Agenda item

RMA - CYNNIG I ADOLYGU DARPARIAETH ADDYSG GYNRADD YN ARDALOEDD BLAENAU A LLANDYBIE.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe.

 

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer a math yr ysgolion sydd ganddo yn yr ardal ac a yw'n llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.

 

Mae Ysgol Gynradd Blaenau yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg sydd wedi ei lleoli ym mhentref Blaenau ac mae lle i 99 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 mlwydd oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng. Ym mis Ionawr 2020 roedd 34 o ddisgyblion yn yr ysgol a oedd yn golygu bod 65 o leoedd gwag neu 66%. Mae Llywodraeth Cymru, drwy'r Côd Trefniadaeth Ysgolion, yn cynghori Awdurdodau Lleol i adolygu eu darpariaeth lle bo mwy na 10% o leoedd gwag mewn ardal.  Yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol ynghylch nifer y disgyblion, amcangyfrifwyd y bydd nifer y disgyblion yn parhau i fod yn isel yn y dyfodol rhagweladwy.  Yn ogystal, roedd cyflwr adeilad yr ysgol yn wael ac mae'r ysgol wedi bod mewn diffyg ers 2011/12 ac yn parhau i fod â diffyg o £83,895 ar gyfer 2019/20.  Y dyraniad cyllid gwreiddiol ar gyfer 2020/21 oedd £149,000 a'u rhagolwg am y flwyddyn yw y bydd y diffyg yn cynyddu.

 

O safbwynt addysgol mae cael cyn lleied o ddisgyblion ond â dosbarthiadau oedran cymysg yn ei gwneud yn anodd iawn i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder o ran profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol y mae ar ddisgyblion yr oedran hwn eu hangen i ddatblygu'n llawn. Mae'r ffeithiau anochel hyn wedi arwain yn y pen draw at fodel ysgol nad yw'n fodel addysgol gadarn na sefydlog nac yn ddefnydd gorau o'r adnoddau. Gan na ddisgwylir gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, roedd angen ystyried cynaliadwyedd yr ysgol.

 

Mae Ysgol Gynradd Llandybïe yn ysgol gynradd drawsnewidiol (gweithio tuag at fod yn gyfrwng Cymraeg) i blant 3-11 oed. Lleolir yr ysgol ym mhentref gwledig Llandybïe.  Mae'n ysgol lwyddiannus a oedd yn llawn erbyn mis Ionawr 2019 ac er bod gostyngiad bach yn nifer y disgyblion ym mis Ionawr 2020 roedd y duedd hon yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol o ran y disgyblion. O ganlyniad, mae'r Awdurdod Lleol yn datblygu cynllun i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Llandybïe i 315 a 45 o leoedd meithrin drwy ddarparu ysgol newydd ar safle newydd, gyda chyfleusterau sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif. Bydd y prosiect yn adleoli Ysgol Gynradd Llandybïe o'i safle presennol i safle newydd sydd o fewn dalgylch presennol Ysgol Gynradd Llandybïe. Bydd yr ysgol newydd yn darparu adeilad ysgol gynradd o safon Llywodraeth Cymru gyda'r gallu i ddarparu ar gyfer 315 o ddisgyblion a 45 o ddisgyblion meithrin rhwng 3 a 11 oed, a sicrheir bod yr ysgol yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm llawn mewn amgylcheddau dysgu modern, diogel ac ysbrydoledig gydag ardaloedd allanol helaeth.

 

Bydd y buddsoddiad arfaethedig hwn yn mynd i'r afael â chyflwr gwael yr adeilad a'r diffyg lle a darpariaeth yn yr ysgol bresennol trwy ddarparu lleoedd digonol ar gyfer y galw presennol a'r galw arfaethedig mewn ysgol categori A.  Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf bu cynnydd parhaus yn nifer y disgyblion sy'n dewis mynychu'r ffrwd cyfrwng Cymraeg a gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis mynychu'r ffrwd Saesneg.

 

Mae'r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am roi'r addysg orau posibl i bob disgybl ac mae'n credu bod darparu cyfleoedd dwyieithog yn chwarae rhan yn hyn. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcan Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin o ran sicrhau bod pob disgybl yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu'r Gymraeg yn rhugl erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn unol â'u cyfnod datblygiad disgwyliedig. Y ffordd orau o greu unigolion hyderus a dwyieithog yw trwy drochi disgyblion yn yr iaith Gymraeg ac o ganlyniad mae'r Awdurdod Lleol yn ceisio newid natur y ddarpariaeth.  O ganlyniad i'r heriau parhaus y mae'r ddwy ysgol yn eu hwynebu, nid oedd yn bosibl cynnal y trefniadau presennol ac roedd angen adolygu'r ddarpariaeth addysg o fewn ardaloedd Blaenau a Llandybïe.

 

Felly cynigiwyd y canlynol:

 

-       Cau Ysgol Gynradd Blaenau ar 31 Awst 2021;

-       O 1 Medi 2021 bydd pob disgybl wedi'i gofrestru yn Ysgol Llandybïe gan ddefnyddio'r ddau safle (Ysgol Gynradd Llandybïe a'r hen Ysgol Gynradd Blaenau) gan gynyddu nifer y lleoedd i 287 + 50 o leoedd meithrin;

-       Ailddynodi dalgylch Ysgol Gynradd Llandybïe er mwyn cynnwys dalgylch hen Ysgol Gynradd Blaenau o 1 Medi 2021;

-       Newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Llandybïe i gyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2021;

-       Adleoli Ysgol Gynradd Llandybïe i safle ysgol newydd a chynyddu nifer y lleoedd o 315 + 45 o leoedd meithrin ym mis Medi 2024, pan argymhellir agor yr ysgol newydd.

 

Mae nifer y lleoedd trawsnewidiol a nodir uchod (287 + 50 o leoedd meithrin) yn cyfuno nifer y lleoedd presennol yn y ddwy ysgol gan gynnwys y lleoedd meithrin.  O ganlyniad, mae'r lleoedd meithrin yn nifer y lleoedd trawsnewidiol yn fwy na chapasiti'r ysgol yn derfynol.  Mae ffigur terfynol nifer y lleoedd (315 + 45 o leoedd meithrin) yn diwallu angen a galw'r ardal yn y tymor hir.  Bwriad yr Awdurdod yw bod yr holl ddisgyblion presennol yn aros yn yr ysgol ac yn parhau i gael eu haddysg drwy'r iaith bresennol.  Mae'n bwysig nodi na fydd unrhyw newid yn achos y disgyblion presennol sy'n mynychu Ysgol Llandybïe.

 

PENDERFYNWYD

 

12.1     cymeradwyo'r cynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe, fel y nodir yn yr adroddiad;

12.2     argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod proses ymgynghori ffurfiol yn cael ei chynnal.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau