Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod pob aelod o dîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg (MEP), o ganlyniad i bandemig Covid-19, wedi'u hadleoli am gyfnod o tua 4 mis i weithio mewn meysydd hollbwysig eraill yn yr adran ac felly dim ond ychydig bach iawn o waith prosiect y gallent ei gwblhau. Cyn y pandemig, roedd y tîm wedi bwriadu cynnal nifer o ymgynghoriadau statudol (mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion neu faterion ffedereiddio) gan ddechrau ar unwaith, a bu'n rhaid gohirio pob un ohonynt, gyda dyddiadau newydd i'w cadarnhau. Nid oedd hyn yn cynnwys unrhyw waith ad-drefnu ysgolion statudol a fyddai wedi'u dwyn ymlaen o ganlyniad i gasgliad adolygiad y Rhaglen Moderneiddio Addysg.
Arweiniodd y gwaith o adleoli tîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg at oedi o tua 6 mis o ran cynigion ad-drefnu ysgolion oherwydd yr angen i sefydlu amserlenni newydd ar gyfer pob cynnig a diweddaru'r holl ddogfennau gyda'r setiau data diweddaraf. O ran rhaglen fuddsoddi Cyngor Sir Caerfyrddin, caewyd pob prosiect gyda chontractwyr ar y safle ar adeg y cyfyngiadau symud cychwynnol, gyda dyddiadau ailgychwyn yn cael eu cymeradwyo'n barhaus i ganiatáu i waith barhau. O ganlyniad, rhagwelwyd y bydd y pandemig yn cael effaith sylweddol ar y Rhaglen Moderneiddio Addysg o ran cyllid ac amserlenni.
Roedd tîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg bellach wrthi ar hyn o bryd yn ymgymryd â'r holl waith a gynlluniwyd cyn y pandemig ac roeddent yn gweithio ar ddatblygu Adolygiad y Rhaglen Moderneiddio Addysg ac amserlenni newydd ar gyfer yr ymgynghoriadau statudol a ohiriwyd. Y gobaith oedd y gellid parhau i wneud yr holl faterion perthnasol oedd yn ymwneud â phrosiectau o fewn amserlen a oedd cyn agosed â phosibl at yr amserlen wreiddiol, ond disgwylid y byddai rhywfaint o oedi cyn y gellir penderfynu ynghylch hyn a gweithredu.
Er mwyn gallu symud ymlaen ag unrhyw gynigion ynghylch ad-drefnu ysgolion (y gellid eu cysylltu â phrosiectau buddsoddi), rhoddwyd ystyriaeth i fyrhau'r Broses Benderfynu Ynghylch Trefniadaeth Ysgolion Mewnol unwaith eto. Er y derbyniwyd na fydd byrhau'r broses yn lleihau'r oedi a gafwyd oherwydd y pandemig, bydd yn helpu tîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg rhywfaint i ail-flaenoriaethu ymgynghoriadau gofynnol mewn ffordd effeithiol ac amserol.
Nodwyd bod angen ymgynghori ar hyn o bryd â'r Pwyllgor Craffu a'r Bwrdd Gweithredol yng Nghamau 1 a 2 gan ychwanegu Cyngor llawn yng Ngham 3 er mwyn penderfynu ynghylch y cynnig. Cynigiwyd dileu'r broses ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu yng Nghamau 2 a 3. Y rheswm am hyn yw bod y Bwrdd Gweithredol yn gallu cymeradwyo Cam 2 a bod y Cyngor Sir yn gallu cymeradwyo Cam 3. Byddai'r broses yn cymryd 2 fis yn llai drwy wneud hyn. Felly, byddai'r ymgynghoriad yn mynd rhagddo fel a ganlyn:-
Cam 1 – Bwrdd Gweithredol a Phwyllgor Craffu: Addysg a Phlant
Cam 2 – Y Bwrdd Gweithredol
Cam 3 – Y Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor Sir
Roedd y cynnig yn dal i sicrhau bod y Pwyllgor Craffu yn gallu ystyried y cynnig yn ffurfiol cyn cytuno ar unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ac roedd hefyd yn caniatáu i aelodau'r Pwyllgor Craffu benderfynu ynghylch canlyniad y cynnig fel aelodau o'r Cyngor llawn. Ymgynghorir â hwy hefyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol o 6 wythnos (os yw'r Bwrdd Gweithredol yn rhoi caniatâd ynghylch ymgynghori).
Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
· Pan ofynnwyd pam y teimlwyd mai'r cam cyntaf oedd y cam gorau i ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu, eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg mai ar ddechrau'r broses y gall y Pwyllgor ddylanwadu ar y broses ac na fyddai'n bosibl llunio'r cynnig ar ôl bod yn destun ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 Bod y cynnig i fyrhau'r broses fewnol o benderfynu ynghylch trefniadaeth ysgolion yn cael ei gymeradwyo;
6.2 Argymell bod y Bwrdd Gweithredol yn symud ymlaen â'r broses ddiwygiedig ar gyfer datblygu cynigion statudol ac ymgynghoriadau fel y nodir yn yr adroddiad, hynny yw dileu'r broses o ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yng Nghamau 2 a 3.
Dogfennau ategol: