Agenda item
GWASANAETH TALU A THEITHIO AR FWS YSGOL
Cofnodion:
Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad diweddaru ar Wasanaeth Talu a Theithio ar Fws Ysgol y Cyngor ac effaith y newid yn neddfwriaeth y llywodraeth ar ddarpariaeth cludiant bysiau ysgol y Cyngor, gan gynnwys ei bolisi seddi gwag. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y tri argymhelliad yn yr adroddiad a oedd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd eu hystyried, a chynigiwyd y dylid gwella argymhellion 1 a 3 i ddarllen fel a ganlyn:
1) Gwelliant i Bolisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o £50, o 1 Medi, 2019 ymlaen.
3) Sefydlu Panel Ymgynghorol i'r Bwrdd Gweithredol sy'n cynnwys 6 aelod, ar sail drawsbleidiol, ynghyd ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol er mwyn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol
Cyfeiriwyd at raglen newyddion ddiweddar pan ddywedodd Lee Waters A.C. fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dehongli deddfwriaeth y Llywodraeth yn wahanol i awdurdodau lleol eraill a cheisiwyd eglurhad ar gywirdeb y datganiad hwnnw. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd yr Awdurdod wedi dehongli'r ddeddfwriaeth yn wahanol i unrhyw awdurdod lleol arall.
Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11, at yr effaith yr oedd y newid mewn deddfwriaeth yn ei chael ar tua 500 o ddisgyblion yn Sir Gaerfyrddin a gofynnodd "A fyddai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno â mi y dylai'r adolygiad y cyfeirir ato fel argymhelliad yn yr adroddiad ddechrau ar unwaith gan ymgynghori a'r holl gynghorwyr a gweithio gyda'n gilydd, yn cefnogi rhieni ym mha bynnag ward i gael effaith ar unwaith a sicrhau ein bod yn dileu'r llwybrau anniogel ac yn helpu i ddarparu cludiant addas a diogel yn ogystal ag edrych i’r dyfodol o’r newydd o ran darparu cludiant mewnol i'n holl blant”
Mewn ymateb, atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd am hanes y sefyllfa bresennol o ran y gwasanaeth talu a theithio ar fws ysgol, a oedd wedi codi o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Drafnidiaeth i ddileu'r eithriad llawn o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer cerbydau cludiant ysgol, a'r ymdrechion sydd ar waith yn genedlaethol ac yn lleol i Lywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i adfer yr eithriad yn llawn. Cyfeiriodd hefyd at ei gwelliant i'r adroddiad yn gofyn am sefydlu panel ymgynghori i'r Bwrdd Gweithredol i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol a fyddai'n adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, pe bai'r drafodaeth barhaus rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru yn methu ag arwain at ailgyflwyno'r eithriad llawn presennol o ran cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd/Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus ar wasanaethau cludiant i'r ysgol, bod y Cyngor yn cymeradwyo'r mesurau canlynol:-
1. Gwella Polisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o£50, o 1 Medi 2019;
2. Bod yr Awdurdod yn parhau i fynd ar drywydd Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i newid y defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaeth Cyhoeddus er mwyn caniatáu i weithredwyr bysiau barhau i ddefnyddio bysiau ar lwybrau bysiau ysgol a weithredir ar sail fasnachol;
3. Bydd Panel Ymgynghorol y Bwrdd Gweithredol yn cael ei sefydlu, gan gynnwys 6 aelod, ar sail drawsbleidiol, ynghyd ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â chludiant o'r Cartref i'r Ysgol gan adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.
Dogfennau ategol:
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth