Agenda item

STRATEGAETH ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT 2020-2025.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth Gwasanaethau Addysg. Mae gan Awdurdodau Lleol gyfrifoldebau diffiniedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc. Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth glir ar y cyd ar gyfer y rôl y mae Gwasanaethau Addysg yn ei chwarae o ran datblygu cymunedau bywiog ac economi lewyrchus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y strategaeth, yn dilyn adborth gan y Bwrdd Gweithredol, bellach yn cwmpasu cyfnod o 10 mlynedd rhwng 2020 a 2030.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y datganiad yn y strategaeth na fyddai mwy na dau gr?p blwyddyn ym mhob dosbarth addysgu a mynegwyd pryder ynghylch goblygiadau hynny ar gyfer ysgolion gwledig bach. Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol mai'r strategaeth yw gweledigaeth yr adran ar gyfer y deng mlynedd nesaf, ac un o'r elfennau ynddi fyddai peidio â chael grwpiau cymysg ac mai llesiant y plentyn oedd y sylfaen ar gyfer hyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod nifer o heriau'n wynebu ysgolion llai y gellir eu goresgyn drwy ffedereiddio a rhannu adnoddau.  Mae 95 o ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin, sef y nifer uchaf mewn unrhyw sir yng Nghymru;

·         Er y cytunir yn llwyr â'r datganiad yn yr adroddiad fod gan Sir Gaerfyrddin lawer o arweinwyr addysg ysbrydoledig, gofynnwyd i swyddogion beth sy'n digwydd i'r arweinwyr talentog hynny pan na allant wneud y gwaith mwyach am nad ydynt yn gallu ymdopi â'r straen.  Cytunodd yr Aelod Gweithredol o'r Bwrdd fod y sefyllfa'n un heriol ac efallai mai dyma pam ei bod mor anodd penodi penaethiaid ar gyfer ysgolion bach. Mae'r adran yn cadw mewn cysylltiad â phob pennaeth ac yn cynnig cymorth lle bo angen.  Tynnodd sylw at y ffaith bod Covid, yn anffodus, wedi ychwanegu at y straen.  Cytunodd y Cyfarwyddwr fod y sefyllfa'n un heriol, ond bod penaethiaid mewn cyfnod pontio. Er nad oedd ateb hawdd, cynigiodd yr adran gymaint o gymorth a phosibl, a phan fo ysgol yn tanberfformio oherwydd bod y pennaeth o bosibl yn ei chael hi'n anodd, cynigir cymorth ychwanegol i sicrhau nad yw hyn yn cael unrhyw effaith ar y disgyblion;

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd cydnabod y pwysau sydd ar dimau uwch-arweinwyr mewn ysgolion o ran Covid a'r cwricwlwm newydd, sy'n heriol iawn. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i leihau'r llwyth gwaith. Ychwanegodd na fydd Estyn yn arolygu ysgolion am beth amser, a bydd hyn yn gwaredu rhywfaint o bwysau.  Ychwanegodd mai dim ond hyn a hyn y gall swyddogion ei wneud ac efallai fod angen i rywbeth yn yr ysgol newid;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod pob ysgol mewn clystyrau a'u bod yn gweithio ar y cwricwlwm. Awgrymwyd, pan fydd clystyrau ysgolion uwchradd yn cyfarfod â'i gilydd, y dylent wahodd yr ysgolion cynradd sy'n eu bwydo i’w cynghori er mwyn sicrhau parhad dysgu ac osgoi gweld y safon a gyflawnir yn gostwng pan fydd disgyblion yn dechrau ym mlwyddyn 7. Cytunodd y Cyfarwyddwr fod llawer y gallai'r sector uwchradd ei ddysgu gan y sector cynradd, er enghraifft dysgu thematig, a byddai'n sicrhau bod yr awgrym hwn yn cael ei gyflwyno i'r clystyrau;

·         O ran gwella safonau, gofynnwyd i swyddogion sut y bydd yr Awdurdod yn asesu ac yn cyfleu gwelliannau i'r cyhoedd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod yn fater o sut y gall Estyn brofi pa welliannau sydd wedi'u gwneud.  Roedd olrhain cynnydd a meincnodi yn elfennau allweddol i alluogi ysgolion i ddangos tystiolaeth o unrhyw gynnydd a wnaed. Byddai angen i'r ysgol rannu'r wybodaeth honno â'r cyhoedd drwy adroddiad blynyddol y  llywodraethwyr;

·         Cyfeiriwyd at recriwtio arweinwyr ysbrydoledig a gofynnwyd i swyddogion a oeddent yn hyderus y byddant dal yn gallu recriwtio arweinwyr o'r fath os na allant siarad Cymraeg. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod yn cyflwyno proses lawer mwy cadarn o ran recriwtio.  Bydd y dull a ddefnyddir gan y Ganolfan Asesu i benodi Penaethiaid Gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i benodi penaethiaid oherwydd bod angen i unrhyw bennaeth fod yr un mor fedrus â Phennaeth Gwasanaeth. Ychwanegodd ei fod yn dymuno bod gan ymgeiswyr rywfaint o Gymraeg ond ei bod yn bwysicach eu bod yn gwerthfawrogi'r iaith a'u bod yn ymrwymo i ddysgu'r iaith;

·         O ran y dibenion a nodir ar dudalen 70 teimlwyd y dylem fod yn cynnwys ein hanes, er mwyn bod yn gytbwys. Cytunodd y Cyfarwyddwr ei bod yn bwysig canolbwyntio ar yr hyn sydd ar garreg ein drws, hynny yw treftadaeth Cymru. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y cwricwlwm lleol yn gyfle i ddatblygu rhaglen ddysgu a oedd yn berthnasol ac yn meithrin nid yn unig ddinasyddion Cymru ond hefyd ddinasyddion byd-eang.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau