Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 - 2022/23

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried y Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 tan 2022/23 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor.

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ddweud bod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar gynigion y gyllideb, ac argymhellion y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor o ran y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2020/21 i 2022/23. Ychwanegodd nad oedd setliad terfynol Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi tan y diwrnod ar ôl i'r Bwrdd Gweithredol gyfarfod i ystyried y gyllideb derfynol, ac roedd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn dal heb gael ei thrafod yn y Senedd. Roedd y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i'r setliad yn newidiadau i grantiau penodol yn unig, ac felly roedd y cyllid craidd yn aros yr un fath â'r manylion a roddwyd yn yr adroddiad, gyda chynnydd o 4.3% ar sail Cymru gyfan, gyda Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn 4.4%. Mae hyn yn adlewyrchu i ryw raddau gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o'r lefel ddigynsail o bwysau chwyddiant a'r pwysau anorfod sy'n wynebu awdurdodau lleol. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn newid y ffaith bod angen arbedion o hyd er gwaethaf y cynnydd yn y cyllid a groesawyd.

Dywedodd yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y wybodaeth ddiweddaraf am grantiau a thybiaethau wedi darparu arian ychwanegol o'i gymharu â'r gyllideb amodol y cytunodd y Bwrdd Gweithredo arni ar 6 Ionawr 2020. Roedd hyn yn golygu yr edrychwyd eto ar rai o'r cynigion yn yr amlinelliad o'r gyllideb wreiddiol a rhoddwyd ystyriaeth i opsiynau pellach.

Dywedodd fod cyllid awdurdodau lleol yn parhau i fod yn heriol a'i fod yn parhau i fod yn anodd cynllunio am fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi darparu ffigurau ar lefel awdurdod am flwyddyn yn unig. Roedd Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr San Steffan, i bob pwrpas, wedi'i symud ymlaen, a disgwylir y bydd adolygiad mwy cyflawn, aml-flwyddyn yn cael ei gynnal yn 2020.

Dywedodd fod y Cyfarwyddwr wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn y strategaeth a oedd yn rhan o'r drefn arferol, wrth i ragor o wybodaeth a gwybodaeth fwy clir fod ar gael.   Roedd y cyfanswm dilysu cyfredol yn ychwanegu tua £11.8m i'r gyllideb heb gynnwys costau pensiynau athrawon. Roedd tâl yn parhau i fod y dilysiad mwyaf sylweddol eleni, ond tynnodd yr adroddiad sylw at y lefel uchel o ansicrwydd o ystyried y bwlch rhwng y ddwy ochr sy'n rhan o drafodaethau ar hyn o bryd. Yn absenoldeb unrhyw eglurder pellach, roedd y gyllideb yn caniatáu ar gyfer cynnydd o 2.75%. Nid oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniadau cyflog cenedlaethol. Roedd dyfarniad Medi 2019 wedi'i bennu ar 2.75% a rhagdybiwyd y lefel hon ar gyfer y dyfodol, er y cydnabuwyd hefyd ei bod yn risg allweddol i'r gyllideb.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynigion ar gyfer y gyllideb a ymgynghorwyd arnynt ym mis Ionawr 2020 wedi tybio y byddai cyflogau a chwyddiant yn cael eu dilysu'n llawn i ysgolion, felly, gan fod gwybodaeth wedi'i diweddaru o ran hynny, ychwanegwyd £311,000 pellach, gan gymryd y cynnydd cyffredinol mewn cyllidebau dirprwyedig ysgolion i £10.1 miliwn. Ystyriwyd bod hyn yn dangos cefnogaeth sylweddol i ysgolion, a oedd yn fwy na'r hyn a roddwyd i adrannau eraill ac yn rhoi'r un p?er gwario i ysgolion â'r flwyddyn gyfredol.

Er gwaethaf y pwysau ychwanegol o ganlyniad i'r amserlen gyllidebol gywasgedig, barnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y broses ymgynghori eleni yn llwyddiant mawr gyda mwy na 2,000 o ymatebion. Roedd wedi bod yn eang ac yn amrywiol gan ddefnyddio gwahanol ddulliau i gael barn y bobl am y gyllideb: Seminarau i'r Aelodau; Pwyllgorau Craffu; Fforwm Cyllideb Ysgolion; Arolygon ar-lein; cyfarfodydd cynghorau tref a chymuned; cyfarfodydd undebau llafur; sesiwn Golwg Sir Gâr Roedd arfarniad llawn o'r ymateb i'r ymgynghoriad yn yr adroddiad.

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, o ystyried y setliad mwy cadarnhaol, roedd £560,000 ar gael i wneud rhai addasiadau hanfodol i strategaeth y gyllideb. Argymhellodd, felly, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y dylid gwneud yr addasiadau canlynol i strategaeth y gyllideb, a oedd yn ystyried y broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth o'r cynigion nad oedd yn cael eu cefnogi:

Yn y lle cyntaf, tynnu'n ôl y cynigion canlynol:

·           cau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Hendy-gwyn ar Daf. Cafodd y cynnig hwn y sgôr mynegai mwyaf negyddol yn ogystal â mwy na 500 o sylwadau gan y cyhoedd;

·           cau toiledau cyhoeddus gan mai hwn oedd â'r ail sgôr mynegai mwyaf negyddol;

·           y gostyngiad i gyllidebau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid, gan gydnabod yr ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â phryderon aelodau

·           y cynnydd arfaethedig i daliadau mynwentydd.

Cadarnhawyd hefyd, yn dilyn trafodaethau â swyddogion mewn perthynas â gwasanaethau hamdden a oedd wedi cynnig yn wreiddiol i gynyddu taliadau y byddai'r incwm ychwanegol sy'n ofynnol yn cael ei fodloni drwy gynyddu defnydd, gan ddisodli'r angen i gynyddu taliadau.

 

Yn ail, bod y cynigion canlynol yn cael eu gohirio:

·                Gohirio'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyllidebau ADY i flwyddyn 3 hyd nes bod y trefniadau newydd o dan y Ddeddf ADY (Cymru) wedi'u sefydlu'n well;

·                Bod y ffi weinyddol arfaethedig ar gyfer hunangyllidwyr lleoliadau preswyl yn cael ei gohirio tan flwyddyn 3 y cynllun.

Cynigiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd, i gydnabod y pwysau ar wasanaethau a wynebir gan adrannau:

·           bod  £128,000 o'r grant ychwanegol ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn cael ei gymhwyso i wasanaethau cymdeithasol;

·           darparu £140,000 tuag at gyllidebau priffyrdd i wella mwy o ffyrdd a gwella capasiti;

·           dirprwyo £140,000 i'r Cyfarwyddwr Addysg i flaenoriaethu yn unol â gofynion yr adran, gan gydnabod bod nifer o feysydd dan bwysau na fu'n bosibl eu hariannu yn y gyllideb ddrafft.

 

Roedd o'r farn y byddai mabwysiadu'r cynigion hyn yn caniatáu i'r Cyngor Sir gyflwyno cyllideb deg a chytbwys, a oedd yn ymateb i'r prif bryderon yr adroddwyd yn ôl yn sgil yr ymgynghoriad. Yna cynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol, yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a amlinellir uchod, o ran Strategaeth Cyllideb 2020/21 a'r cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor a chymeradwyo'r cynllun ariannol tymor canolig fel sylfaen ar gyfer cynllunio ariannol yn y dyfodol. Eiliwyd y cynnig.

 

Yna, cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:-

 

“Y caiff yr arian hwnnw ei ryddhau o'r cronfeydd wrth gefn i ariannu gwasanaethau bysiau ar gyfer y plant ysgol hynny y mae eu gwasanaethau bws wedi cael eu tynnu'n ôl oherwydd rheoliadau hyd ddiwedd tymor yr haf 2020 - amcangyfrifir y bydd y gost yn £150k.”

 

Roedd y cynigydd wedi amlinellu'r rhesymau dros y gwelliant hwn.

 

Yn dilyn dadl, pan dderbyniwyd cyngor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am y goblygiadau cyllidebol a'r risgiau a' chyngor gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith ar y risgiau cyfreithiol mewn perthynas â’r gwelliant arfaethedig

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.

Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig Terfynol

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH fabwysiadu'r Cynnig a bod yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol yn cael eu mabwysiadu:-

 

7.1 bod Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2020/21, yn cael ei chymeradwyo yn amodol ar y gwelliannau canlynol:-

 

       2020/21

7.1.1 bod y gostyngiad £50k yn y gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yn cael ei dynnu'n ôl, gan gydnabod yr ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â phryderon aelodau;

7.1.2 peidio â gweithredu'r cynnydd arfaethedig mewn taliadau mynwentydd [£2k];

7.1.3 bod yr effeithlonrwydd arfaethedig ar gyllidebau ADY yn cael ei ohirio tan flwyddyn 3 nes bod y trefniadau newydd o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) wedi'u sefydlu'n well;

7.1.4 bod y balans o £128k o'r grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol ychwanegol yn cael ei gymhwyso i Wasanaethau Cymdeithasol;

7.1.5 bod £140k yn cael ei ddarparu tuag at gyllidebau priffyrdd i wella mwy o ffyrdd a gwella capasiti;

7.1.6 bod £140k yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Addysg i             flaenoriaethuyn unol â gofynion yr adran, gan gydnabod bod           nifer o feysydd dan bwysau nad oedd yn bosibl eu hariannu        yn y gyllideb ddrafft;

7.1.7 o ran gwasanaethau hamdden, bydd yr incwm ychwanegol yn cael ei godi drwy gynyddu defnydd yn hytrach na chynyddu'r taliadau yn 2021/22 a 2022/23;

 

2021/22 a 2022/23

7.1.8 i ddileu'r cynnig i gau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Hendy-gwyn ar Daf.  Cafodd y cynnig hwn y sgôr mynegai mwyaf negyddol yn ogystal â mwy na 500 o sylwadau gan y cyhoedd;

7.1.9 i ddileu'r cynnig i gau'r toiledau cyhoeddus gan mai dyma oedd â'r ail sgôr mynegai mwyaf negyddol;

7.1.10 bod y ffi weinyddol arfaethedig ar gyfer lleoliadau preswyl i hunan-arianwyr yn cael ei gohirio tan flwyddyn 3 y cynllun;

7.2 bod Treth Gyngor Band D yn 2020/21 yn cael ei gosod ar £1,316.55 (cynnydd o 4.89% ar gyfer 2020/2021);

7.3 bod y cyllid rheolaidd o £560k sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio'n llawn i gefnogi'r diwygiadau a gynigir yn 7.1.1 i 7.1.6 uchod;

7.4 bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau