Agenda item

GWNEUD NEWIDIADAU I'R CYTUNDEB CYFREITHIOL AR Y CYD YN UNOL Â CHYMAL 25

Cofnodion:

The Joint Committee considered a report proposing changes to the ERW Joint Legal Agreement in accordance with Clause 25. The Joint Committee was advised that the report responded to a Joint Committee decision to replace the ERW Consortium with a new footprint. All constituent authorities except Pembrokeshire County Council and Powys County Council had issued their notice to withdraw from the Consortium by 31st March 2021. In order to enable Pembrokeshire and Powys to leave the Consortium by the same date, and to facilitate the dissolution of ERW by 31st March 2021, it was proposed that the Joint Committee, in consultation with the Executive Board,  recommend to each constituent authority that changes were made to the Legal Agreement to:

 

     I.        Facilitate dissolution/termination of the ERW Consortium;

    II.        Address any subsequent liabilities/indemnities of all present (and former) constituent authorities;

  III.        Facilitate a reduced notice of withdrawal period of 4 months

 

Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad yn cynnig newidiadau i Gytundeb Cyfreithiol ERW yn unol â Chymal 25. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod yr adroddiad wedi ymateb i benderfyniad y Cyd-bwyllgor i ddisodli Consortiwm ERW gydag ôl troed newydd. Roedd yr holl awdurdodau cyfansoddol ac eithrio Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys wedi hysbysu y byddent yn tynnu'n ôl o'r Consortiwm erbyn 31 Mawrth 2021. Er mwyn galluogi Sir Benfro a Powys i adael y Consortiwm erbyn yr un dyddiad, ac i hwyluso'r broses o ddiddymu ERW erbyn 31 Mawrth 2021, cynigiwyd bod y Cyd-bwyllgor, mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Gweithredol, yn argymell i bob awdurdod cyfansoddol fod newidiadau’n cael eu gwneud i'r Cytundeb Cyfreithiol i:

 

     I.        Hwyluso diddymu/terfynu Consortiwm ERW;

    II.        Mynd i'r afael ag unrhyw rwymedigaethau/indemniadau dilynol yr holl awdurdodau cyfansoddol presennol (a blaenorol);

  III.        Hwyluso cyfnod hysbysiad tynnu yn ôl llai o 4 mis

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod diwygiadau i'r Cyd-gytundeb Cyfreithiol yn amodol ar gymeradwyaeth gan bob awdurdod cyfansoddol a bod diwygiadau arfaethedig drafft wedi'u dosbarthu i'r Penaethiaid Cyfreithiol priodol. Rhoddwyd hefyd wybod, ar ôl derbyn hysbysiadau ysgrifenedig yn argymell amrywio'r Cytundeb Cyfreithiol, y byddai angen cael barn gyfreithiol gan Benaethiaid Cyfreithiol priodol yr awdurdodau cyfansoddol. Byddai costau cyfreithiol Cyngor Sir Ceredigion wrth weithredu'r newidiadau uchod yn cael eu codi ar ERW a byddai angen cyngor cyfreithiol wrth sefydlu unrhyw Gonsortiwm newydd y gallai awdurdodau sy'n tynnu'n ôl fod eisiau bod yn gysylltiedig ag ef. 

 

Codwyd sawl cwestiwn a sylw, gan gynnwys y canlynol:

 

·         O ran y cyfnod hysbysiad tynnu yn ôl llai, awgrymwyd y dylai  fod yn dri yn hytrach na phedwar mis i roi digon o amser i awdurdodau cyfansoddol a oedd yn dymuno tynnu'n ôl erbyn 31 Mawrth 2021 gytuno a chyflwyno hysbysiad tynnu'n ôl;

·         Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod y penderfyniad arfaethedig yn gytundeb mewn egwyddor i roi'r opsiwn i Gyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys adael ERW erbyn 31 Mawrth 2021 pe dymunent.

 

PENDERFYNWYD

   6.2.1.        Ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Gweithredol, dylid gwneud argymhelliad i bob Awdurdod, yn unol â chymal Amrywio (Cymal 25) o Gytundeb Cyfreithiol ar y Cyd ERW (2014) (“Cytundeb Cyfreithiol”), y dylid gwneud newidiadau i'r Cytundeb Cyfreithiol, i :

                             I.        Hwyluso diddymu/terfynu Consortiwm ERW;

                            II.        Mynd i'r afael ag unrhyw rwymedigaethau/indemniadau dilynol yr holl Awdurdodau presennol (a blaenorol);

                          III.        Hwyluso cyfnod hysbysiad tynnu yn ôl llai o dri mis;

   6.2.2.        Rhoi hysbysiad ysgrifenedig i bob Awdurdod o'r argymhelliad y cytunwyd arno o dan 6.2.1.

Dogfennau ategol: