Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £708k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£31k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2019/20.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Atodiad B - Y Prif Amrywiadau

  • Gofynnwyd am esboniad ynghylch yr arbedion a gyflwynwyd yn rhannol yng nghontract Cwm Aur.

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p nad oedd hi'n gwybod ond byddai'r swyddog perthnasol yn gallu esbonio.

  • Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol gan fod y broblem wedi bodoli ers cryn amser.  

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol yn broblem genedlaethol a hefyd yn flaenoriaeth i'r Awdurdod ei datrys. Er bod y broblem yn parhau i fodoli, roedd cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud.

·         Gofynnwyd pam roedd yr incwm ar daliadau uniongyrchol wedi aros ar yr un lefel a hynny pan oedd y galw am wasanaeth wedi cynyddu.

Dywedodd yr Uwch reolwr Cymorth Busnes y byddai rhai taliadau uniongyrchol a dderbynnir yn cael eu cymhwyso i'r llinell gofal cartref. Roedd yr adroddiad yn ceisio adlewyrchu'r symudiadau rhwng ardaloedd ond doedd hynny ddim yn bosibl bob amser.

·         Gofynnwyd i swyddogion a oedd defnyddwyr gwasanaeth wedi'u hailasesu yn sgil y gostyngiad mewn gofal dau ofalwr.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gofal yn cael ei werthuso'n barhaus ac nad oedd gostyngiad mewn gofal dau ofalwr yn ymgais i leihau costau.  Os byddai'r gofalwyr yn rhoi gwybod bod angen gofal ychwanegol ar ddefnyddwyr, byddai gofal dau ofalwr yn cael ei adfer.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch gorwariant ar staffio yng Nghanolfan Ddydd Coleshill.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod trefniadau staffio wedi cael eu newid wrth i staff y 3ydd sector gael eu disodli gan staff yr Awdurdod, a oedd wedi cynyddu cost.  Byddai'r offer diweddaraf yn lleihau'r angen am ofal dau neu dri gofalwr a'r cynllun tymor hir oedd i leihau costau staffio.

·         Cyfeiriwyd at wariant ar staff asiantaeth yng nghartrefi gofal yr Awdurdod.

Cadarnhawyd bod hwn yn fater penodol ar gyfer cartrefi gofal preswyl, fodd bynnag, roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud i wella cymhareb staffio.  Fel arfer byddai staff asiantaeth ond yn cael eu defnyddio os oedd perygl i wasanaethau rheng flaen.

 

Atodiad C - Yr Amrywiadau'n Fanwl

·         Gofynnwyd i swyddogion am egwyddorion ‘front loading’ gan y byddai gorwariant helaeth yn diflannu yn aml.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai ffigyrau newid ar raddfa gyflym ar sail ystod o resymau gan gynnwys, incwm hwyr gan Lywodraeth Cymru (megis taliadau pwysau gaeaf) ac incwm cleient. Roedd hi'n anodd rhagweld sefyllfa incwm cleient ar sail fforddiadwyedd.

 

Atodiad F - Adroddiad Monitro Arbedion

·         Gofynnwyd am y newyddion diweddaraf ynghylch adolygiad o Leoliadau Cysylltu Bywydau.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod adolygiad sylweddol wedi'i gynnal gan fod yna bryderon na fyddai'r gwasanaeth yn bodloni gofynion y dyfodol. Roedd yr adroddiad wedi cael ei dderbyn ac roedd yr argymhellion ar waith.  Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y llinell Gwasanaeth Gofal Cartref lle nad oedd £0 o'r £45K o arbedion arfaethedig wedi'u gwireddu.

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel eu bod nhw wedi bod llawer rhy uchelgeisiol o ran gweithredu systemau TG. Roedd cymryd Allied drosodd yn ystod y flwyddyn wedi oedi'r gwaith o gyflwyno'r system, ond byddai'r system ar waith i dros 400 o ddefnyddwyr erbyn diwedd mis Mawrth a fyddai'n arwain at welliannau o ran effeithlonrwydd.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau