Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol drosolwg o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21-2022/23 a thynnodd sylw'r Aelodau at brif bwyntiau'r Setliad Dros Dro a nodwyd yn 2.3 yn yr adroddiad a dywedodd nad oedd y Setliad Terfynol i gael ei gyhoeddi tan 25 Chwefror 2020. Gofynnwyd i Aelodau hefyd nodi'r diweddariadau o ran 2.5 mewn perthynas â Grantiau Gwasanaethau Penodol Llywodraeth Cymru ac effaith Cyfraniadau Cyflogwr o ran Pensiwn Athrawon yn 3.2.4.

 

Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â monitro'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (tudalen 132) a gorwariant Cyllideb Ddirprwyedig Ysgolion, nododd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant fod cyfres o gyfarfodydd wedi cael eu cynnal dros y misoedd diwethaf ag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Mewn perthynas ag Ysgolion Cynradd, dywedodd o ganlyniad i'r cyfarfodydd fod Cyrff Llywodraethu yn fwy ymwybodol o'r toriadau cyllidebol sydd eu hangen, ac mewn rhai achosion p'un a yw eu darpariaeth yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd cymorth ychwanegol wedi ei roi i ysgolion sy'n wynebu diffyg ariannol sylweddol. Roedd cyfarfodydd ag Ysgolion Uwchradd hefyd wedi bod yn adeiladol iawn ac roedd cynlluniau ariannol yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan Gyfrifydd y Gr?p i nodi arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch ariannu ysgolion gwledig bach a'r anfanteision a wynebir mewn perthynas â'r fformiwla ariannu ac ariannu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod cyfleoedd i Gyrff Llywodraethu ymateb i'r mater hwn fel rhan o'r Ymgynghoriad presennol ynghylch y Gyllideb os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, realiti'r sefyllfa bresennol oedd bod cyllid yn brin ar gyfer yr holl ysgolion ac nad oedd digon o gyllid ar gael i gynnal 110 o ysgolion. Mewn perthynas â'r fformiwla ar gyfer cyllid ADY, dywedodd y Cyfarwyddwr fod newidiadau sylweddol ar y gweill o ran sut y byddai darpariaeth ADY yn cael ei hariannu ac y byddai amserau heriol i'r holl ysgolion o ran trosglwyddo.

 

Yn dilyn y pwynt blaenorol, nododd yr Aelodau fod y term 'rhesymoli' wedi ymddangos sawl gwaith yn yr adroddiad a'i fod yn cyfeirio at arbedion cymharol. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch nifer yr ysgolion sy'n wynebu'r posibilrwydd o gael eu cau mewn perthynas â rhesymoli. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod gostyngiad o rhwng 15 ac 20 o ysgolion yn cael ei ystyried ar hyn o bryd a bod 10 cynnig yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. I wireddu'r arbedion effeithlonrwydd hyn, byddai angen dechrau ar y gwaith rhesymoli yn 2020/21 er mwyn gwireddu'r arbedion yn y gyllideb yn 2021/22.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Seicoleg Addysg a Phlant a'r cynnig i leihau nifer y Seicolegwyr Addysg a Phlant. Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant y byddai newidiadau yn y dyfodol o ran darpariaeth ADY yn trosglwyddo ychydig o'r gwaith o'r adran hon i'r Gwasanaethau Cynhwysiant. Nid oedd disgwyl y byddai'r gostyngiad yn effeithio ar waith parhaus yr adran, a byddai cyllid grant yn cael ei ddefnyddio lle bo hynny'n bosibl i gynnal digon o gefnogaeth. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r Crynhoad Taliadau a geir ynddo.

 

</AI7>

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau