Agenda item

EFFAITH Y PANDEMIG COVID AR GARTREFI A CHYMUNEDAU MWY DIOGEL

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, ar effaith pandemig Covid-19 ar y gwasanaethau tai o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, staff a'r Cyngor, gan ddarparu gwybodaeth glir am y camau a gymerwyd a llywio'r goblygiadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol ac unrhyw wersi allweddol a ddysgwyd. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyflawni allweddol a datblygiadau yn y dyfodol yn y meysydd gwasanaeth canlynol:

 

·       Buddsoddi a Darparu Tai yn Strategol;

·       Cyngor a Chymorth Tenantiaeth;

·       Tai Gwarchod ac;

·       Ymgysylltu a Phartneriaethau

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod am unrhyw estyniad y tu hwnt i fis Mawrth 2021 i'w gynllun i ad-dalu costau ychwanegol ar ran awdurdodau lleol yn sgil bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i gartrefu pobl ddigartref. Er mai'r gobaith oedd y byddai'r cynllun yn parhau'r tu hwnt i'r dyddiad hwnnw, pe na bai'n parhau, byddai goblygiadau ariannol i feysydd gwasanaeth eraill o fewn Tai a Chymunedau Mwy Diogel.

·       Soniwyd bod ôl-ddyledion rhent wedi cynyddu o £1.5m ym mis Hydref 2019 i £1.8m ym mis Hydref 2020, a gofynnwyd a fyddai modd eu hadennill a beth oedd y canlyniadau pe na bai'n bosibl gwneud hynny.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai elfen o ôl-ddyledion rhent yn bodoli bob amser o fewn y Cyngor, gan fod tenantiaid yn talu ar ffurf ôl-daliadau. Dyna oedd y sefyllfa ym mhob awdurdod lleol, ac er bod Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa well na rhai awdurdodau eraill, roedd rheoli ôl-ddyledion yn ofalus yn allweddol. Yn Sir Gaerfyrddin, roedd y mesurau hynny'n cynnwys, er enghraifft, ymyrraeth gynnar lle nodwyd y potensial i ôl-ddyledion gronni, cynorthwyo tenantiaid newydd i reoli eu cyllidebau, nodi budd-daliadau cymwys posibl, a sefydlu cronfa atal i annog tenantiaid i dalu ychydig yn ychwanegol bob mis i leihau eu hôl-ddyledion.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr Awdurdod wedi rhagweld y gallai'r pandemig arwain at ôl-ddyledion uwch, a byddai'n ailasesu'r ddarpariaeth dyledion drwg ac ôl-ddyledion yn ei Gynllun Busnes. Fodd bynnag, yr arwyddion cynnar oedd nad oedd effaith ar y Cynllun Busnes.  Yn ogystal, er mwyn cynorthwyo tenantiaid, roedd yr Awdurdod wedi newid ei weithdrefnau gorfodi a bellach yn rhoi 6 mis o rybudd. O'r blaen roedd camau gorfodi wedi cychwyn ar ôl mis o rybudd.

·       Cyfeiriwyd at y mesurau a gyflwynwyd yn ystod y don gyntaf o'r pandemig i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn digartrefedd ar draws y DU, ac at y sefyllfa bresennol lle'r oedd digartrefedd bellach ar gynnydd. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin.


 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd safbwynt y Cyngor wedi newid ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth a bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i fynd i'r afael â digartrefedd yn y sir, yn unol â gofynion cyfreithiol. Ar hyn o bryd roedd yr awdurdod yn darparu ar gyfer 119 o bobl ddigartref, ac roedd 18 ohonynt mewn grwpiau teuluol a 101 yn bobl sengl. O'r rheiny, roedd 30 ohonynt mewn gwely a brecwast ac 89 mewn llety dros dro. Roedd yr Awdurdod hefyd yn edrych ar ei gyflenwad tai, ac wrth ddatblygu cynlluniau newydd byddai'n rhaid darparu ar gyfer pobl sengl, a gallai hynny gynnwys creu blociau bach i letya hyd at bedwar person er enghraifft.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod darparu ar gyfer y digartref yn her i'r awdurdod, ac y byddai pwyslais dros y 6-12 mis nesaf ar ddarparu amrywiaeth o lety i ddiwallu eu hanghenion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: