Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Cofnodion:

·       Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau fod croeso o hyd i roddion ar gyfer yr her gerdded yr oedd yn ymgymryd â hi ar hyn o bryd i godi arian ar gyfer ei ddwy elusen ddewisol, sef Prostate Cancer UK ac Eglwys Sant Pedr, Llanybydder. Hyd yma roedd wedi cerdded 44 milltir ac roedd ambell rodd eisoes wedi dod i law, gyda rhoddion pellach wedi eu haddo gan Gynghorwyr a rhai cynghorau tref. Ychwanegodd ei fod hefyd wedi gosod eitemau i'w gwerthu er lles yr elusennau ar y fforwm prynu a gwerthu ar fewnrwyd y Cyngor a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth;

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Gary Jones at y ffaith fod rheilffordd Llangennech wedi'i hailagor yn ddiweddar a thalodd deyrnged i bawb a fu'n rhan o'r ymateb cychwynnol i'r ddamwain a'r gwaith o ailadeiladu'r rheilffordd ar ôl hynny. Yn benodol, diolchodd i'r ddau yrrwr trên a wnaeth achub y pentref a'r ardal gyfagos rhag trychineb fwy drwy weithredu'n gyflym i ddadfachu'r wagenni, gan ychwanegu ei bod yn bosibl y gallai'r Cyngor gydnabod hyn mewn rhyw ffordd;

 

·       Talodd y Cynghorydd Tyssul Evans deyrnged i weithredoedd y gwasanaeth tân lleol yn dilyn tân mewn t? yn Ffos-las yn ddiweddar.  Diolchodd hefyd i Jonathan Willis a Jonathan Morgan o Adran Cymunedau'r Cyngor am sicrhau bod y teulu'n cael llety dros dro, ac i'r Cynghorwyr Linda Evans a Kim Broom am eu cymorth;

 

·       Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ffaith y byddai'n flwyddyn cyn hir ers i'r wlad ddechrau ar ei chyfnod cyntaf o gyfyngiadau oherwydd y pandemig Covid 19 a soniodd am yr ymateb rhagorol gan staff, partneriaid y cyngor, a'r cyhoedd dros y cyfnod hwnnw i sicrhau diogelwch a lles pawb. Ychwanegodd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal maes o law o'r modd y deliwyd â'r pandemig, ac y parheir i wneud hynny, ac y byddai tystiolaeth yn cael ei chyflwyno ynghyd ag asesiadau o benderfyniadau a wnaed. Rhoddwyd sicrwydd bod y Cyngor yn gweithio mor galed ag erioed i sicrhau diogelwch cymunedau yn Sir Gaerfyrddin. O ran ailagor ysgolion, pwysleisiodd, er y byddai hyn yn gam pwysig yn y broses adfer, y dylai pawb gadw at y canllawiau a gyhoeddwyd. Soniodd hefyd am y gwaith llwyddiannus o gyflwyno'r rhaglen frechu yng Nghymru a diolchodd i bawb a oedd yn ymwneud â sicrhau ei bod yn parhau ar y trywydd iawn gan gynnwys staff ar y rheng flaen, y timau a oedd yn sicrhau bod y canolfannau brechu torfol yn barod ac yn weithredol mewn cyfnod byr iawn.  Diolchodd hefyd i'r practisau meddygon teulu a oedd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno'r rhaglen;

 

·       Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ffaith bod busnesau yn Llanelli wedi pleidleisio â
 mwyafrif llethol i barhau ag Ardal Gwella Busnes [AGB] Ymlaen Llanelli am 5 mlynedd arall ac roedd y Cyngor yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda thîm yr AGB i drefnu digwyddiadau mor llwyddiannus â'r rheiny a gynhaliwyd dros y 5 mlynedd flaenorol a gyfrannodd at ganol tref bywiog;

 

·       Ategodd yr Arweinydd y teimladau a fynegwyd yn gynharach gan y Cynghorydd Gary Jones yngl?n ag ailagor y rheilffordd yn Llangennech.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau