes gennym unrhyw obaith o agor ein hysgolion. Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd modd cysylltu â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod athrawon yn cael eu blaenoriaethu o ran derbyn y brechlyn. Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd modd argymell i'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn lobïo Llywodraeth Cymru i ofyn am i athrawon gael eu cynnwys yn uchel ar y rhestr o'r rhai i'w brechu. Cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant i godi hyn gyda'r Bwrdd Gweithredol;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod straen anferth wedi bod ar athrawon dros y misoedd diwethaf a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd ganddynt unrhyw ddata i ddangos faint o staff sy'n absennol o'r gwaith oherwydd straen. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor nad oedd ganddo'r data gydag ef, ond byddai'n dosbarthu'r data i'r Pwyllgor drwy e-bost ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

4.2 bod yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant yn codi'r mater o lobïo Llywodraeth Cymru gyda'r Bwrdd Gweithredol i ofyn am i athrawon gael eu cynnwys yn uchel ar y rhestr o'r rheini sydd i'w brechu.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau