Agenda item

EFFAITH COVID-19 AR WASANAETHAU ADRAN YR AMGYLCHEDD SY'N BERTHNASOL I'R PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – y Dirprwy Arweinydd (sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Cynllunio), yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ar effaith pandemig Covid-19 ar y Gwasanaethau Cyngor hynny a ddarperir gan Adran yr Amgylchedd sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio h.y.: y Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo. Wrth asesu effaith y pandemig ar y gwasanaethau hynny, helpodd yr adroddiadau hefyd i lywio sut y gellid eu hailosod a gwella rhagor ar y ffordd cânt eu darparu yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i rannu'n ddwy elfen ar wahân yn cwmpasu'r Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo, ac roedd yn rhoi sylw i effaith Covid-19 o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, staff a'r Cyngor ac o ran y meysydd gwasanaeth canlynol:

 

Y Gwasanaethau Cynllunio

 

Eiddo

·         Polisi Cynllunio

 

·     Tai Newydd

·         Mwynau a Gwastraff (ac eithrio'r elfen orfodi)

 

·     Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw

·         Rheoli Datblygu a Threftadaeth Adeiledig (ac eithrio'r elfen orfodi)

 

 

·         Rheoli Adeiladu

 

 

·         Enwi a Rhifo Strydoedd

 

 

 

Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor at ddatblygiad Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig y Cyngor, a dywedodd fod Covid, oherwydd y Pandemig, wedi effeithio ar y cyfnod ymgynghori ar y fersiwn Adneuo, er ei fod wedi'i gwblhau ym mis Mawrth 2020. Roedd y pythefnos diwethaf wedi cael eu heffeithio yn yr ystyr bod mynediad i lyfrgelloedd wedi cael ei atal. O ganlyniad, cynhaliwyd ymgynghoriad pellach o dair wythnos, a oedd wedi cychwyn ar 2 Hydref 2020. Cyfeiriodd hefyd at y ddeddfwriaeth ynghylch y darpariaethau "dyddiad terfynol" ar gyfer y CDLl presennol a dywedodd fod Llywodraeth Cymru, y diwrnod cynt, wedi derbyn


Cytundeb Cyflawni diwygiedig y Cyngor, a oedd yn golygu y byddai'r CDLl presennol yn parhau i fod ar waith hyd nes mabwysiadu'r cynllun newydd ym mis Gorffennaf 2022.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at atal ymweliadau safle gan yr adain Rheoli Datblygu a'r adain Rheoli Adeiladu yn ystod y pandemig, a gofynnwyd a oedd penderfyniad wedi'i wneud ar eu hailddechrau.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, er y byddai angen asesu pob ymweliad safle fesul achos ar hyn o bryd, fod cynigion yn ailddechrau'n raddol, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau Covid-19 oedd mewn grym, er mwyn lleihau i'r graddau mwyaf y posibiliad o ôl-groniad pellach.

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi llacio'r gofyniad oedd ar awdurdodau cynllunio lleol i benderfynu ar ddosbarthiadau penodol o geisiadau cynllunio o fewn cyfnod o wyth wythnos yn ystod y pandemig. Fodd bynnag roedd y gwasanaeth yn ceisio penderfynu ar geisiadau cyn gynted ag y bo modd, a lle roedd yn amlwg y byddai oedi cyn penderfynu, roedd trafodaethau ynghylch estyniad i'r amser yn cael eu cynnal gydag ymgeiswyr yn unigol.

·       Cyfeiriwyd at yr ôl-groniad presennol o geisiadau cynllunio y disgwylid penderfyniad yn eu cylch. Er derbyn bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa honno, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio bob pythefnos, gofynnwyd am syniad pryd y byddai'r sefyllfa'n cael ei hunioni.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adnoddau ychwanegol wedi'u comisiynu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o geisiadau nad oedd penderfyniad wedi'i wneud arnynt, a bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i unioni'r sefyllfa cyn gynted â phosibl.

·       Cyfeiriwyd at effaith ariannol Covid-19 ar incwm yr Is-adran Gynllunio, a sut y byddai hynny'n effeithio ar ei gallu i sicrhau cyllideb gadarnhaol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod incwm wedi gostwng tua thraean yn Chwarter 1 y flwyddyn ariannol gyfredol, ond bod pethau wedi gwella rhywfaint yn Chwarter 2 drwy gyfuniad o ffioedd a dderbyniwyd yn Ch1, na chawsant eu cofrestru tan Ch2, ynghyd â cheisiadau newydd a dderbyniwyd. O ran yr effaith ar gyllideb gyffredinol yr is-adran, dywedodd y Pennaeth Cynllunio y byddai'r cynnydd mewn ffioedd oedd ar fin digwydd yn helpu i sicrhau sefyllfa gyllidebol fwy ffafriol.

·       Cyfeiriwyd at ailddechrau rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, ac at yr anawsterau o ran dod o hyd i rai deunyddiau adeiladu. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa effaith y gallai'r anawsterau hynny ei chael ar amserlenni cyflawni prosiectau.

 

Er bod rhai anawsterau wedi bod o ran y gadwyn gyflenwi, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai rhai tymor byr fyddai'r rheiny yn ôl pob tebyg.  Fodd bynnag gallent, o bosibl, arwain at gostau datblygu uwch. Er gwaethaf yr anawsterau hynny, cadarnhawyd bod cynlluniau tai newydd y Cyngor yn mynd rhagddynt, fel roedd yr adroddiad yn ei nodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: