Agenda item

RMA - AD-DREFNU AC AILFODELU GWASANAETHAU CYMORTH YMDDYGIAD YN YSGOL RHYDYGORS I WELLA'R DDARPARIAETH AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar gynnig i ad-drefnu ac ailfodelu Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Yn dilyn adolygiad strategol o Wasanaethau Ymddygiad yr Awdurdod, cynigiwyd rhoi'r gorau i ganolbwyntio'n unig ar ymddygiad a defnyddio dull mwy cyffredinol o gynnwys llesiant disgyblion ac ennyn eu diddordeb. Er mwyn cyflawni hyn, mae model pedwar cam o wasanaethau ymddygiad wedi cael ei ddatblygu a oedd yn cynnwys darparu cymorth o ran ymddygiad ac ymgysylltu ar bedair lefel. Mae'r cymorth yn amrywio o ymyrraeth a chymorth mewn ysgolion prif ffrwd i leoliadau seibiant neu breswyl arbenigol.

 

Ar hyn o bryd, mae gan yr Awdurdod ystod o leoliadau lle caiff disgyblion eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys Ysgol Rhyd-y-gors, Canolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Sir Gaerfyrddin (Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer disgyblion uwchradd), Canolfan Bro Tywi (Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer disgyblion cynradd) a Chanolfan y Gors (Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer disgyblion uwchradd sydd â phroblemau sylweddol o ran gorbryder a/neu lesiant emosiynol a phroblemau iechyd meddwl sydd angen cefnogaeth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Mae gweledigaeth y model pedwar cam yn cynnwys annog pob un o'r lleoliadau hyn i gydweithio fel un Tîm y Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Ymddygiad Arbenigol a Llesiant. Un o'r prif ffyrdd o gyflawni hyn yw creu cysondeb yn y math o ddarpariaeth a gynigir ym mhob un o'r lleoliadau a chreu system sy'n sicrhau bod cysylltiadau ag ysgolion prif ffrwd.

 

Ar hyn o bryd, unwaith y bydd plentyn yn cael ei roi yn Rhyd-y-gors, mae'r dystiolaeth hanesyddol yn awgrymu bod y person ifanc yn aros yno hyd nes ei fod yn 16 oed heb unrhyw brofiad pellach o fod mewn prif ffrwd. Mae'r Model Pedwar Cam newydd yn datblygu gwasanaethau cymorth ymddygiad i ganiatáu mynediad haws at ymyrraeth gynnar fel bod gan ysgolion fynediad uniongyrchol i aelod o dîm y Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad a fydd yn cael ei hyfforddi mewn dulliau adferol, arferion sy'n ymwybodol o drawma ac sy'n datblygu'n broffesiynol yn barhaus i gefnogi anghenion eu clwstwr o ysgolion.

 

Mae yna ddysgwyr bob amser sydd ag anghenion cymhleth ac sydd angen pecynnau cymorth cadarn y tu allan i ddarpariaeth brif ffrwd ond mae ethos yr Awdurdod yn cefnogi cynwysoldeb ac yn datblygu cymorth a gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan anghenion. O fewn y model Pedwar Cam, pan argymhellir bod plentyn yn cael lle yng Nghamau 3 neu 4 dylai fod cyfle bob amser i ddychwelyd i'r brif ffrwd, neu hyd yn oed gael mynediad i'r brif ffrwd ar gyfer pynciau sydd yn ennyn eu diddordeb mewn modd cadarnhaol, ac nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar ddysgu rhai eraill, pan all y person ifanc reoli emosiynau a chymryd rhan yn ei addysg mewn modd cadarnhaol a diogel. Gellir gwneud hyn drwy fonitro ac asesu parhaus a chyda pherthynas agos, dryloyw sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth â'n hysgolion prif ffrwd.

 

Er mwyn cysondeb, mynediad at gymorth arbenigol iawn, mynediad i gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod o opsiynau achredu a'r cynnig o gynlluniau addysg unigol a phwrpasol a gynigir yn yr Unedau Cyfeirio Disgyblion presennol drwy'r dull 3 Haen, roedd yn ofynnol cau Ysgol Rhyd-y-gors fel ysgol arbennig a'i sefydlu fel Uned Cyfeirio Disgyblion a bydd y cynnig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor heddiw yn cychwyn y newid hwn.

 

Er y cydnabuwyd bod Ysgol Rhyd-y-gors wedi bod yn darparu addysg i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ar ffurf ysgol arbennig ers nifer o flynyddoedd, cydnabuwyd y bydd gwella model yr Uned Cyfeirio Disgyblion yn darparu'n fwy priodol ar gyfer diwallu anghenion cymdeithas a'i phobl ifanc, gan ddarparu cyfleoedd cyson ar draws y sir.

 

Felly cynigiwyd y canlynol:

 

-       Cau Ysgol Arbennig Rhyd-y-gors ar 31 Awst 2021. Bydd holl gyn-ddisgyblion Ysgol Rhyd-y-gors yn parhau i gael eu haddysg ar safle hen Ysgol Rhyd-y-gors. Os caiff ei gymeradwyo, yn hytrach na chael darpariaeth mewn ysgol arbennig, bydd disgyblion yn cael eu haddysgu mewn Uned Cyfeirio Disgyblion.  Er y dylid ystyried y cynnig yn ei gyfanrwydd, roedd y ddogfen ymgynghori yn ymwneud â phwynt 1 yn unig. Byddai pwyntiau 2 a 3 a nodir isod yn cael eu gweithredu drwy weithdrefnau ar wahân;

-       Os caiff yr uchod (Pwynt 1) ei gymeradwyo, bydd yr Awdurdod Lleol yn sefydlu Uned Cyfeirio Disgyblion ar safle hen Ysgol Rhyd-y-gors ar 1 Medi 2021;

-       Yn ogystal, os caiff Pwynt 1 ei gymeradwyo, bydd yr Awdurdod Lleol yn sefydlu Canolfan Gofal Seibiant/Cartref Plant ar safle hen Uned Breswyl/Ysgol Rhyd-y-gors ar 1 Medi 2021.  Bydd pob un o gyn-ddisgyblion Ysgol Rhyd-y-gors sydd ag elfen o addysg breswyl yn rhan o'u Datganiad AAA yn parhau i dderbyn hyn ar safle hen Ysgol Rhyd-y-gors.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd i swyddogion am y gost fesul disgybl mewn Uned Cyfeirio Disgyblion o gymharu ag ysgol gan fod cost yr uned yn Rhyd-y-gors yn ymddangos yn eithriadol o uchel. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod y gost yn uwch oherwydd yr elfen breswyl a'r ddarpariaeth ddydd a ddarperir yn Rhyd-y-gors;

·         Pan ofynnwyd am gadarnhad na fydd dysgwyr yn cael eu difreinio gan y newidiadau arfaethedig, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y bydd popeth posibl yn cael ei wneud i sicrhau nad yw dysgwyr ar eu colled o ran eu darpariaeth. Roedd o'r farn y bydd dysgwyr yn cael gwell darpariaeth drwy symud i'r dull newydd gan y bydd ganddynt fwy o fynediad at gymwysterau a fydd yn rhoi mwy o ddewisiadau iddynt pan fyddant yn gadael yr ysgol;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod disgyblion yn cael eu rhoi yn Rhyd-y-gors oherwydd bod ganddynt broblemau ymddygiadol a bod angen gofal a sylw arbenigol arnynt i fynd i'r afael â'u hanghenion. Mynegwyd pryder ynghylch integreiddio'n ôl i ysgolion prif ffrwd a sut y bydd y broses bontio honno'n digwydd. Eglurodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer y Gwasanaethau Ymddygiad fod disgyblion yn cael eu hadolygu'n gyson o ran pontio a bod pob asesiad posibl yn cael ei gynnal. Ni fyddai disgybl ar unrhyw adeg yn cael mynd yn ôl i addysg brif ffrwd heb asesiad cadarn a chefnogaeth lawn. Nid oes byth bwriad i unrhyw ddisgybl fethu. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y model a ddefnyddir yn seiliedig ar ddull sy'n gwbl gynhwysol;

·         Gofynnwyd i swyddogion beth yw'r sefyllfa o ran faint o amser y gall disgybl ei dreulio yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion cyn symud ymlaen os oes ganddo anghenion arbennig iawn.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod rhaglen hyfforddi staff ynghylch addysg brif ffrwd ar gael ac na fydd disgyblion yn gadael nes eu bod yn barod i wneud hynny. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

13.1        gymeradwyo'r cynnig i ailfodelu gwasanaethau cymorth ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors, fel y nodir yn yr adroddiad;

13.2        argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod proses ymgynghori ffurfiol yn cael ei chynnal

 

 

Dogfennau ategol: