Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2020/21 - 2024/25

Cofnodion:

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2020/2021 i 2024/2025 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriadau a gyflawnwyd a setliad Llywodraeth Cymru.  Roedd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig, a oedd yn rhagweld gwariant amcangyfrifedig o bron i £255m dros y pum mlynedd 2020/2021 i 2024/2025, yn manteisio ar y cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael o ffynonellau allanol. Ystyriwyd y byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin. Roedd y cyllid gan y Cyngor Sir ar gyfer y rhaglen hon tua £126m ar hyn o bryd a byddai £129m pellach yn dod oddi wrth gyrff cyllid grant allanol. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhagamcanion o ran y cyllid cyfalaf y tu hwnt i 2020/21, ac felly roedd y rhaglen wedi'i seilio ar fenthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai llawer o'r buddsoddiadau, megis rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, priffyrdd, adfywio a thai, yn gyfarwydd, ond bu'n bosibl unwaith eto i ychwanegu buddsoddiad i gynlluniau yr ystyrid eu bod yn bwysig ar gyfer y Sir. Yn y Gwasanaethau Cymunedol, roedd y rhaglen gyfalaf wedi gwneud buddsoddiad yn y gwasanaethau hamdden a diwylliannol. Y mwyaf sylweddol o'r rhain oedd buddsoddiad o £1.9m o arian newydd i Oriel Myrddin, gyda £650k i'w fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin i gwblhau'r uwchgynllun a chymorth parhaus ar gyfer tai yn y sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Byddai Adran yr Amgylchedd yn parhau i gael cymorth parhaus ar gyfer gwella priffyrdd, cynnal a chadw pontydd, a chynlluniau diogelwch ffyrdd yn 2024/25. Byddai cyllid y Cyngor ar gynnal a chadw priffyrdd yn parhau i gael ei gryfhau yn 2020/21 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth y Cyngor y bu'n bosibl gwneud ymrwymiadau ychwanegol ar draws ystadau'r Cyngor gyda darpariaeth o £2.5m ar gyfer gwaith hanfodol i Neuadd y Sir, £500k ar gyfer gwaith yn Nh? Elwyn a £3.5m tuag at gynnal a chadw ar draws yr ystâd yn 2024/25. Byddai arian newydd yn cael ei ddarparu ar gyfer mentrau di-garbon ar draws yr ystâd. Yn ogystal, byddai £2.7m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw adeiladau ysgolion. Roedd £4m wedi'i gynnwys ar gyfer ailddatblygu Neuadd Farchnad Llandeilo a £847k ar gyfer y buddsoddiad parhaus yn Ystâd Ddiwydiannol Glanaman. Roedd £500k wedi'i ddyrannu hefyd tuag at y camau gweithredu gofynnol yn dilyn yr argyfwng hinsawdd a gafodd ei ddatgan yn 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod cymorth hefyd yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiect y strategaeth drawsnewid yn Adfywio ar gyfer 2024/25 oedd â'r potensial o ddenu cyllid allanol sylweddol fel arian cyfatebol i gyllideb y Cyngor. Tynnwyd sylw'r Cyngor at y manylion cynhwysfawr a nodir yn Atodiad B yr adroddiad ynghyd â'r rhestr o flaenoriaethau wrth gefn. Byddai swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid sydd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen bresennol yn cael ei chyllido'n llawn am 5 mlynedd. Roedd Atodiad C yr adroddiad yn cynnwys Strategaeth Gyfalaf 2020/21 y Cyngor, a oedd yn ofynnol gan Gôd Cyllid Cyfalaf Prudential ac yn manylu ar y cyd-destun tymor hir o ran y penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi.

 

I gloi, roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yn credu bod y rhaglen gyfalaf yn gynhwysfawr, yn gyffrous ac yn uchelgeisiol, gyda'r Awdurdod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ac felly yn hyrwyddo argymhellion y Bwrdd Gweithredol.

Eiliwyd y Cynnig.

 

Yna, cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:-

 

“Bod yr Awdurdod yn buddsoddi mewn sefydlu cwmni bysiau sy'n defnyddio ynni glân megis p?er trydan erbyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd 2020 drwy ddefnyddio £3m o'r cronfeydd cyfalaf wrth gefn.”

 

Dywedwyd wrth y Cyngor nad oedd y ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i lywodraeth leol redeg cwmnïau trafnidiaeth er bod Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) Drafft fod cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru a allai o bosibl fynd i'r afael â'r mater hwn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151, pe bai bwriad defnyddio £3m at y diben a nodir, yna byddai angen i'r Cyngor nodi beth fyddai'n cael ei ddileu o'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig i'w ariannu gan fod yr holl gronfeydd cyfalaf wrth gefn wedi'u dyrannu dros y rhaglen 5 mlynedd. Eglurwyd hefyd pe bai'r £3m yn cael ei ariannu drwy fenthyca ychwanegol, byddai'n effeithio ar y gyllideb refeniw y cytunwyd arni eisoes [cyfeirir ati yng nghofnod 7].

 

[Ar yr adeg hon gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am 20 munud i alluogi cynigydd ac eilydd y gwelliant i geisio cyngor pellach gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151.]

 

Ar ôl i’r cyfarfod ailgynnull dywedodd cynigydd y gwelliant ei fod, gyda chydsyniad ei eilydd, yn dymuno tynnu'r gwelliant yn ôl yn dilyn eglurhad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151 a chan wybod bod Llywodraeth Cymru yn y broses o ystyried y Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) Drafft. Gofynnwyd, fodd bynnag, fod trafodaethau trawsbleidiol yn cael eu rhoi ar waith i ystyried yr opsiynau a'r goblygiadau o ran cost ar gyfer sefydlu cwmni trafnidiaeth gan ragweld y byddai'r Bil uchod yn cael ei gymeradwyo. Awgrymodd y Prif Weithredwr, mewn ymateb i sylwadau'n ymwneud â chwmpas gweithredol cwmni trafnidiaeth o'r fath, y gellid ystyried y mater o fewn cylch gwaith Bargen Ddinesig Bae Abertawe yng nghyd-destun sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Derbyniodd yr Aelodau hyn fel ffordd ymlaen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

8.1bod y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'r cyllid, fel y'u nodwyd

yn Atodiad B yr adroddiad, gyda chyllideb 2020/21 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2021/22 tan 2024/25 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

8.2 bod y rhaglen yn cael ei hadolygu os na fydd cyllid allanol a ragwelir  

      neu gyllid y Cyngor Sir yn dod i law;

8.3 bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei

      chymeradwyo.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau