Agenda item

EFFAITH Y PANDEMIG COVID AR WASANAETHAU HAMDDEN Y SIR

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ar effaith pandemig Covid-19 ar y Gwasanaethau Hamdden. Roedd yr adroddiad yn amlygu'r newidiadau a'r heriau a wynebir, gan roi diweddariad ar statws pob maes gwasanaeth a rhoi sylw i gamau cyn-covid, cyn tynnu sylw at yr heriau yn y dyfodol i'r gwasanaeth wynebu cwsmeriaid a'r gwasanaeth creu incwm.

 

Roedd Adran 2 yn yr adroddiad yn tynnu sylw at effaith Covid ar y gwasanaethau Hamdden ac yn tynnu sylw at y rheiny oedd wedi:-

 

·       Parhau i weithredu drwy'r pandemig;

·       Cau yn ystod y cyfyngiadau cychwynnol;

·       Ailgychwyn;

·       Aros ar gau;

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar wasanaeth 'clicio a chasglu' y llyfrgell, cadarnhawyd y gellid rhoi gwybod i'r pwyllgor am ystadegau ynghylch faint oedd yn defnyddio'r gwasanaeth

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar effaith y pandemig ar y safle carafannau teithiol ym Mharc Gwledig Pen-bre, er bod effaith wedi bod ar incwm, cadarnhawyd bod llacio'r cyfyngiadau, a'r ffenomenon 'gwyliau gartref' yn y diwydiant twristiaeth, wedi golygu i'r parc ac ardaloedd arfordirol eraill yn y sir fod yn brysurach nag erioed. Roedd ffigurau incwm mis Awst yn uwch na'r blynyddoedd blaenorol.

 

Gan roi sylw penodol i Safle Carafannau Pen-bre, cafodd y Pwyllgor wybod am y mesurau a gyflwynwyd i hwyluso'r broses o'i ailagor, ynghyd â'r angen parhaus i ailasesu'r mesurau hynny


er mwyn sicrhau bod y safle'n ddiogel ac yn cydymffurfio â'r rheolau newydd oedd yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r pandemig.
 Y gobaith oedd y byddai adferiad o ran sefyllfa ariannol y parc yn ystod tymor 2021/22.

·       Mewn ymateb i gwestiynau ar y tri ymweliad safle a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn 2019, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r disgwyl oedd y byddid yn dod i gytundeb gyda'r Cyngor Tref cyn bo hir ynghylch gweithrediad Y Gât, Sanclêr, yn y dyfodol.  Roedd cynllun wedi'i lunio ar gyfer adnewyddu Canolfan Hamdden Sanclêr. Fodd bynnag, o ran ariannu'r gwaith, byddai'n rhaid ei asesu yn erbyn cynlluniau eraill yn rhaglen gyfalaf y Cyngor. Trefnwyd y byddai adroddiad ar Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn yn barod ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr.

·       Cyfeiriwyd at sefyllfa bresennol theatrau ledled y sir, a oedd ar gau o hyd, a cheisiwyd gwybodaeth am ddarparu digwyddiadau theatr byw drwy gyfrwng digidol. Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi trefnu/darparu nifer o berfformiadau'n ddigidol, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu a hyrwyddo'r ddarpariaeth honno ymhellach dros y misoedd nesaf.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar ddiogelu theatrau yn y dyfodol, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin yn wahanol i ardaloedd awdurdodau lleol eraill gan fod y prif theatrau yn eiddo i'r Cyngor ac yn cael eu rhedeg ganddo. Er bod y theatrau wedi aros ar gau a bod y staff ar ffyrlo, roedd y Cyngor yn gallu hawlio'r incwm a gollwyd gan fod y theatrau wedi cael eu gorfodi i gau. Y gobaith oedd y byddai cyfuniad o lacio rheolau Covid a'r posibilrwydd o gyflwyno brechlyn yn y dyfodol agos yn golygu y gallai rhai gwasanaethau ailddechrau yn y flwyddyn newydd. Roedd gobaith hefyd y gellid darparu gwasanaeth agos i'r un arferol erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2021/22, ond byddai hynny'n heriol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: