“A yw'r Cyngor Sir yn buddsoddi mewn Adnoddau Dynol i helpu'r
argyfwng hinsawdd?
h.y.
Cofnodion:
“A ydy'r Cyngor Sir yn buddsoddi mewn Adnoddau Dynol i helpu'r argyfwng hinsawdd? h.y.
Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-
"Y peth cyntaf wna i ei ddweud yw, er mai blwyddyn yn ôl y bu i ni basio Rhybudd o Gynnig yma yn Neuadd y Sir yn ymwneud â bod yn garbon sero-net erbyn 2030, roeddem eisoes wedi bod yn gweithio tuag at fod yn garbon sero-net erbyn 2050, fel y pennwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly beth rydym wedi'i wneud yw bwrw'r amserlen ymlaen, felly mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn digwydd ers cryn amser. I ateb eich cwestiwn yn benodol, yr ateb syml yw 'ydy' ac rydym wedi bod yn gwneud hyn ers sawl blwyddyn. Mae tîm Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) yr Awdurdod wedi bod yn edrych ar nifer o fentrau i leihau'r ddibyniaeth ar wneud milltiroedd lle bynnag y bo'n bosibl. I'r perwyl hwn gallaf gadarnhau bod gliniadur gan 81% o'n staff swyddfa, sy'n eu galluogi i weithio'n ystwyth, ac rydym yn awyddus i hyrwyddo defnydd pellach o dechnoleg megis SKYPE er enghraifft. Er mwyn cyflawni'r agenda hon, rydym wedi gallu secondio nifer o swyddogion i'r tîm TIC sydd â'r sgiliau iawn i'n helpu i ymateb i'r agenda hynod heriol hon.
Bellach mae gan ein holl brif adeiladau gweinyddol weithfannau cyfleus a fydd yn helpu i leihau'r angen i deithio, ac yn sgil hynny bydd allyriadau CO2 yn lleihau. Yn gysylltiedig â hyn, rydym wedi ymgymryd â Rhaglen Datblygu Gweithio Ystwyth gynhwysfawr i helpu Rheolwyr a Staff i newid i Weithio Ystwyth.
O ganlyniad i'r mentrau hyn mae nifer y milltiroedd wedi gostwng dros gan mil o filltiroedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Er bod hwn yn ganlyniad da, nid ydym yn hunanfodlon fel Awdurdod, ac rydym yn bwriadu cyflwyno mwy o geir trydan/hybrid i ategu ein fflyd bresennol o geir trydan ym Mharc Myrddin a Pharc Dewi Sant. Felly eleni fe welwch y cerbydau trydan/hybrid hyn nid yn unig yng Nghaerfyrddin, ond yn Rhydaman a Llanelli hefyd.
Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r hyn rydym yn ei wneud fel rhan o'n hymagwedd strategol at Newid yn yr Hinsawdd, ac rydym yn sylweddoli ein bod mewn sefyllfa unigryw i arwain a gweithredu er mwyn mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd, ac i wneud gwahaniaeth drwy ein gweithgareddau ein hunain a thrwy arwain partneriaethau.
Rydym wedi ymrwymo ers blynyddoedd i leihau ynni yn ein hadeiladau ein hunain, ysgolion, a stoc tai cymdeithasol a reolir gan y Cyngor, drwy gefnogi ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel, drwy ddarparu opsiynau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, ac, yn bwysicach efallai, drwy godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a rhoi cyngor ar yr hyn y gall pobl ei wneud. I'r diben hwn, rydym wedi creu swydd Swyddog Lleihau Carbon a fydd yn hyrwyddo prosiectau corfforaethol i helpu ag ymateb y Cyngor i Newid yn yr Hinsawdd, megis effeithlonrwydd ynni a chynlluniau ynni adnewyddadwy.
Ers i'r Rhybudd o Gynnig gael ei basio'r llynedd, rydym wedi datblygu, yn ôl ein haddewid, Gynllun Carbon Sero-net sy'n nodi llwybr clir tuag at fod yn Awdurdod carbon sero-net erbyn 2030.
Gofynnodd Mr Bizzell-Browning y cwestiwn atodol canlynol:-
"Pa ganran o weithwyr y Cyngor sy'n gallu gweithio o gartref?"
Ymatebodd y Cynghorydd Jenkins fel a ganlyn:-
“Fe wnes i ddweud yn fy adroddiad fod gliniaduron gan 81% o'n staff swyddfa i'w galluogi i weithio'n ystwyth, fel eu bod yn gallu gweithio o gartref neu ble bynnag, fel y bo'n briodol.”