Agenda item

CWESTIWN GAN Y PARCH ATHRO D JENKINS I'R CYNGHORYDD M STEPHENS, DIRPRWY ARWEINYDD Y CYNGOR

“Nid oes sôn am yr hinsawdd yn y Cyflwyniad Cryno presennol o'r Cynllun Datblygu Lleol (https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1216114/ldp-summary-introduction-cymraeg-final.pdf). Mae fersiwn fwy manwl yn sôn am newid yn yr hinsawdd http://www.cartogold.co.uk/CarmarthenshireLDP/welsh/text/05_Strategaeth-a-Pholisiau-Strategol.htm ond nid oes llawer o wybodaeth am hynny wedi'i chynnwys yn y strategaeth na'r polisi. Sut y bydd y Cynllun yn adlewyrchu datgan argyfwng hinsawdd; a fydd y Cyngor yn casglu barn y cyhoedd drwy Gynulliad Dinasyddion?”

 

Cofnodion:

“Nid oes sôn am yr hinsawdd yn y Cyflwyniad Cryno presennol o'r Cynllun Datblygu Lleol (https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1216114/ldp-summary-introduction-cymraeg-final.pdf). Mae fersiwn fwy manwl yn sôn am newid yn yr hinsawdd http://www.cartogold.co.uk/CarmarthenshireLDP/welsh/text/05_Strategaeth-a-Pholisiau-Strategol.htm ond nid oes llawer o wybodaeth am hynny wedi'i chynnwys yn y strategaeth na'r polisi.Sut y bydd y Cynllun yn adlewyrchu datgan argyfwng hinsawdd; a fydd y Cyngor yn casglu barn y cyhoedd drwy Gynulliad Dinasyddion?”  

Ymateb gan y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:-

"Mae eich cwestiwn mor briodol ei amseriad ac mae'n cyd-fynd â'r ymgynghoriad presennol ar y CDLl.  Nodaf gyda sicrwydd nad y dogfennau y cyfeirir atynt yn y cwestiwn yw cyhoeddiadau mwyaf diweddar y CDLl. Cafodd y ddogfen 'cyflwyniad cryno' ei pharatoi ar ddechrau'r gwaith o greu'r CDLl Diwygiedig, a'r ddogfen arall y cyfeirir ati fel y 'fersiwn fwy manwl' yw'r CDLl cyfredol a fabwysiadwyd. Fodd bynnag, diolch i chi am gymryd yr amser i'w darllen a'u deall ac am wybod bod y ddwy ddogfen hyn yn sail i'r cynllun a llawer o'r cyd-destun o ran cyfeiriad, a diolch am bopeth rydych wedi ei wneud hyd yn hyn.

Rwyf wedi dweud droeon yn y siambr hon, pryd bynnag rydym yn mynd drwy wahanol gamau'r broses CDLl, sy'n hir ac yn ymddangos yn llafurus, ein bod yn mireinio'n barhaus ac yn ei wneud yn gadarnach wrth i ragor o dystiolaeth gael ei chasglu a'i chynnwys yn y cynllun.  Efallai ei bod yn werth nodi fan hyn y math o ymgysylltu ac ymgynghori sydd wedi bod yn digwydd hyd yma, a, chredwch chi fi, mae hynny wedi bod ar raddfa fwy o lawer nag unrhyw beth sydd wedi digwydd wrth gynhyrchu unrhyw CDLl yn y gorffennol. Felly, yn ogystal ag ymgynghoriad y Gr?p Ymgynghorol, sy'n cynnwys aelodau sydd wedi dod â materion o bob rhan o'r sir i'w trafod, bu fforwm rhanddeiliaid allweddol sy'n cynnwys trawstoriad o bobl o sefydliadau statudol fel y GIG, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau cyfagos, cafwyd sylwadau gan Gynghorau a Chynghorwyr Tref a Chymuned, cynrychiolwyr y gwahanol fudiadau gwirfoddol sydd gennym yn Sir Gaerfyrddin, a hefyd cynrychiolwyr o'r gymuned sy'n cwmpasu ystod eang o fuddiannau, ac, fel rwyf wastad wedi dweud, maent yn cyfrannu eu gofynion at y cynllun. Rydym hefyd wedi cyfarfod â Chynghorau Cymuned a Thref, fel y gellir cael safbwynt mwy lleol, ac, yn wir, fel y gallant ddweud wrthym pa fath o ddatblygiad sy'n dderbyniol, ac, os caf fentro dweud, annerbyniol yn eu hardaloedd.  Mae'r rheiny wedi cael eu cyfrannu ac yn cael eu hystyried o ran yr hyn sy'n digwydd. Rydym hefyd wedi trafod â datblygwyr ac asiantau er mwyn ceisio sicrhau bod cyflawni'r cynllun hwn ar ddiwedd y dydd yn rhywbeth y gallwn weithio gydag ef, ac ymfalchïo ynddo ar gyfer dyfodol Sir Gaerfyrddin.

Mae rhan o'r cynllun hwnnw'n golygu edrych ar y materion sydd gennym o fewn ein rheolaeth, sef y pethau hynny y gwyddom fod gennym eisoes, Cynllun Cymunedol integredig a chynlluniau ar gyfer ardaloedd gwledig.  Mae gennym y cynllun hwn sydd wedi esgor ar lawer iawn o drafodaeth, sef y cynllun sero-net. Mae gennych yr holl gynlluniau hyn. Sut rydym am symud ymlaen yn y Cyngor hwn dros gyfnod o bum mlynedd fel Gweinyddiaeth. Mae'r rheiny i gyd wedi'u cynnwys yn y cynllun cyffredinol hwn, ac, yn wir, mae ambell waith yn gallu bod yn anodd cael cydbwysedd ond mae'n ymdrech y byddwn ni yn ei gwneud. Ond mae'n profi ein bod yn ymgynghori'n eang ag ystod helaeth o bobl drwy'r amser. Nid yw hynny'n diystyru'r pethau rydym wedi bod yn eu gwneud gyda'r cyfryngau cymdeithasol a'r wefan a hynny i gyd. 

Yn wir, yn Nhachwedd 2018 penderfynodd y Cyngor hwn gymeradwyo'r CDLl Diwygiedig Adneuo ac mae hwn bellach ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus hyd nes 13 Mawrth 2020.Unwaith eto, ymgynghorwyd ar hyn ac wrth i mi siarad cynhelir sioeau teithiol o gwmpas y sir sy'n gofyn am sylwadau a barn pobl am yr hyn sy'n digwydd o gwmpas yr ardal.  Bwriad hyn yw annog ymgysylltu a sicrhau bod y sylwadau ar yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried.   Mae'r Cynllun Adneuo yn cynnwys  ystod lawn o bolisïau sy'n darparu ar gyfer dyfodol y sir a'i chymunedau hyd nes 2033. Mae hefyd yn nodi lleoliad a maint y twf ar gyfer yr ardaloedd hynny a'r pethau sydd angen eu diogelu.

Mae'r CDLl Adneuo yn benodol yn cynnwys ystod o bolisïau sy'n adlewyrchu'r agenda niwed yn yr hinsawdd ac yn cyfrannu ati. Mae'r rhain yn cynnwys Polisi Strategol ar Newid yn yr Hinsawdd a chyfres o bolisïau penodol sy'n amrywio o Ynni Adnewyddadwy i Seilwaith Gwyrdd. Gellir gweld y Cynllun Adneuo a'r dogfennau ategol, gan gynnwys yr Arfarniad Cynaliadwyedd, ar ein gwefan neu yng Nghanolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid 'Hwb' a'r llyfrgelloedd cyhoeddus ledled y sir. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn croesawu'n fawr unrhyw farn neu sylwadau ar unrhyw ran o'r Cynllun, boed hynny ar raddfa leol neu ar raddfa ehangach, a byddwn yn rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny wrth gamu ymlaen. Diolch yn fawr iawn ichi am ofyn y cwestiwn a diolch ichi am sicrhau bod y broses sydd gennym yn mynd i fod yn rhywbeth a fydd yn cynhyrchu cynllun cadarn.  Rydym ar ganol proses ymgynghori ac yn wir mae'n agored i'r gymuned ehangach. A ydym yn mynd i gael Cynulliad Dinasyddion?  'Na' yw'r ateb i hynny ar hyn o bryd, ond ar y llaw arall rydym yn croesawu'r holl sylwadau gallwn eu cael gan bobl o bell ac agos ar ein CDLl diwygiedig drafft. "

Gofynnodd y Parchedig Athro Jenkins y cwestiwn atodol canlynol:-

"Ymddengys i mi, yn hytrach na threiddio trwy'r Cynllun Datblygu Lleol yn ei gyfanrwydd, y cyfeirir at yr hinsawdd yn benodol ym mharagraff 9.32 o'r Cynllun Adneuo, mewn modd braidd yn gyfyngedig. O ystyried yr hyn mae'r IPCC wedi'i ddweud am natur yr argyfwng, pam na allwn wneud i ffwrdd â'r broses hir, lafurus honno rydych newydd fod yn sôn amdani a gweithredu fel pe bai hwn yn argyfwng? Byddai Cynulliad Dinasyddion yn ffordd o gyflymu pethau. Onid ydych yn credu efallai y byddai Cynulliad Dinasyddion yn fwy effeithlon yn yr amgylchiadau presennol na phroses a ddyluniwyd ar gyfer amseroedd gwahanol?"

Ymatebodd y Cynghorydd Stephens fel a ganlyn:-

“Yn bendant, rwy'n gallu gweld o ble'r ydych yn dod. Fel rwyf wedi dweud, rydym ni'n hynod agored i drafodaethau ffurfiol, ac, fel y gwyddoch, rydych chi a fi wedi cael trafodaethau mewn fforwm arall ynghylch ble rydym yn mynd a beth rydym yn ei wneud.  Nid oes yn rhaid i hinsawdd a newid yn yr hinsawdd o reidrwydd gynnwys y gair hinsawdd. Mae llawer iawn o waith o fewn y CDLl hwn sy'n dangos ein bod yn sicrhau bod gan bobl baneli solar a bod ganddynt bwyntiau gwefru trydan. Wyddoch chi, y pethau ymarferol hynny nad ydynt o reidrwydd wedi eu cynnwys dan y gair hinsawdd. Mae'n digwydd, a dyna'n union lle rydym arni. Byddwn yn cael y trafodaethau hynny a byddwn yn eu hystyried.  Ond ar hyn o bryd, dyma lle'r ydym ni."

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau