Cofnodion:
Ystyriodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol yr adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2020-21 a oedd yn gofyn am gymeradwyo ffioedd manwl ar gyfer 2020-21 sy'n ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr adran hamdden yn 2020/21. Roedd yr adroddiad yn cynnwys codi tâl am y canlynol:-
· Gwasanaethau Diwylliannol (Lleoliadau'r Celfyddydau a'r Theatr)
· Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (canolfannau hamdden a phyllau nofio)
· Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys y Parc Arfordirol y Mileniwm, a maes parcio Traeth Pentywyn; Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn
PENDERFYNWYD cymeradwyo taliadau Hamdden 2020-21 fel y’i nodir yn yr adroddiad gan ychwanegu taliad ar gyfer aelodaeth platfform digidol ar gyfer Chwaraeon a Hamdden sef £10 y mis a £7.50 y mis ar gyfer cwsmeriaid presennol Chwaraeon a Hamdden Actif a rhai’r dyfodol.
Dogfennau ategol: