Agenda item

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI AR GYFER 2020/21

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) a Lefelau'r Rhenti Tai ar gyfer 2020/21 a gyflwynir fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb. Roedd yn tynnu ynghyd y cynigion diweddaraf yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2020/23 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan ystyried y cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn Ymrwymiad yr Awdurdod i Dai Fforddiadwy.

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy. Yn dilyn yr arolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am 5 mlynedd ychwanegol o 2020/21 i 2024/25, gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig. Y cynnydd blynyddol yn y rhent am y cyfnod diwygiedig fyddai'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ac 1% yn fwy, gan ddefnyddio lefel Mynegai Prisiau Defnyddwyr o fis Medi'r flwyddyn flaenorol. Wrth roi'r polisi hwnnw ar waith ar gyfer 2020/21, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2019 y byddai'r cynnydd yn y rhenti targed yn cyfateb i 1.7% o Fynegai Prisiau Defnyddwyr ac 1% yn fwy, sy'n dod i gyfanswm o 2.7%, ac ar gyfer y rheiny sydd o dan y rhent targed, byddai cynnydd o hyd at £2 yr wythnos yn cael ei weithredu hyd nes y bydd y rhent targed wedi'i gyrraedd. Fodd bynnag, byddai cyfanswm yr amlen rhent yn cynyddu 2.7% (£2.36) ar y mwyaf o £87.41 i £89.77.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, petai'r Pwyllgor am gymeradwyo cynigion y gyllideb, y byddai lefel gwariant o £50.1m ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2020/21, a'r rhaglen gyfalaf fyddai £34.7m ar gyfer 2020/21, £35.2m ar gyfer 2021/22 a £31.4m ar gyfer 2022/23.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·         Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod defnyddio Mynegai Prisiau Defnyddwyr i gyfrifo cynnydd rhent yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru ac nad oedd gan awdurdodau lleol ryddid i amrywio hynny i gymhwyso'r Mynegrif Prisiau Adwerthu yn ei le.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol a'i effaith ar ôl-ddyledion rhent, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai dim ond cynnydd bychan a fu yn gyffredinol yn yr ôl-ddyledion rhent, a oedd yn is na'r hyn a ddisgwyliwyd ac yn cymharu'n ffafriol â darparwyr tai cymdeithasol eraill. Hyd yn hyn, roedd 1200 o denantiaid wedi'u trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol ac roedd disgwyl i 4,000 o denantiaid eraill gael eu trosglwyddo dros y pedair blynedd nesaf. Cadarnhaodd nad oedd yr awdurdod yn gweithredu ei bolisi ôl-ddyledion ar gyfer unrhyw denantiaid ag ôl-ddyledion yn ystod y cyfnod pontio i Gredyd Cynhwysol, o gofio y gallai'r taliad cyntaf gymryd hyd at bum wythnos.

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at drosglwyddo hawlwyr budd-daliadau i Gredyd Cynhwysol a dywedodd fod pensiynwyr wedi'u heithrio o'r ddeddfwriaeth ac y byddant yn parhau i gael eu budd-daliadau cyfredol.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefel yr incwm rhent ar gyfer stoc garejis y Cyngor, dywedwyd wrth y Pwyllgor ei bod yn cyfateb i tua £125k y flwyddyn. Roedd gan y Cyngor tua 160 o safleoedd garejis ac roedd pob un o'r rheiny yn cael ei werthuso i asesu'r opsiynau gorau o ran eu dyfodol, a allai gynnwys eu hatgyweirio, eu dymchwel a'u newid yn llefydd parcio a'u gwaredu.

·         O ran cwestiwn ynghylch lefel y tai gwag presennol, sef 2.7%, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y perfformiad yn debyg i awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol eraill. Er bod y perfformwyr gorau yn cyflawni 1.6%, roedd hynny'n cael ei gyflawni'n bennaf gan ddarparwyr tai cymdeithasol yr oedd eu stoc yn iau na stoc awdurdodau lleol.

 

Dywedodd, er bod gan yr awdurdod nifer o dai gwag tymor hir, ei fod wedi neilltuo cyllid er mwyn mynd i'r afael â hynny. Ar ôl sicrhau bod y tai'n cael eu defnyddio unwaith eto, disgwyliwyd y byddai nifer y tai gwag yn llai.

 

Mewn ymateb i'r anawsterau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn flaenorol ynghylch capasiti'r contractwyr allanol i gyflawni gwaith yn y tai gwag, cadarnhaodd y Pennaeth Eiddo fod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda chontractwyr i wella eu gallu i gyflawni'r gwaith. Rhoddodd wybod hefyd am y fframweithiau contractwyr presennol a newydd, a oedd yn cynnig gwaith mewn pecynnau o 10 i 20 eiddo. Gallai'r eiddo hwnnw gael ei gyfyngu i un rhanbarth neu ar draws y sir. Roedd yr amserlen ar gyfer cwblhau pecyn yn dibynnu ar lefel y gwaith yr oedd ei angen.

·         Cyfeiriodd y Rheolwr Dros Dro Buddsoddi ac Incwm at ofyniad Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol adeiladu tai sydd bron yn ddi-garbon ac i ddatgarboneiddio ei stoc bresennol. Dywedodd, er y byddai eiddo newydd y Cyngor yn hynod o effeithlon, y byddai angen ystod o opsiynau ar gyfer stoc bresennol y Cyngor, sy'n cynnwys dros 9,500 o eiddo, er mwyn lleihau eu hôl troed carbon. Yn hynny o beth, roedd yr awdurdod, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, yn gwerthuso model enghreifftiol o chwe eiddo ag ystod o denantiaid o wahanol oedrannau a meddiannaeth i asesu eu ffyrdd o fyw a'u defnydd o ynni. Byddai canlyniadau'r model hwnnw yn helpu i lywio polisi yn y dyfodol i wella perfformiad stoc.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR:-

 

4.1

bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru h.y.:-

·         Bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

·         Bydd eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu 2.53% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1 yr wythnos

·         Bydd eiddo sy'n uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

gan arwain felly at gynnydd cyfartalog yn y rhent o 2.7% (Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 1%) neu £2.36, gan lunio Cynllun Busnes cynaliadwy sy'n cynnal STSG+ ac yn darparu adnoddau i'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, fel y cefnogir gan Gr?p Llywio Safon Tai Sir Gaerfyrddin;

4.2

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos

4.3

Gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed.

4.4

Rhoi'r polisi ynghylch taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid a oedd wedi cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny

4.5

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti.

 

 

Dogfennau ategol: