Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £986K o ran y gyllideb refeniw ac y byddai £4K o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2019/20.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau / arsylwadau a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

Atodiad A - Crynodeb o'r sefyllfa

·         Nodwyd bod ffigur mis Awst o orwariant o £816K wedi cynyddu i £986K ym mis Hydref.  Gofynnwyd a oedd yna arwydd o'r sefyllfa bresennol.

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod yna amrywiaeth o ffactorau i'w hystyried ond y byddai tueddiadau'r blynyddoedd blaenorol yn dangos y posibilrwydd o ostyngiad yn y ffigur.

 

Atodiad B - Y Prif Amrywiannau

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant ar staff asiantaeth a'r modd yr oedd hyn hefyd yn fater i'r Bwrdd Iechyd.

Cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod hwn yn fater penodol ar gyfer gofal preswyl; fodd bynnag, roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud yn y maes hwn a gwelwyd gostyngiad.  Fel arfer byddai staff asiantaeth ond yn cael eu defnyddio os oedd perygl i wasanaethau rheng flaen.

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn Taliadau Uniongyrchol ar gyfer anableddau corfforol. Gofynnwyd sut oedd taliadau'n cael eu monitro i sicrhau bod y taliadau'n parhau i fod yn berthnasol.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes fod adolygiadau rheoli gofal yn cael eu cynnal. Roedd y Tîm Archwilio a Chydymffurfio yn sicrhau bod taliadau'n cael eu defnyddio'n gywir a bod unrhyw faterion a nodwyd yn cael eu codi gyda'r rheolwyr gofal.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adroddiad ar daliadau uniongyrchol yn cael ei ddatblygu.

·         Gofynnwyd a oedd yna dystiolaeth fod taliadau uniongyrchol yn cael eu camddefnyddio ac a oedd yna achosion o gymryd mantais o gleientiaid.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes fod Taliadau Uniongyrchol yn peri risg uwch na defnyddio darparwyr a reoleiddir; fodd bynnag, roedd camau diogelu ar waith i gyfyngu ar risgiau.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y ffi weinyddol o £1,000 oedd yn cael ei chodi ar unigolion a oedd yn hunanariannu lleoliadau preswyl.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes nad yw'r cynnig wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor eto.  Ffi flynyddol fyddai'r ffi ac roedd awdurdodau cyfagos eisoes yn codi tâl.  Byddai'r ffi yn cael ei chodi ar unigolion a oedd yn hunanariannu ond nad oeddent yn hyderus i gaffael y gwasanaethau eu hunain.  O dan y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant, pan ofynnir i'r Awdurdod Lleol, mae gan bobl yr hawl i gael eu lleoliad wedi'i gomisiynu trwy'r Awdurdod.  Roedd yr Awdurdod wedi cytuno ar gyfraddau cynaliadwy gyda darparwyr; fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai'r taliadau a godir ar ddefnyddwyr gwasanaeth fod yn fwy o wneud hyn trwy'r Awdurdod na thrwy gomisiynu'n uniongyrchol gyda darparwyr gwasanaethau.

 

Atodiad F - Yr Amrywiannau'n Fanwl

·         Gofynnwyd i swyddogion sut oedd yr Awdurdod yn sicrhau nad oedd defnyddwyr gwasanaeth yn dioddef yn sgil y gostyngiad mewn gofal dau ofalwr.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod timau amlddisgyblaeth yn cynnal asesiadau ar ôl i ddefnyddwyr gwasanaeth gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae hyn yn sgil canfod bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, pan fyddant yn dychwelyd adref, yn wahanol. Pe bai'r asesiad yn dod i'r casgliad bod angen yr un lefel o gymorth o hyd, yna byddai'n parhau i fod ar gael.  Roedd datblygiadau gyda chyfarpar newydd hefyd wedi cyfrannu at leihau gofal dau ofalwr, gan fod modd yn aml i un gofalwr eu defnyddio yn lle dau.  Rhoddwyd sicrwydd nad oedd y gofal oedd yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar ystyriaethau ariannol a'i fod yn gwbl seiliedig ar ofal.

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod yr holl gynigion i arbed arian a awgrymwyd gan Reolwyr Gwasanaethau yn cydymffurfio'n broffesiynol ac yn gyfreithiol â safonau gofal, a'u bod yn mynd trwy broses gadarn o herio i sicrhau eu bod yn gyraeddadwy.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: