Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2020/21 hyd 2022/23 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 6 Ionawr 2020.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/2021, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023 yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.3% fel cyfartaledd ledled Cymru ar setliad 2019/20, fod Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% (£11.548m) gan gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £274.159m ar gyfer 2020/21. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldebau newydd a throsglwyddiadau i'r setliad, gan gynnwys Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad, yn cyfrif am tua £5.8m neu hanner y cynnydd cyffredinol mewn cyllid.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am Grantiau Penodol i Wasanaethau Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd ynghyd â'r setliad dros dro ar lefel Cymru gyfan, ac roedd llawer ohonynt yn aros ar lefel weddol debyg i 2018/19.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol at y pwysau gwariant cynyddol ar y gyllideb, fel y nodwyd yn adran 3.4 yr adroddiad, a dywedodd er bod y pwysau hynny yn £13m, mai cyfanswm y gwerth ar gyfer twf, yn seiliedig ar y wybodaeth gyfredol, oedd dim ond £7.4m. Roedd tipyn o'r pwysau yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac yn cynnwys cynigion ynghylch datgarboneiddio, y Cynllun Datblygu Lleol a'r rhaglen Clefyd Coed Ynn. Roedd swm o £325,000 hefyd wedi cael ei gynnwys yn y rhaglen i fynd i'r afael â'r diffyg hanesyddol rhwng y rhagolwg a'r gwir incwm yn yr is-adran gynllunio.

 

Yn gryno, roedd y cynigion ynghylch y gyllideb yn cymryd bod yr holl gynigion o ran arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf.  At hynny, o ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, roedd y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar lefelau'r cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, a oedd yn cynnig rhywfaint o liniaru ar y cynigion ar gyfer arbedion.

 

I gloi, dywedwyd wrth y Pwyllgor, oherwydd yr oedi o ran derbyn y setliad dros dro a'r ffaith na fydd setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi tan 25 Chwefror 2020, y byddai'r Cyngor Sir yn gosod ei gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2020.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·         Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·         Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaethau Adfywio a Chynllunio (dim un ar gyfer y meysydd Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y setliad dros dro o 4.4% a'i effaith gadarnhaol ar raglen lleihau costau'r Cyngor, sy'n golygu y byddai lefel y gostyngiadau sydd i'w gwneud dros y tair blynedd nesaf yn gostwng £8.697m o £25,115m i £16,418m. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr effaith bosibl y gallai lleihau setliadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ei chael ar y rhaglen.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arwydd o ffigurau setliad y dyfodol y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol 2020/21, sy’n ei gwneud yn anodd llunio cyllidebau aml-flwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelodd llywodraeth leol lacio o ran y cyfyngiad ar gyflogau yn y sector cyhoeddus, tra'n cael setliadau gwell na'r disgwyl. Roedd yr awdurdod yn rhagweld cynnydd yn y pwysau cyllidebol dros y blynyddoedd i ddod a, phe bai'r rheiny'n parhau, er enghraifft, setliadau cyflog uwch a chynnydd yn y cyflog byw, byddai angen iddo ailedrych ar ei raglen lleihau costau a'i haddasu mewn ymateb i hynny.

·         Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, mewn ymateb i gwestiynau ar y cynnydd o £10m yn strategaeth y gyllideb ar gyfer addysg, fod hyn yn cynnwys trosglwyddiadau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer tâl a phensiynau, a'r setliad gwell. Cadarnhaodd hefyd, mewn perthynas â'r diffyg presennol o £3m yn y Gyllideb a Ddirprwyir i'r Ysgolion, fod swyddogion yn gweithio gyda'r ysgolion yr effeithir arnynt i fynd i'r afael â'u diffygion.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar risgiau cynhenid a oedd yn rhan o strategaeth y gyllideb, e.e. chwyddiant, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y strategaeth yn adlewyrchu cyfradd chwyddiant o 2%, yn unol â rhagamcanion Banc Lloegr. Fodd bynnag, gan fod y gyfran fwyaf o wariant y Cyngor yn ymwneud â chostau staff a chostau gofal a gomisiynir, a oedd yn gysylltiedig â'r cyflog byw, roedd y twf mewn cyflog yn fwy o risg na chwyddiant. Er enghraifft, roedd strategaeth y gyllideb a gyhoeddwyd ar 30 Rhagfyr yn rhagdybio y byddai'r cyflog byw yn cynyddu i £8.63. Fodd bynnag, ar 31 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n cynyddu i £8.72, sef cynnydd o 9c yr awr neu dros £400,000 yn fwy nag amcangyfrif y gyllideb.

·         Cyfeiriwyd at atodiad A(i) a'r arbedion effeithlonrwydd o ran rheoli a nodwyd mewn perthynas â Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, Canolfan Hamdden Sanclêr a'r Gât, Sanclêr. Ceisiwyd eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'u datblygiad posibl yn y dyfodol yn deillio o ymweliadau safle diweddar y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod trafodaethau'n parhau mewn perthynas â'r cyfleusterau hynny, ac y byddai adroddiadau arnynt yn cael eu cyflwyno drwy broses wleidyddol y Cyngor maes o law.

·         Cyfeiriodd y Pwyllgor at wasanaeth llyfrgelloedd ac amgueddfeydd y Cyngor ac at ei ymweliadau safle blaenorol. Mynegwyd barn, oherwydd lefel yr ail-ddatblygu a oedd yn cael ei wneud/ei gynllunio ar gyfer y gwasanaeth, y byddai'n fanteisiol i'r ymweliadau hynny gael eu cynnal eto.

·         Mewn ymateb i sylw ar ddiffyg canolfan groeso yn Llanelli, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod staff yn yr Hwb wedi cael eu huwchsgilio ac y gallent roi cyngor i dwristiaid. Fodd bynnag, gallai edrych ar yr angen i gyfeirio pobl at y ddarpariaeth honno gyda chydweithwyr o'r Tîm Twristiaeth ym maes adfywio.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y Cyngor yn ddiweddar wedi ymuno â phrosiect twristiaeth newydd gydag Iwerddon o'r enw 'Llwybrau Celtaidd', a ariennir drwy grant gan yr ERDF, gyda'r nod o annog pobl i ymweld â rhannau o'r Sir nad ymwelir â hwy fel arfer, a bod gwefan yn hysbysebu'r prosiect hwnnw wedi'i lansio'n ddiweddar.

·         Cyfeiriwyd at y gostyngiad yn grant nofio am ddim Llywodraeth Cymru a'r effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar iechyd plant a'u gallu i nofio. Awgrymwyd bod y Cyngor yn ariannu'r gostyngiad yn y grant.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, yn y blynyddoedd diwethaf, fod yr awdurdod wedi cael llai o grant gan Lywodraeth Cymru i gymryd rhan yn y rhaglen nofio am ddim i rai dan 16 oed a rhai dros 65 oed. O ganlyniad i ostyngiadau diweddar yn y grant hwnnw, bu'n rhaid i'r awdurdod leihau nifer yr amseroedd nofio cyhoeddus sydd ar gael ar gyfer nofio am ddim.

 

Cyfeiriodd hefyd at ddadleuon blaenorol y Pwyllgor ar y gost i ysgolion cynradd o orfod mynd â phlant i nofio fel rhan o gwricwlwm presennol Cyfnod Allweddol 2. Yn flaenorol, roedd y nofio hwnnw'n rhad ac am ddim, ond mae tâl o tua £2.10 fesul disgybl yn cael ei godi erbyn hyn ac mae'n rhaid i'r ysgolion dalu costau cludiant hefyd.  Er nad yw'r cwricwlwm newydd, sydd i'w gyflwyno yn 2021, yn ei gwneud yn benodol ofynnol i ysgolion ddarparu gwersi nofio, byddai unrhyw leihad yn y ddarpariaeth honno yn effeithio ar lefelau presenoldeb ym mhyllau nofio'r Cyngor, ac ar ei wersi nofio am dâl.

 

Gan ystyried yr uchod, cyfeiriodd y Pwyllgor at y swm wrth gefn o £293,000 nad yw wedi'i neilltuo yn strategaeth y gyllideb a mynegodd y farn y dylai'r Bwrdd Gweithredol ystyried defnyddio cyfran o'r swm hwnnw i ariannu'r gost amcangyfrifedig o £150,000 i ysgolion cynradd o ddarparu nofio fel rhan o'r cwricwlwm CA2 presennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 – 2022/23 yn cael ei dderbyn.

4.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

4.3

Argymell bod y Bwrdd Gweithredol, fel rhan o'r ymgynghoriad cyllidebol, yn ariannu'r gost amcangyfrifedig o £150,000 i ysgolion cynradd o ddarparu gwersi nofio fel rhan o gwricwlwm Cyfnod Allweddol 2, a bod y gost honno'n cael ei thalu o'r swm wrth gefn o £293,000 nad yw wedi'i neilltuo yn strategaeth y gyllideb.

4.4

Bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliadau safle â llyfrgelloedd ac amgueddfeydd y Cyngor.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau