“Hoffwn ofyn pa newidiadau mawr sydd wedi'u gwneud ers mabwysiadu templed yr Asesiad Risg Cynaliadwy sy'n cyfrannu at leihau'r argyfwng hinsawdd?”
Cofnodion:
“Hoffwn ofyn pa newidiadau mawr sydd wedi'u gwneud ers mabwysiadu templed yr Asesiad Risg Cynaliadwy sy'n cyfrannu at leihau'r argyfwng hinsawdd?”
Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-
"Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn i ni yn Sir Gaerfyrddin gan fod enw da gennym fel sir sy'n cynhyrchu bwyd. Defnyddir yr Asesiad Risg Cynaliadwy i nodi enillion cynaliadwy ar ymarferion caffael gwerth dros £25,000, gan alluogi'r Cyngor yn y pen draw i wneud penderfyniadau prynu gwell mewn perthynas â chynaliadwyedd. Templed gan Lywodraeth Cymru yw hon ac mae'n ymdrin â nifer o feysydd sy'n helpu i gyfrannu at Gynllun Carbon Sero-net y Cyngor. Mae'r Asesiad Risg yn cynnwys:-
· lleihau effeithiau trafnidiaeth;
· lleihau deunydd pacio a gwastraff;
· defnyddio deunyddiau a gyrchir yn gynaliadwy;
· diogelu mannau gwyrdd a bioamrywiaeth;
· lleihau’r defnydd o gemegion gwenwynig, toddyddion a sylweddau sy’n niweidiol i’r haen osôn;
· lleihau’r angen am ynni a gwneud defnydd mwy effeithlon ohono;
· fel y crybwyllwyd yn yr ymateb i gwestiwn blaenorol, mae addasu rheoliadau caffael i brynu mwy o gynnyrch bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yn flaenoriaeth i ni gan ein bod eisoes yn ymgysylltu â chyrff sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yngl?n â datblygu rhaglen ar gyfer defnyddio a phrynu mwy o fwyd a diod lleol, sy'n mynd i leihau'r milltiroedd bwyd yn amlwg a hefyd gefnogi cynaliadwyedd busnesau lleol yn ogystal.
Felly mae prosiectau cynaliadwy penodol ar y gweill i gefnogi'r agenda hon ymhellach yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft mae'r Cyngor yn gweithio gyda WRAP o dan raglen gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio yn y sector cyhoeddus drwy gaffael.
Mae Llywodraeth Cymru yn y camau olaf o gyflwyno 'Dangosfwrdd Datgarboneiddio' fel rhan o raglen Atamis (y porth dadansoddi gwariant a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn ar gael ym mis Mawrth eleni a'r nod yw darparu darlun lefel uchel o allyriadau carbon sefydliad sy'n gysylltiedig â gwariant caffael gyda chontractwyr, cyflenwyr neu ddarparwyr gwasanaethau a bydd hyn yn waelodlin inni, yn fan cychwyn ar gyfer cynllunio i ddatgarboneiddio. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael y rhaglen dangosfwrdd hon gan Lywodraeth Cymru. "
Gofynnodd Mr Reed y cwestiwn atodol canlynol:-
"Mae cryn dipyn o wybodaeth i mi ei phrosesu fan yna. A oes unrhyw enghreifftiau y gallwch eu rhoi i mi y mae'r Asesiad Risg Cynaliadwy wedi eu defnyddio yng Nghaerfyrddin o fewn y diwydiant bwyd?”
Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-
"Ni allaf roi enghreifftiau penodol i chi nawr, ond beth allaf ei ddweud wrthych yw ein bod ni, fel Awdurdod Lleol, bellach yn Awdurdod rhydd rhag plastig untro. Rydym hefyd wedi dod yn Gyngor Sir di-bapur. Ond o ran caffael bwyd, mae rheoliadau Ewropeaidd bob amser wedi cyfyngu arnom, ac efallai mai un fantais fach o adael yr Undeb Ewropeaidd yw bod y rheoliadau hyn yn mynd i gael eu llacio o bosibl, a fydd yn caniatáu i ni gaffael mwy o fwyd yn lleol. Nid ydym wedi gallu gwneud hynny i'r graddau rydym wedi ei ddymuno yn y gorffennol, ond yn bendant mae cyfle gennym nawr ac rydym mewn cysylltiad fel y soniais â chyrff cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin i geisio prynu rhagor o fwyd, diod a gwasanaethau yn lleol er mwyn cefnogi'r gymuned fusnes a chadw'r bunt yn Sir Gâr. Mae'r bunt honno mor bwysig inni wrth symud ymlaen.”