Agenda item

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH Y RHAGLEN FUDDSODDI O RAN PRIFFYRDD, TROEDFFYRDD A DIOGELWCH FFYRDD

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-

 

·      Cynllun Trafnidiaeth Lleol

·      Y Ddeddf Teithio Llesol a Rhwymedigaethau'r Awdurdod Lleol

·      Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

·      Rhaglen Gwella Diogelwch Ffyrdd a Gwella Troedffyrdd

·      Grant Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf a Refeniw)

·      Rhaglen Rheoli Traffig ac Atal Damweiniau

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyllid ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a chynlluniau seilwaith eraill yn 2019/20 a'r rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i gais, rhoddodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd ddiweddariad ar lafar ynghylch cynnydd Llwybr Dyffryn Tywi. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod:

 

­   trafodaethau â thirfeddianwyr yn parhau,

­   cais cynllunio wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y rhan orllewinol,

­   cais cynllunio wedi cael ei wneud ar gyfer y rhan ddwyreiniol - oedi oherwydd amodau ar waith gan CNC

­   gwaith adeiladu wedi dechrau ar ran orllewinol y llwybr ger Felin-wen,

­   ceisiadau pellach wedi cael eu cyflwyno ar gyfer y rhan orllewinol.

 

  • Mewn perthynas â'r stormydd diweddar sydd wedi achosi i lefelau'r d?r godi'n sylweddol, gofynnwyd a oedd dadansoddiad wedi cael ei wneud o hyd a lled y llifogydd ar y llwybr.  Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod arolwg modelu llifogydd manwl wedi cael ei gyflawni ar gyfer y llwybr cyfan. Cydnabuwyd, o ystyried natur y llwybr sy'n rhedeg ar hyd afon Tywi, y derbyniwyd y byddai llifogydd yn digwydd. Roedd mesurau llifogydd ar waith a hynny drwy gatiau a gweithdrefnau gweithredol. 

 

  • O ran gwelliannau diogelwch ffyrdd, mynegwyd pryder mewn perthynas â'r angen i leihau'r terfyn cyflymder y tu allan i Ysgol Nantgaredig i 20mya, sef rhywbeth y gofynnwyd amdano sawl gwaith. Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd, er nad oedd ef yn bersonol yn ymdrin â'r ceisiadau am leihau'r terfyn cyflymder, fod nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar gyflwyno newid i'r terfyn cyflymder. Byddai'r Gweithgor Terfynau Cyflymder yn ystyried ceisiadau gan ofyn am gefnogaeth y gymuned ar gyfer y newid ac i'r terfyn cyflymder fod yn hunanorfodol lle bynnag y bo modd.

 

Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'n cysylltu â'r cynghorydd lleol y tu allan i'r cyfarfod ynghylch y mater.

 

  • Ar gais y Pwyllgor, roedd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn mynegi pryderon ynghylch y cyllid annigonol sydd ar gael i ddatblygu seilwaith cerdded a beicio [gweler cofnod 8.2, 5 Gorffennaf 2019]. Cyhoeddodd y Cadeirydd fod ymateb wedi dod i law gan Lee Waters, y Gweinidog dros Drafnidiaeth a rhoddodd grynodeb ar lafar o'r llythyr i'r Pwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r llythyr yn cael ei rannu ag aelodau'r Pwyllgor.

 

·       Cyfeiriwyd at Lwybrau Diogel mewn Cymunedau. Gofynnwyd a oedd yn bosibl i wardiau ddod ynghyd er mwyn bod yn fwy integredig. Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod gwaith ar y cyd yn arfer da a'i fod yn cael ei annog. Yn ogystal, roedd yn galonogol nodi bod y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn annog Awdurdodau Lleol i adolygu eu Mapiau Rhwydwaith Integredig ar gyfer teithio llesol dros y flwyddyn nesaf ac yn nodi y byddai cymorth ymarferol yn cael ei ddarparu i'w galluogi i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion cymunedau lleol.  

 

  • Wrth gydnabod y Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2020, a oedd yn ei wneud yn ofynnol i'r holl gerbydau cludiant ysgol, sydd wedi'u cofrestru i gludo teithwyr sy'n talu am sedd, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd/Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus, mynegodd y Pwyllgor nifer o bryderon. Roedd y pryderon a fynegwyd yn ymwneud â pha mor briodol yw'r dulliau presennol o ran llwybrau diogel i'r ysgol a'r pellter cerdded statudol presennol. Er iddo gydnabod bod cyllid cyfyngedig ar gael, roedd y Pwyllgor yn credu, o ystyried y newidiadau deddfwriaethol, y dylai'r Awdurdod roi blaenoriaeth i ddarparu llwybrau diogel.

 

Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol, fod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror, 2020 wedi cymeradwyo sefydlu Panel Ymgynghorol trawsbleidiol i gynnal adolygiad cyffredinol o bolisi cludiant ysgol yr awdurdod (gweler cofnod 11). Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r Panel yn cynnal adolygiad lefel uchel o'r polisi cludiant ysgol presennol, yn adolygu'r newidiadau i'r defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaeth Cyhoeddus i wasanaethau lleol ac yn cynnal adolygiad lefel uchel o gostau'r ddarpariaeth cludiant ysgol a fyddai'n cynnwys heriau o ran y gadwyn gyflenwi yn deillio o'r defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Yn dilyn yr adolygiad, byddai'r Panel Ymgynghorol yn gwneud argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Er gwaethaf gwaith y Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol, dywedwyd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ar lefel genedlaethol pa mor briodol yw ei dull presennol o asesu llwybrau diogel a hefyd adolygu ar frys y pellteroedd sy'n briodol i ddisgyblion gerdded/beicio i'r ysgol. Cynigiwyd y dylai'r Pwyllgor ysgrifennu at y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiadau a nodwyd uchod a sicrhau bod unrhyw arian ychwanegol angenrheidiol ar gael. Eiliwyd y Cynnig.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn i leihau'r pellter cerdded statudol presennol o'r cartref i'r ysgol, pwysleisiodd Rheolwyr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd i'r Pwyllgor fod ystyriaeth flaenorol i'r goblygiadau ariannol yn awgrymu y byddai pob milltir a gaiff ei leihau yn arwain at gynnydd amcangyfrifedig blynyddol o £10m o ran cyllideb refeniw'r Awdurdod Lleol. 

 

  • Mewn ymateb i gais am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd llwybr beicio y Cardi Bach, eglurodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod peth cyllid wedi cael ei glustnodi i ymgymryd â dyluniad a chynllun dichonoldeb ac felly, yn amodol ar gyllid, nid oedd unrhyw reswm na fyddai hyn yn digwydd.

 

  • Dywedwyd nad oedd unrhyw fuddsoddiadau mewn cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a/neu gynlluniau seilwaith eraill yn cael eu hadlewyrchu yn y crynodeb ar gyfer unrhyw ardaloedd i'r gorllewin o Gaerfyrddin. Eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod cynlluniau diogelwch ffyrdd wedi'u neilltuo ar gyfer ardaloedd lle mae risg uchel.

 

  • Ymatebodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth i ymholiadau plwyfol mewn perthynas â Pharc Ysgol Hendy-gwyn ar Daf a Gorsaf Fysiau Caerfyrddin.

 

  • Cyfeiriwyd at y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan. Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch yr effaith negyddol ar ardaloedd gwledig oherwydd y diffyg pwyntiau gwefru trydan sydd ar gael, esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod ardaloedd gwledig yn cael eu cynnwys yn y cynllun cyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan ond nad oedd yr union leoliadau wedi'u pennu eto.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod:

 

5.1     y Pwyllgor yn ysgrifennu llythyr at y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud y canlynol:

 

a)               cynnal adolygiad o'r dull presennol o asesu llwybrau diogel;

b)               adolygu ar frys y pellteroedd sy'n briodol i ddisgyblion gerdded i'r ysgol;

c)        ystyried sicrhau bod unrhyw gyllid ychwanegol angenrheidiol ar gael yn dilyn canlyniad yr adolygiadau a nodwyd uchod.

5.2     yr adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd yn cael ei dderbyn.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau