Agenda item

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2020-23

Cofnodion:

(NODER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, cyfrannodd y Cynghorydd K. Lloyd at y drafodaeth ond nid oedd wedi pleidleisio ar y mater yn unol ag amodau ei ollyngiad a roddwyd gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor)

 

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) 2020-23, a oedd â phwrpas triphlyg. Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion STSG+ dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau'r proffil ariannol, ar sail y rhagdybiaethau presennol ar gyfer cyflawni STSG+ dros y tair blynedd nesaf ac yn drydydd, lluniai gynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2020/21, a oedd yn cyfateb i £6.1 miliwn.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Cynllun hefyd yn amlygu mor bwysig oedd i'r Cyngor gefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r tair thema allweddol ganlynol o ran cynigion buddsoddi yn y dyfodol:-

 

-       Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

-       Thema 2 – Buddsoddi yn ein Cartrefi a'r Amgylchedd - gan gynnwys datblygu Model Tai Datgarboneiddio Sir Gaerfyrddin

-       Thema 3 - Darparu rhagor o dai

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cyfeiriwyd at gynigion y Cyngor i wario bron i £52m dros y tair blynedd nesaf ar adeiladu rhagor o dai gan gysylltu ag adfywio a chanolbwyntio ar ddatblygiadau arfaethedig yn ward T?-isa, y Pentref Llesiant, canol y dref a threfi gwledig allweddol. O ystyried lansiad diweddar menter 'Deg Tref' y Cyngor, gofynnwyd am ragor o eglurhad ynghylch sut y byddai'r rhaglen adeiladu tai newydd yn cysylltu â'r fenter honno.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai rhaglenni adeiladu tai yn y dyfodol yn cyd-fynd â'r fenter honno. Roedd y cam adeiladu cyntaf, fel y nodwyd uchod, wedi cael ei ddatblygu ar sail y tir sydd ar gael.

·         Cyfeiriwyd at ddatblygiad model datgarboneiddio Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd am ragor o eglurhad ynghylch faint o ddylanwad oedd gan y Cyngor ar landlordiaid preifat a chymdeithasol o ran datgarboneiddio eu heiddo.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi, o ran landlordiaid cymdeithasol, y gellid mynd i'r afael â hynny mewn sawl ffordd, gan gynnwys gosod amodau ar Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru a dyrannu Grant Tai Cymdeithasol y Cyngor. Byddai annog landlordiaid preifat i gwblhau gwaith o'r fath yn anoddach. Fodd bynnag, efallai fod modd i'r awdurdod gynnig cymelliadau drwy ei bolisi gosod tai cymdeithasol ac ati. Gallai Llywodraeth Cymru hefyd ddeddfu a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid preifat gwblhau gwaith datgarboneiddio.

·         Gofynnwyd cwestiwn ynghylch Rhaglen Profi Radon y Cyngor a chadarnhaodd y Pennaeth Eiddo, er ei bod yn anstatudol, ei bod yn cael ei chyflawni yn unol ag arferion gorau fel landlordiaid cymdeithasol ac iechyd a diogelwch eu tenantiaid. Dywedodd y byddai perchnogion tai preifat yn cael eu cyfeirio at gyrff priodol i gael cyngor ynghylch profi eu heiddo.

·         Cyfeiriwyd at safon adeiladu tai newydd a dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y safon honno'n cael ei llywodraethu gan ddeddfwriaeth rheoliadau adeiladu. Er bod y ddeddfwriaeth honno'n gosod safonau gofynnol o ran gofynion diogelwch, gallai adeiladwyr tai ragori ar y safonau hynny.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wybod, o ran rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, y byddai'r holl dai'n cael eu hadeiladu i fodloni Gofynion Ansawdd Dylunio ac y byddant yn debyg o ran maint i eiddo a adeiladwyd yn y 1960au. Roedd gwaith hefyd yn cael ei gyflawni ar ddatblygu safon ar gyfer Sir Gaerfyrddin ar gyfer tai newydd, a fyddai'n cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w mabwysiadu yn y man.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Eiddo fod gwaith i fonitro ansawdd rhaglen adeiladu'r Cyngor yn cael ei gyflawni gan staff eiddo ac y byddai trefniadau perfformiad o fewn y fframwaith contractwyr yn cael eu defnyddio i fonitro contractwyr a benodwyd. Roedd safonau'r Cyngor ar gyfer tai newydd yn uwch na'r rhai a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn ceisio dylunio ac adeiladu tai ar gyfer yr hirdymor gan sicrhau eu hirhoedledd.

·         O ran y cynnig yn y Cynllun i blannu o leiaf 1,000 o goed i wrthbwyso ôl troed carbon o adeiladu 1,000 o dai newydd, dywedodd y Rheolwr Buddsoddi ac Incwm na fyddai'r rheiny o reidrwydd yn cael eu plannu yn Sir Gaerfyrddin, oherwydd gallai'r Cyngor wrthbwyso'r ddarpariaeth honno drwy gomisiynu gwaith plannu coed mewn ardaloedd/siroedd eraill. Fodd bynnag, byddai arfarniad o'r safle cyfan yn cael ei gynnal i nodi'r dull gorau o blannu coed, ar y safle neu rywle arall.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR:-

 

6.1

Cadarnhau gweledigaeth STSG+ a chadarnhau'r rhaglen gyflawni ariannol dros y tair blynedd nesaf

6.2

Cadarnhau cyflwyno'r cynllun i Lywodraeth Cymru ar gyfer Cais Lwfans Atgyweiriadau Mawr 2020/21

6.3

Nodi'r bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu cynnig.

 

 

Dogfennau ategol: