Agenda item

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2020 - 2023

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes Drafft 2020 – 2023 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Hamdden. Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl cael sylwadau ac ymgysylltu â'r pwyllgor craffu, aelodau etholedig a grwpiau staff.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, mewn ymateb i gwestiwn ar ‘fuddsoddi er mwyn arbed’ yn 5 canolfan hamdden y Cyngor i leihau'r defnydd o ynni, mai costau ynni ar gyfer gwresogi pyllau nofio oedd y gost fwyaf a wynebai'r canolfannau. Er mwyn mynd i'r afael â'r rheiny, roedd pob canolfan wedi cael ei hasesu'n annibynnol gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ac roedd trafodaethau ar y gweill i weld pa waith ychwanegol y gellid ei wneud i wella mesurau a gyflwynwyd yn flaenorol ar gyfer lleihau ynni. Roedd y mesurau blaenorol hynny wedi cynnwys gosod gorchuddion pwll nofio yn y 5 pwll, yn ogystal â phaneli solar yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin o dan y cynllun 'buddsoddi er mwyn arbed'. Fodd bynnag, gyda chynnydd o £70,000 mewn costau ynni, roedd angen mesurau lleihau pellach i wrthbwyso'r cynnydd hwnnw.

 

Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod y Cyngor ar hyn o bryd yn trafod buddsoddiadau mewn technoleg gyda'i ymgynghorwyr ynni 'Ameresco' er mwyn lleihau'r defnydd o ynni yn ei eiddo, gan gynnwys pyllau nofio, a allai gynnwys paneli solar a gwelliannau o ran goleuadau. Rhagwelwyd y byddai'r gwaith hwnnw'n dechrau'n ddiweddarach yn 2020.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar y cyfeirnod risg SS600018 yn ymwneud â diogelwch cyfranogwyr, yn enwedig o amgylch ardaloedd d?r, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden ei fod yn cwmpasu'r risgiau y mae'n rhaid i'r Adran eu hystyried o ran y potensial i bobl foddi a chynnal ac adolygu mesurau i leihau'r risg honno. Er enghraifft, er bod achubwyr bywydau hyfforddedig ar ddyletswydd bob amser yn holl ganolfannau hamdden y Cyngor, mae'r ddarpariaeth honno'n anoddach mewn perthynas ag ardaloedd morol ac ardaloedd d?r eraill. O ran traethau a reolir gan yr awdurdod ym Mhen-bre/Cefn Sidan, mae'r RNLI yn darparu achubwyr bywydau yn ystod misoedd yr haf. Mae'r Adran yn cydnabod y risg sy'n deillio o weithgareddau d?r ac mae'n cael ei monitro yn barhaus.

·         Cyfeiriwyd at elfen y gwasanaethau diwylliannol yn y cynllun busnes sy'n ymwneud â datblygu'r Stordy a chyflawni cynllun trawsnewid yr amgueddfeydd. Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai unrhyw ddwy amgueddfa yn cael eu cau ar yr un pryd heb fod dewisiadau eraill ar gael.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau mewn perthynas â'r Stordy a bod y cyfnod sychu o 12 wythnos yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod yr amodau'n briodol ar gyfer yr archifau a fydd yn cael eu storio. Rhagwelwyd y byddai'r adeilad yn agor tua diwedd gwanwyn 2020.

 

O ran cynllun trawsnewid yr amgueddfeydd, byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau na fydd unrhyw gyfleusterau yn cael eu cau ar yr un pryd, ac mae'n bwysig, pan fydd cyfleusterau yn cael eu cau, fod yr awdurdod yn rhoi gwybod i'r cyhoedd am hynny, gan eu cyfeirio at ddewisiadau eraill addas. Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig osgoi unrhyw oedi o ran y gwaith, gan y gallai hynny arwain at gostau uwch a byddai angen cynnal trafodaethau gyda chontractwyr y Cyngor am amseriad y gwaith.

·         Cyfeiriwyd at y gwaith a wnaed ac a gynlluniwyd mewn perthynas â Pharc Gwledig Pen-bre, gan ei wneud yn un o'r tri phrif atyniad i ymwelwyr yng Nghymru. Gofynnodd aelodau'r ward leol am i'w gwerthfawrogiad i'r Cyngor am ei fuddsoddiad yn y parc gael ei gofnodi yn y cofnodion.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar y gwaith sydd i'w wneud ar Waliau Harbwr Porth Tywyn, adroddwyd bod dogfennau tendro i fod i gael eu dychwelyd yn fuan ac y disgwylir i'r gwaith ddechrau ddiwedd gwanwyn 2020, gydag amserlen gwblhau o 6 mis.

·         O ran cwestiwn ar ffactor risg SS600019 ar hamdden (cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus barhaus ar gyfer y gwasanaeth), dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y gwasanaeth yn anstatudol i raddau helaeth a'i fod felly'n dibynnu ar gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus. Os na fydd y gefnogaeth honno'n parhau, gallai'r ddarpariaeth yn y dyfodol fod mewn perygl. Fodd bynnag, mae'r gefnogaeth yn gryf iawn ar hyn o bryd.

·         Cyfeiriwyd at flaenoriaeth y gwasanaeth o ran gweithio gyda chynghorau tref a chymuned i ddarparu gwasanaethau hamdden ac a oedd y Cyngor yn gwneud unrhyw gyfraniad ariannol i'r awdurdodau hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden, lle bynnag y bo'n bosibl, fod y Cyngor yn hawlio arian adran 106 o ddatblygiadau cynllunio i'w fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden lleol. Gwnaed gwaith gyda'r awdurdodau hynny i nodi ffyrdd o wneud y mwyaf o'u buddsoddiadau sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau. Roedd nifer o enghreifftiau hefyd o'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned a chlybiau chwaraeon preifat i ddatblygu cyfleusterau hamdden.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar sicrhau bod cartrefi preifat yn cael eu defnyddio unwaith eto, dywedodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod Tasglu'r Cymoedd wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar i gynnwys rhannau o Sir Gaerfyrddin, gan alluogi'r Cyngor i gael gafael ar adnoddau ychwanegol i wella cartrefi.

·         O ran yr amser a gymerir i ddychwelyd eiddo gwag i'r stoc dai i'w hailosod, adroddwyd bod hynny'n bedair wythnos ar gyfartaledd. Mewn perthynas ag eiddo gwag hirdymor y Cyngor, er bod rhaglen sydd wedi'i chyllido'n llawn wedi'i chyflwyno i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio unwaith eto, mae oedi wrth ei gweithredu oherwydd anawsterau o ran argaeledd contractwyr. Fodd bynnag, o'r 90 eiddo dan sylw, roedd 50 wedi'u rhoi i gontractwyr ac roeddent yn y broses o gael eu hadnewyddu ac, fel arfer, maent yn cymryd hyd at 120 diwrnod i'w cwblhau.

·         O ran datganiad ar argaeledd llety dros dro yn y Sir, dywedodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cynllun comisiynu yn cael ei ddatblygu i ddarparu llety llai o faint sydd wedi'i wasgaru'n well ac y câi ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Drafft yr Adran Cymunedau ar gyfer 2020 - 2023 yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau