Agenda item

EFFAITH COVID-19 AR BLANT A PHOBL IFANC SIR GAERFYRDDIN.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn sgil y pandemig Covid-10, yr effaith ar ein plant a'n pobl ifanc ac ymateb yr Adran/Cyngor i'r heriau a wynebwyd dros y chwe mis diwethaf.

 

Er nad oedd yr adroddiad yn cwmpasu'r holl agweddau ar waith yr Adran ers mis Mawrth, roedd yn rhoi cipolwg ar rai o'r heriau a'r atebion a ddatblygwyd i fynd i'r afael â'r heriau hynny. 

 

Nododd y Pwyllgor fod gwasanaethau ac ysgolion yr adran yn parhau i fod o dan bwysau o ganlyniad i Covid-19.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mae llawer o sôn am Covid hir a gofynnwyd i swyddogion faint o ystyriaeth a roddir i hyn mewn perthynas â dyfodol y plant sydd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd ac effaith y pandemig ar lythrennedd a rhifedd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y mater hwn wedi'i ystyried ers dechrau mis Medi. Mae swyddogion yn gweithio'n galed gyda phenaethiaid i gadw ysgolion ar agor, ond mae llesiant plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi arwain at cyflogi 28 o athrawon a 49 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol ar draws ein hysgolion. Cynhelir cyfarfodydd yn wythnosol â phenaethiaid i edrych ar y mater hwn ac i baratoi strategaethau. Bydd cymorth ar gael am gryn amser i gynorthwyo ysgolion a'u cefnogi drwy'r cyfnod heriol hwn. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod yr adran wedi cyhoeddi Strategaeth Llesiant yn ddiweddar a oedd yn manylu ar y mesurau amrywiol sydd ar gael i gefnogi plant a staff. O ran llythrennedd a rhifedd, mae'r rhain yn rhan o'r cynlluniau addysgu. Ychwanegodd fod swyddogion yn edrych yn ofalus ar hyn a'u bod yn trafod dulliau amrywiol a allai helpu, er enghraifft dysgu carlam;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod llawer o feithrinfeydd yn mynd drwy gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd ac efallai y bydd rhai yn cael eu gorfodi i gau, a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod swyddogion wedi bod yn cefnogi darparwyr cyn-ysgol ers dechrau'r pandemig fel bod gweithwyr allweddol yn gallu mynd i'r gwaith. Rhoddwyd grantiau i rai ohonynt i sicrhau eu bod yn parhau i oroesi. Yn anffodus, dim ond canran fach o fusnesau a lwyddodd i gael y Grant Darparwyr Gofal Plant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru oherwydd ei bod yn anodd bodloni'r meini prawf. Felly mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych ar hynny. Mae grantiau hefyd ar gael gan y Cyngor Sir ac mae 88 o grantiau wedi cael eu rhoi i fusnesau hyd yma;

·         O ran y fenter lle darperir offer cyfrifiadurol i blant ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud, gofynnwyd i swyddogion sut y gweithredir y cynllun hwn. Eglurodd yr Aelod Gweithredol o'r Bwrdd ei bod wedi dod i'r yn amlwg fod llawer o ddisgyblion o dan anfantais oherwydd nad oedd ganddynt fynediad at offer TG yn y cartref ac felly dechreuodd y fenter. Casglwyd pecyn TG o'r ysgolion amrywiol a’i ddarparu i blant  oedd ei angen. Esboniodd y Cyfarwyddwr ei bod yn dasg enfawr gan fod yr amcangyfrif o ran yr angen wedi bod yn rhy isel. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod pecyn TG wedi'i gyflwyno mewn tair cyfran, dwy yn ystod tymor yr haf a chan fod y galw'n uwch na'r disgwyl, ychwanegwyd trydedd gyfran ar ddechrau tymor yr hydref. Mae rhai ceisiadau'n dal i ddod i law ac mae'r system o ddarparu pecynnau TG wedi symud o fan canolog i system leol;

·         O ran canlyniadau'r arolwg i rieni, mynegwyd pryder mai dim ond 6% a nododd mai effaith fwyaf Covid oedd meddwl am y brifysgol neu'r coleg, a mynegwyd pryder ei bod yn amlwg na dderbyniwyd digon o ymatebion gan rieni disgyblion mewn ysgolion uwchradd a gofynnwyd i swyddogion a ellid rhoi pwyslais ar yr ymatebwyr hyn y tro nesaf y bydd arolwg yn cael ei gynnal. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor y gofynnwyd i ymatebwyr a fyddent yn fodlon cyfrannu eto a dywedodd y rhan fwyaf y byddent yn fodlon gwneud hynny.  Yn ogystal, mae rhai ysgolion yn cynnal eu harolygon eu hunain ac yn casglu'r wybodaeth yn lleol. Os bydd arolwg arall yn cael ei gynnal yna gallai swyddogion ddarparu'n benodol ar gyfer ysgolion uwchradd.  Croesawodd y Cyfarwyddwr y penderfyniad a wnaed i beidio â chynnal arholiadau eleni, o gofio effaith y misoedd diwethaf.  Yr her bellach fydd sicrhau bod tystiolaeth gadarn mewn perthynas â'r graddau a roddir;

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd o 19.2% yn nifer y cysylltiadau gofal cymdeithasol newydd a'r cynnydd o 26.6% o ran diogelu o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor mai'r Gwasanaethau Plant oedd un o'r unig adrannau nad oedd wedi cau dros y misoedd diwethaf. Bu gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau ledled Cymru ond ni welwyd y gostyngiad hwnnw yn Sir Gaerfyrddin;

·         Nodwyd bod yr achosion mwyaf pryderus yn parhau i gael cymorth drwy gydol y cyfyngiadau symud a gofynnwyd i swyddogion a wnaed unrhyw gyswllt â'r teuluoedd eraill naill ai dros y ffôn neu drwy gyfarfod o bell. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant, o ystyried yr effaith anochel ar wasanaethau, fod teuluoedd yn cael eu graddio yn ôl y lliwiau coch, oren neu wyrdd, ac er gwaethaf y cyfyngiadau symud, roedd ymweliadau'n parhau i ddigwydd gyda'r teuluoedd hynny yn y categori uchaf.  Roedd asesiadau risg yn cael eu cynnal a dilynwyd y rheolau cadw pellter cymdeithasol.  I'r teuluoedd hynny yn y categorïau is, defnyddiwyd galwadau fideo a galwadau ffôn i gadw mewn cysylltiad a darparu'r cymorth angenrheidiol.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod dysgwyr agored i niwed hefyd yn cael eu graddio yn ôl y lliwiau coch, oren neu wyrdd er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael iddynt, megis gofal plant a phrydau ysgol am ddim;

·         Cyfeiriwyd at lesiant plant a'r ffaith bod mwy o bwysau ar rai plant oherwydd bod ganddynt broblemau gartref a gofynnwyd i swyddogion a yw'r gwasanaeth cwnsela'n cael ei ddarparu oherwydd bod yr ysgolion wedi'u cau.  Esboniodd y Cyfarwyddwr fod cwnsela wedi bod ar gael bron drwy gydol y cyfnod a chafwyd cyllid i ehangu'r gwasanaeth cwnsela.  Mae'r sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus gan seicolegwyr addysg. Mae llesiant yn uchel ar restr blaenoriaethau'r adran, nid yn unig ar gyfer y staff ond hefyd ar gyfer y dysgwyr;

·         Mynegwyd pryder ei bod yn ymddangos bod anghysondeb ledled y sir o ran dysgu o bell a gofynnwyd i swyddogion a oedd arferion gorau'n cael eu rhannu fel bod pob ysgol yn ymwybodol o'r disgwyliadau. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol mai mater i benaethiaid unigol yw edrych ar hyn, a disgwylir i hyn ddigwydd. Mae'n rhaid i arweinwyr ysgolion roi cyfarwyddiadau clir a chadarn i'w staff ynghylch yr hyn a ddisgwylir. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod enghreifftiau o arferion gorau a ddangoswyd yn ystod y cyfnod atal diweddaraf wedi'u casglu a'u rhannu â phob ysgol. Ychwanegodd nad yw rhai plant, yn anffodus, wedi cymryd rhan mewn dysgu o bell ac mae hynny'n her.  Mae ERW hefyd wedi creu cronfa o adnoddau i gefnogi dysgu o bell;

·         O ran dysgu o bell, pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod athrawon yn mewngofnodi i unrhyw fodiwlau y maent wedi'u paratoi er mwyn eu gweld o safbwynt y disgyblion a gweld sut olwg sydd arno, oherwydd yn aml iawn nid oes modd cyrchu'r modiwlau. Gofynnwyd i swyddogion sut y bydd dysgu o bell yn cael ei fonitro.  Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Penaethiaid wedi cael gwybod mai un o'u prif heriau yw bod angen iddynt fonitro dysgu o bell yn rheolaidd. Mewn rhai ysgolion darperir adroddiadau wythnosol yn amlinellu pa ddysgu sydd wedi digwydd yr wythnos honno.  Mae'r adran hefyd wedi cynghori llywodraethwyr y dylent fod yn gwirio'r hyn sy'n digwydd yn eu hysgol o ran dysgu o bell/dysgu cyfunol. Ychwanegodd y byddai angen monitro hyn yn barhaus er mwyn sicrhau cysondeb;

·         Mynegwyd pryder bod rhai plant yn dychwelyd i'r ysgol yn dilyn cyfnod yn hunanynysu a osodwyd gan yr ysgol ac yna'n cael gwybod na ddylent fod wedi dychwelyd ond nad oedd y broses Profi, Olrhain a Dysgu wedi cysylltu â'r teulu. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod pethau'n anodd iawn oherwydd bod y feirws yn ymosod heb rybudd.  Ein blaenoriaeth yw cadw disgyblion a staff yn ddiogel ac mae'n rhaid inni ymateb ar unwaith.  Cytunodd y dylid cyfathrebu mewn achosion o'r fath ar nifer o lwyfannau a dylai ysgolion fod yn ymwybodol os oes gan ddisgybl broblemau o ran derbyn gohebiaeth, megis dim Wi-Fi neu signal ffôn symudol gwael;

·         Pan ofynnwyd iddo am y sefyllfa bresennol o ran absenoldeb, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor ei fod yn destun pryder ym mis Medi/dechrau mis Hydref, ond bod presenoldeb wedi gwella ers hynny a'i fod dros 90% ar hyn o bryd. Roedd swyddogion hefyd yn ymgymryd â phroses o ailgysylltu â theuluoedd sy'n dal i fod ychydig yn bryderus ynghylch anfon eu plant yn ôl i'r ysgol. Mae rhai rhieni wedi penderfynu peidio ag anfon eu plant yn ôl i'r ysgol ac er nad yw'r Awdurdod yn defnyddio ei bwerau statudol mewn achosion o'r fath, roedd ysgolion a swyddogion yr awdurdod lleol wrthi'n ymdrechu i ailgysylltu â'r teuluoedd hyn a gweithio gyda nhw;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y 563 o deuluoedd sydd yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim ond nad ydynt wedi gwneud hynny. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod ysgolion yn gweithio gyda swyddogion er mwyn cynorthwyo'r teuluoedd hyn i gael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl ei gael.

 

 

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle, ar ran y Pwyllgor, i ddiolch i'r holl benaethiaid, yr athrawon a'r staff mewn ysgolion ledled y sir, am bopeth y maent wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf yn yr ymdrech i gadw ein hysgolion ar agor a'n plant yn ddiogel yn y frwydr yn erbyn y pandemig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: