Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn amlinellu cynnig i symud Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu nifer y lleoedd o 75 i 120.
Mae Ysgol Heol Goffa yn ysgol arbennig yn Llanelli ac mae'n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer 75 o ddisgyblion rhwng 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol neu anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae gan bob disgybl Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol. Ar hyn o bryd roedd mwy o blant yn Ysgol Heol Goffa na'r lleoedd oedd ar gael ac roedd y duedd hon yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld gan fod galw cynyddol am leoedd a oedd yn rhoi pwysau sylweddol ar yr Awdurdod Lleol i leoli disgyblion. Y nifer presennol o leoedd yn Ysgol Heol Goffa yw 75 gyda 101 o ddisgyblion ar y gofrestr ar ôl Ionawr 2020. O ganlyniad, roedd yr Awdurdod wrthi'n datblygu cynllun i gynyddu'r lleoedd yn Ysgol Heol Goffa i 120 o leoedd drwy ddarparu ysgol newydd â chyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif ar safle newydd. Roedd y safle newydd arfaethedig wedi'i leoli wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar.
Roedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal rhwng 21 Medi 2020 ac 1 Tachwedd 2020, ac roedd yr ymatebion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder nad oedd y gwaith ehangu arfaethedig efallai yn ddigon mawr i ddiogelu'r ysgol at y dyfodol, o gofio'r angen amlwg am y ddarpariaeth yn yr ardal. Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod swyddogion yn ceisio cynllunio ymlaen o ran pob cynllun ar y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae'r Awdurdod yn cael 75% o arian grant tuag at gost y cynllun, ond nid oedd yn bosibl defnyddio'r arian hwn i ddarparu lleoedd ychwanegol. Byddai'n anodd iawn cyfiawnhau cynnydd yn y ddarpariaeth i Lywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn hyderus bod y ffigur o 120 wedi'i bennu'n iawn;
· Tynnwyd sylw at y ffaith bod y ffigur presenoldeb yn yr ysgol eisoes yn 101 a gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl ymestyn yr ysgol yn y dyfodol petai angen. Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod y posibilrwydd o ehangu yn y dyfodol wedi'i gynnwys wrth adeiladu ysgolion newydd dros y blynyddoedd diwethaf;
· Cyfeiriwyd at y diffyg manylion yn yr Asesiad o'r Effaith ar Ansawdd (QIA). Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod templed corfforaethol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr Asesiad o'r Effaith ar Ansawdd. Byddai'n ystyried y sylwadau ac os oes angen cynnwys mwy o resymeg yn hytrach na gwneud "dim sylw" yna gwneir hynny;
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod y ddarpariaeth hon wedi'i lleoli mewn ysgolion uwchradd yn Rhydaman a Chaerfyrddin er mwyn hwyluso'r broses o integreiddio'n haws i addysg brif ffrwd, ond yn Llanelli y ddarpariaeth oedd ysgol ar wahân a phwysleisiwyd pa mor bwysig oedd hi fod plant yn gallu cymysgu â'u cyfoedion a'u bod yn cael pob cyfle i fynd i addysg prif ffrwd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
11.1 cymeradwyo'r adroddiad;
11.2 argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi
Dogfennau ategol: