Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar gynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian.
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer a math yr ysgolion sydd ganddo mewn ardal ac a yw'n llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.
Mae Ysgol Gynradd Mynyddygarreg yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg sydd wedi ei lleoli ym mhentref Mynyddygarreg ac mae lle i 55 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y disgyblion wedi aros yn gyson ond maent yn dal i fod tipyn yn is na nifer y lleoedd. Dangosodd ffigurau Ionawr 2020 fod 36 o ddisgyblion yn yr ysgol a bod 19 o leoedd gwag, neu 35%. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori Awdurdodau Lleol i adolygu eu darpariaeth lle bo mwy na 10% o leoedd gwag mewn ardal. Yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol, amcangyfrifwyd y bydd nifer y disgyblion yn parhau tipyn yn is na nifer y lleoedd yn y dyfodol rhagweladwy. Yn ogystal, roedd cyflwr adeilad yr ysgol yn wael ac roedd yr ysgol wedi bod mewn diffyg ers 2016/17 ac mae'n parhau i fod â diffyg o £48,265 wrth gamu i flwyddyn ariannol 2020/21. Eu dyraniad cyllid gwreiddiol ar gyfer 2020/21 oedd £172,000.
O safbwynt addysgol mae bod â chyn lleied o ddisgyblion a dosbarthiadau oedran cymysg yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder o ran y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol y mae ar ddisgyblion o’r oedran hwn eu hangen i ddatblygu'n llawn. Roedd y ffeithiau anochel hyn wedi arwain yn y pen draw at fodel ysgol nad yw'n fodel addysgol gadarn na sefydlog nac yn ddefnydd gorau o'r adnoddau. Gan na ddisgwylir gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, roedd angen ystyried cynaliadwyedd yr ysgol.
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg 3-11 oed yw Ysgol Gymraeg Gwenllian sydd wedi'i lleoli yng Nghydweli. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y disgyblion wedi aros yn gyson ac ychydig yn is na chapasiti'r ysgol o 140. Fodd bynnag, yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol disgyblion, roedd disgwyl i nifer y disgyblion gynyddu ac roedd disgwyl i'r ysgol fod bron yn llawn erbyn 2025 ac roedd y duedd hon yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld. O ganlyniad, mae'r Awdurdod Lleol yn datblygu cynllun i ddarparu cyfleusterau i ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif ar safle newydd.
Byddai'r prosiect yn adleoli Ysgol Gymraeg Gwenllian o'i safle presennol i safle newydd sydd o fewn dalgylch presennol Ysgol Gymraeg Gwenllian. Bydd yr ysgol newydd yn darparu adeilad ysgol gynradd o safon Llywodraeth Cymru gyda'r gallu i ddarparu ar gyfer 240 o ddisgyblion (210 + 30 o leoedd ar gyfer oedran meithrin) rhwng 3 ac 11 oed, a sicrheir bod yr ysgol yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm llawn mewn amgylcheddau dysgu modern, diogel ac ysbrydoledig gydag ardaloedd allanol helaeth. Bydd y buddsoddiad arfaethedig hwn yn mynd i'r afael â chyflwr gwael yr adeilad a'r diffyg lle a darpariaeth yn yr ysgol bresennol trwy ddarparu lleoedd digonol ar gyfer y galw presennol a'r galw arfaethedig mewn ysgol categori A. O ganlyniad i'r heriau parhaus y mae'r ddwy ysgol yn eu hwynebu, nid oedd yn bosibl cynnal y trefniadau presennol.
Felly cynigiwyd y canlynol:
- Cau Ysgol Gynradd Mynyddygarreg ar 31 Awst, 2021;
- O 1 Medi, 2021 bydd pob disgybl wedi'i gofrestru yn Ysgol Gymraeg Gwenllian, gan weithredu ar y ddau safle (Ysgol Gymraeg Gwenllian a hen Ysgol Gynradd Mynyddygarreg) gan gynyddu nifer y lleoedd i 178 + 17 o leoedd meithrin;
- Ailddynodi dalgylch Ysgol Gymraeg Gwenllian er mwyn cynnwys dalgylch hen Ysgol Gynradd Mynyddygarreg o 1 Medi 2021;
- Adleoli Ysgol Gymraeg Gwenllian i safle newydd a chynyddu nifer y lleoedd i 210 + 30 o leoedd meithrin o fis Medi 2023, sef y dyddiad Cyy cynigiwyd agor yr ysgol newydd.
Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
· Pan ofynnwyd a fydd unrhyw ddyled sy'n ddyledus gan ysgol yn cael ei dileu cyn gynted ag y bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu, eglurodd yr Aelod Gweithredol dros Addysg a Phlant y bydd unrhyw ddiffyg gan y naill ysgol neu'r llall yn trosglwyddo i'r Awdurdod ar 31 Awst 2021.
PENDERFYNWYD
15.1 cymeradwyo'r cynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian, fel y nodir yn yr adroddiad;
15.2 argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod proses ymgynghori ffurfiol yn cael ei chynnal.
Dogfennau ategol: