Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2020/21 I 2024/25

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2020/2021 hyd at 2024/2025. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £106.393m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf am 2020/21. Y bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £57.563m o'r rhaglen drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn a'r grant cyfalaf cyffredinol a bod y £48.830m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd y rhagwelid y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido'n llawn dros y cyfnod o bum mlynedd o 2020/21 hyd at 2024/2025.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y rhaglen yn cynnwys gwariant arfaethedig ar brosiectau Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Abertawe y byddai'r awdurdod yn benthyca yn eu herbyn, gyda'r cyllid yn cael ei ddychwelyd o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros gyfnod o 15 mlynedd (o 2018/19).

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Bwrdd fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn rhagweld gwariant o bron i £255m dros y pum mlynedd a bod y rhaglen yn gwneud y gorau posibl o'r cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael o ffynonellau allanol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol nad oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw ragamcanion mewn perthynas â'r cyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2020/21 a bod y rhaglen, o ganlyniad i hyn, yn seiliedig ar y ffaith y byddai benthyciadau â chymorth a grantiau cyffredinol yn parhau ar yr un lefel â 2020/21.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad wedi'i wneud yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai.  Yn y Gwasanaethau Cymunedol, roedd y rhaglen gyfalaf yn buddsoddi mewn gwasanaethau hamdden a diwylliannol gan gynnwys £1.9m i Oriel Myrddin, £650k i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin a'r cymorth parhaus ar gyfer tai yn y sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol y byddai cymorth yn parhau ar gyfer gwella priffyrdd, cynnal a chadw pontydd, a chynlluniau diogelwch ffyrdd yn 2024/25. Byddai cyllid ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd yn cael ei gryfhau yn 2020/21 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y bu'n bosibl gwneud ymrwymiadau ychwanegol ar draws ystadau'r Cyngor gyda darpariaeth o £2.5m ar gyfer gwaith hanfodol i Neuadd y Sir, £500k ar gyfer gwaith yn Nh? Elwyn a £3.9 m tuag at gynnal a chadw parhaus ar draws yr ystâd yn 2020/24. Byddai arian newydd yn cael ei ddarparu ar gyfer mentrau Carbon Sero-net ar draws yr ystâd.

 

Yn ogystal, byddai £2.7m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw adeiladau ysgolion.  Roedd £4m wedi gynnwys ar gyfer ailddatblygu Neuadd y Farchnad, Llandeilo a £850k ar gyfer y buddsoddiad parhaus yn Ystâd Ddiwydiannol Glanaman.  Roedd £500k wedi'i ddyrannu hefyd tuag at y camau gweithredu gofynnol yn dilyn yr Argyfwng Hinsawdd a gafodd ei ddatgan yn 2019/20.

 

Gofynnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i'r Bwrdd Gweithredol nodi'r manylion cynhwysfawr a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, ynghyd â'r rhestr o flaenoriaethau wrth gefn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

7.1

bod y cyllid a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'u nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, gyda 2021/22 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2021/22 i 2024/25 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo

7.2

bod y rhaglen yn cael ei hadolygu oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir

7.3

bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei chymeradwyo

7.4

bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru ar 25 Chwefror 2020.

 

Dogfennau ategol: