Agenda item

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40172

 

Cais ôl-weithredol am gadw un t? annedd ar Lain 4, Cae Linda, Trimsaran, Cydweli, SA17 4AQ

 

Cyflwynwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, a oedd yn cynnwys pryderon ynghylch y canlynol:

  • datblygiad amlwg/gormesol wrth ystyried yr eiddo cyfagos
  • colli preifatrwydd
  • uchder y llwybr / ardal y patio

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

PL/00194

Bwriad i ddymchwel ac yna ailadeiladu adeilad tri llawr i ddarparu defnydd masnachol ar yllawr gwaelod a defnydd preswyl ar y lloriau uchaf gyda pharcio cysylltiedig.

 

 

4.2      Cais cynllunio DNS/00427– DNS (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol) – Parc Solar Arfaethedig (DNS/3227364) gan gynnwys llwybr cebl arfaethedig ar dir i'r dwyrain o'r A48 a thir i'r de-orllewin o D?-croes, gerllaw Fferm Solar Clawdd Ddu, T?-croes, Rhydaman, SA18 3RE

 

[Sylwer: Am 11:45am ac wrth ystyried yr eitem hon, cafodd y Pwyllgor ei ohirio am 15 munud oherwydd materion technegol.]

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno dau Ddatblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llangennech a ger T?-croes, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorydd, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y ceisiadau.

 

Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Cynllunio, yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru.  Byddai'r sylwadau hynny’n cael eu nodi yng nghofnodion y cyfarfod hwn cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Nodwyd bod y cais presennol yn ymwneud â safle T?-croes yn unig a bod safle Llangennech wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020.

 

Yn sgil hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r lleoliad y manylir arno yn y cais, cyfeirnod  DNS/00427.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

4.2.1

Nodi'r adroddiad gwybodaeth ar gais DNS/00427

4.2.2

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio gyflwyno Adroddiad Effaith Leol i Lywodraeth Cymru

4.2.3

Bod y Pwyllgor yn cyflwyno'r sylwadau canlynol i Lywodraeth Cymru

 

1.    Dylai unrhyw gymeradwyaeth i gais cynllunio DNS / 00427 gynnwys amod ar gyfer darparu cynllun datgomisiynu manwl a fydd yn ymgorffori: -

-        Y gofyniad i dalu bond i sicrhau bod digon o arian ar gael i gyflawni'r gwaith datgomisiynu ar ôl 40 mlynedd o ran oes y datblygiad pe bai'r datblygwr yn rhoi'r gorau i fasnachu

-        Tynnu/trin/gwaredu'r paneli haul yn ddiogel i atal unrhyw ollyngiadau a halogiad pridd wedi hynny i amddiffyn y tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

2.    Dylid ystyried y mater o ran talu budd i'r gymuned i'r tair ardal cyngor cymunedol lleol y mae'r datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt."

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau