Agenda item

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei bumed Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor yn cwmpasu'r cyfnod 2019/20 ac edrychodd yn ôl ar gyflawniadau'r Cyngor dros y 12 mis blaenorol (yr oedd copïau ohonynt wedi eu rhoi i'r Cynghorwyr cyn y cyfarfod). Dywedodd er nad oedd yn bwriadu mynd drwy'r adroddiad yn fanwl, y byddai'n hoffi tynnu sylw at gyflawniadau canlynol y Cyngor dros y flwyddyn (gan gynnwys cyflwyniad fideo) cyn rhoi sylwadau ar effaith pandemig Covid 19 ar y Sir a graddfa ac ymateb y Cyngor i hynny.

 

Bu'r Cyngor yn gwylio'r fideo.

 

Atgoffodd yr Arweinydd y Cyngor mai dim ond blwyddyn yn ôl y cynhaliwyd cymal olaf Taith Merched OVO pan ddaeth miloedd o bobl i sefyll ar strydoedd y sir i annog y beicwyr yn eu blaenau ar eu ras 79 milltir drwy Sir Gaerfyrddin. Roedd cynnal y ras wedi rhoi cyfle i arddangos golygfeydd hardd y sir a'r croeso cynnes sy'n aros i'r rheiny sy'n ymweld â'r sir. Roedd y Cyngor hefyd wedi neilltuo £20,000 ar gyfer ei Gynllun Cymorth Digwyddiadau er mwyn i sefydliadau a grwpiau cymunedol gynnal eu digwyddiadau eu hunain. Roedd y rheiny'n cynnwys wythnos G?yl Dewi Sant Caerfyrddin, G?yl Ddefaid Llanymddyfri, Pride Llanelli a G?yl Canol Dre.

 

Roedd yn ystyried mai un o'r cyflawniadau y gallai'r Cyngor ymfalchïo fwyaf ynddo yn ystod y flwyddyn oedd yr Adroddiad "Symud Sir Gaerfyrddin Ymlaen". Roedd dros 60% o boblogaeth y Sir yn byw yn ei hardaloedd gwledig ac roedd gan y Cyngor bortffolio penodol i gynrychioli anghenion y bobl hynny. Roedd Menter y Deg Tref Wledig yn amlinellu'r weledigaeth strategol hirdymor ar gyfer adfywio cymunedau gwledig y sir drwy sicrhau cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol i'r trefi hynny h.y. Llanymddyfri, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Castellnewydd Emlyn, Talacharn, Cwmaman, Llanybydder, Cydweli, Llandeilo a Cross Hands. Fodd bynnag, yn wyneb Covid-19 sylweddolwyd yn fwy nag erioed fod yr angen i edrych yn lleol, ac wrth gefnogi a datblygu'r economi honno, byddai'r sir yn dod hyd yn oed yn fwy cydnerth a chadarn.

 

Byddai Cynlluniau'r Cyngor i gynyddu ei stoc dai ar draws y Sir hefyd yn cefnogi'r strategaeth wledig. Dros y pum mlynedd nesaf roedd y Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi £150 miliwn i adeiladu 900 o dai cyngor newydd ar draws y sir, gyda llawer o'r rheiny mewn ardaloedd gwledig lle mae prinder tai wedi bod ers blynyddoedd lawer. Roedd gwaith hefyd ar y gweill ym Mhen-bre a'r Bryn, Llanelli i adeiladu 300 o gartrefi cyn 2022 ac er bod y gwaith wedi'i atal ar ddechrau'r cyfyngiadau symud roedd y safleoedd hyn yn dechrau ailagor ac roedd y gwaith wedi ailddechrau.

 

Roedd yr Awdurdod wedi adnewyddu ei ymrwymiad i newid yn yr hinsawdd, gan ddod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd, sy'n amlinellu sut y byddai'n carbon sero-net erbyn 2030. Roedd y cynllun yn uchelgeisiol ac roedd y Cyngor wedi ymrwymo i'w lwyddiant. Roedd fflyd sy'n fwy ynni-effeithlon yn cael ei brynu, ac roedd y cyngor yn cydweithio â chyrff eraill i gyflawni newid ehangach a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Hyd yma, mae buddsoddiad o fwy na £2 filiwn wedi ei wneud mewn dros 200 o brosiectau ynni-effeithlon, gan arbed dros £7 miliwn mewn costau cynnal a 41,000 o dunelli o CO2 drwy gydol oes y prosiectau. Roedd yn gynllun cyffrous a fyddai'n datblygu i gwrdd â heriau'r dyfodol er budd ein cenhedlaeth ni, a chenedlaethau'r dyfodol.

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn meysydd eraill. Y bwriad yw buddsoddi bron i £255 miliwn mewn prosiectau cyfalaf, gan ganolbwyntio ar hybu'r economi, creu swyddi a gwella ansawdd bywyd ein trigolion. Mae'r rhaglen yn cynnwys ymrwymiad pellach o £86 miliwn i adeiladu a thrawsnewid mwy fyth o ysgolion fel rhan o'n rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Byddai gwelliannau'n cael eu gwneud hefyd i'n ffyrdd a'n pontydd, a bydd newidiadau mawr eu hangen yn cael eu gwireddu yn ôl yr addewid am gyfleuster 'lleoedd newid' i drigolion anabl ac ymwelwyr â Llanelli.

 

Ym mis Awst y llynedd roedd y Cyngor wedi dathlu llwyddiant myfyrwyr Safon Uwch a TGAU ar draws y sir a gwelwyd gwelliannau amlwg gyda'r cyfraddau llwyddo unwaith eto yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Roedd bron i 71 y cant o ddisgyblion wedi ennill gradd C neu uwch, gyda 21.3 y cant yn ennill y graddau uchaf A-A* - y ddau yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Roedd cynnydd cadarn mewn sgiliau Cymraeg a Saesneg ac roedd cyfraddau llwyddo'r gwyddorau hefyd yn parhau i wella ac yn rhagori ar y cyfartaleddau cenedlaethol.

 

Dywedodd yr Arweinydd er ei bod yn anodd cyfeirio at holl gyflawniadau'r cyngor, byddai'r adroddiad blynyddol yn rhoi dealltwriaeth lawn o'r llwyddiannau eleni a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at y cyfnod digyffelyb hwn a'r modd yr ydym dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi cyd-dynnu mewn ffyrdd a oedd yn ei farn ef wedi syfrdanu pawb. Yn ôl ym mis Mawrth, roedd yr awdurdod wedi cynnig rhai o'i safleoedd yn Sir Gaerfyrddin i'r GIG i'w defnyddio fel ysbytai maes - roedd y GIG mewn man lle'r oedd yn ofni nad oedd digon o welyau ar gael ar gyfer y pandemig. Gofynnwyd i'r gymuned leol am help i addasu pedwar lleoliad i ddarparu 600 o welyau brys er mwyn delio â'r pwysau disgwyliedig ac o fewn 24 awr cawsom fwy na 350 o ymatebion. Dros 21 diwrnod, daeth gwirfoddolwyr, adeiladwyr a chontractwyr ynghyd i drawsnewid stadiwm rygbi, Canolfan Selwyn Samuel a Chanolfannau Hamdden Caerfyrddin a Llanelli yn ysbytai maes.

 

Rhoddodd yr Arweinydd deyrnged i'r holl grwpiau cymunedol, y banciau bwyd, cynghorau tref a chymuned, ac unigolion ledled y sir a oedd wedi gwirfoddoli yn ystod y cyfnod hwn. Mynegodd ddiolch o waelod calon i'r rhai a oedd wedi cynnig cymorth ymarferol, emosiynol neu wedi rhoi o'u hamser i gefnogi eraill, ac i'r gweithwyr hynny a oedd wedi parhau i fynd i'r gwaith a chadw ati.

 

Manteisiodd yr Arweinydd hefyd ar y cyfle i dynnu sylw at Sir Gâredig, a sefydlwyd yn ddiweddar i gysylltu pobl mewn angen â'r rhai a allai roi cymorth. Bwriad Sir Gâredig oedd bod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymunedol ac annog pobl i rannu straeon o garedigrwydd - gan helpu i ddod â phobl at ei gilydd lle bo angen.  Er bod hon yn neges newydd, nid oedd erioed yn gyfrinach bod Sir Gaerfyrddin yn sir gaerdig (Sir Gâredig).

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ymrwymiad staff y Cyngor ac roedd eu hymateb gwych i'r pandemig covid-19 wedi bod yn rhyfeddol. Roeddent wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod preswylwyr, cymunedau, sefydliadau a busnesau yn ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi. Mae'n rhaid i'r awdurdod dalu teyrnged i'r staff rheng flaen sydd wedi dangos dewrder mawr wrth barhau â'u gwaith, yn aml gan roi pobl eraill cyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. Hefyd, y rheiny sydd wedi symud o'u gwaith bob dydd i weithio mewn rhannau eraill o’r gwasanaethau rheng flaen - y rheiny sydd fel arfer yn gweithio mewn swyddfeydd ac sydd bellach yn gweithio mewn cartrefi gofal, yn gyrru bysiau, ac yn dosbarthu bwyd. Roedd eu hymrwymiad a'u parodrwydd i gefnogi eraill yn gwbl ysbrydoledig a diolchodd yn benodol i'r rheiny a fu'n gweithio i sicrhau digon o Gyfarpar Diogelu Personol i'r rhai oedd ei angen, gan sicrhau diogelwch y staff bob amser.

 

Diolchodd i'r Gwasanaethau Addysg a Phlant am eu gwaith caled a'u gallu i addasu mor gyflym i anghenion cyfnewidiol ein disgyblion a'n plant. Er y bu'n rhaid i'r awdurdod gau ei ysgolion, roedd nifer ohonynt wedi ailagor, yn llythrennol ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fel canolfannau ar gyfer darparu gofal plant i'r rhai oedd ei angen. Mynegodd gefnogaeth ddi-ball yr awdurdod wrth i'r Adran ddechrau ailagor safleoedd ysgolion dros yr wythnosau nesaf.

 

Diolchodd hefyd i'r rhai a fu'n ymwneud â chreu, cefnogi neu weithio mewn canolfannau bwyd a oedd wedi gweithio'n galed i gefnogi aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned.

 

Cyfeiriodd yn benodol at Dîm Marchnata a'r Cyfryngau yn y Cyngor a Thîm yr Is-adran TG a oedd wedi cydweithio'n agos i gyflwyno negeseuon allweddol i'n preswylwyr er mwyn eu cadw'n ddiogel.

 

Diolchodd i bob swyddog a chynghorydd am eu gwaith yn ystod y pandemig, ac i'r Prif Weithredwr am ei chyfarwyddyd a'i hymrwymiad bob amser.

 

Mynegodd yr Arweinydd y gobaith y byddai pobl, wrth i ni ddechrau ar y cam adfer, yn dod i ddeall yn gyflym beth fyddai normal yn ei olygu i ni eto ac er y bydd rhai adegau anodd i ddod, roedd y Sir yn gadarn ac yn arloesol a byddai'r Cyngor yn parhau i wneud ei orau dros ei holl drigolion, yn yr un modd ag y gwnâi bob amser.

 

Wrth gloi, mynegodd yr Arweinydd y farn y gallai pawb gytuno ei bod wedi bod yn flwyddyn ryfeddol, blwyddyn a oedd wedi dod â phobl yn nes at ei gilydd a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i Arweinwyr y Gr?p Llafur, y Gr?p Annibynnol Newydd a'r Gr?p Annibynnol roi sylwadau ar adroddiad yr Arweinydd. Mynegodd bob un ohonynt eu diolch a'u gwerthfawrogiad i bawb a oedd wedi rhoi help a chymorth yn ystod pandemig Covid 19.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd 2019/20.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau