Cofnodion:
Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad a chyflwyniadau o'r Gynhadledd Genedlaethol ar gyfer Paneli Heddlu a Throseddu. Cynrychiolwyd y Panel yn y gynhadledd gan yr Athro Ian Roffe, y Cynghorydd William Powell a'r Cynghorydd John Prosser. Dywedasant mai eu hargraff hwy oedd bod gwaith y Panel a'i gydweithrediad â'r Comisiynydd yn gadarnhaol wrth gymharu â phaneli eraill yn genedlaethol.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch arestio menywod, mynegodd y Comisiynydd ei siom na chyfeiriwyd at brosiect braenaru menywod Cymru gyfan yn y cyflwyniad.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: